4,000 yn gorymdeithio yng Nghaerffili

 

 

Dydd Sadwrn, 4 Hydref gorymdeithiodd dros 4000 o bobl leol trwy ganol Caerffili i roi croeso swyddogol i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd fydd yn ymweld â Chaerffili a’r Cylch yn 2015.  Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar dir Llancaiach Fawr ger Nelson 25 – 30 Mai 2015.

 URDD Caerffil

Cafodd yr orymdaith ei harwain gan fand samba y sir a Mistar Urdd i Gastell Caerffili ble cafodd y cerddwyr prynhawn o adloniant.

 

Dywedodd Aled Sion, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, “Cawsom ddiwrnod gwych yng Nghaerffili gyda nifer dda iawn o blant lleol wedi ymuno yn yr orymdaith.  Mae’r brwdfrydedd sydd yn yr ardal tuag at yr Eisteddfod yn anhygoel a chriw arbennig o wirfoddolwyr yn gweithio’n galed yma.  Os bydd yr Eisteddfod mor lwyddiannus a’r wyl gyhoeddi, mi fydd gennym Eisteddfod i’w chofio yma yng Nghaerffili a’r Cylch mis Mai 2015.”