<< Dewisiadau   

Tudalen Nesaf >

DATHLU ADDYSG GYMRAEG


Llongyfarchiadau i Ysgol Pont Siôn Norton ar ddathlu hanner canrif o addysg Gymraeg ym Mhontypridd. Hefyd i Ysgol Gymraeg Llantrisant ar gyrraedd hanner ffordd, sef 25 mlynedd o weithgarwch.
   Mae'n amlwg fod addysg Gymraeg wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn yr ardal hon yn bennaf oherwydd ymroddiad athrawon a rhieni a fu'n benderfynol o sicrhau dyfodol i'r iaith Gymraeg.
   Hir y parhaed y llwyddiant hwn a gobethio y gwelwn, cyn bo hir, nifer o ysgolion cynradd Cymraeg newydd yn agor yn Nhaf Elái.
   Ond mae angen cefnogaeth sylweddol i sicrhau fod y gwaith da a wneir yn ein hysgolion yn cael ei gynnal tu fas i furiau addysg ffurfiol.
  Mae gan y Fenter Iaith a mudiadau eraill rhestr siopa faith o syniadau i ddarparu cyfleusterau a gweithgareddau i  ddatblygu'r Gymraeg. Ond heb gefnogaeth a chyllid digonol ni ellir gwireddu unrhyw gynllun.
   Mae'r Cynulliad wedi cael gwybodaeth o bob cwr o Gymru ar gyflwr yr iaith. Yn y flwyddyn nesaf disgwyliwn i'n Gwleidyddion weithredu a chefnogi mudiadau a chyrff Cymraeg i sicrhau fod yr iaith yn datblygu ac yn parhau i fod yn rhan annatod o fywyd ein cenedl.

GÐYL DDRAMA LWYDDIANNUS

Ifan Huw Dafydd, Beirniad yr Ðyl Ddrama gyda Catrin Parry Jones a Ioan Davies cyd-ysgrifennwyr Panto buddugol Ysgol Llanhari

Cafwyd tair noson llawn o gystadlu a pherfformio brwd yng Ngðyl Ddrama Tafod Elái ym mis Tachwedd.
   Roedd yn amlwg fod paratoi trylwyr wedi bod ar y cynhyrchiadau ac roedd y cynulleidfaoedd wedi eu plesio.
   Diolch i'r holl gwmnïau am gymeryd rhan ac yn arbennig i Colin Williams am drefnu'r cyfan.

GOFAL YN GYMRAEG

Mae'r Fenter Iaith, yn falch i gyhoeddi ei bod wedi cyrraedd y nod o agor 17 o Clybiau Carco (gofal a ôl ysgol).
   
I lawer o rieni, mae'r cyfnod rhwng 3.30 y prynhawn a 6.00 yr hwyr yn amser anodd o safbwynt casglu a gofalu am eu plant. Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymweld â phob un o'r ysgolion i archwilio y cyfleusterau ac mae'r Fenter yn falch eu bod yn darparu gwasanaeth sy'n cydymffurfio â'i anghenion nhw. Gall rhieni felly fod yn hyderus bod eu plant yn cael y gofal gorau. Mae hefyd yn gyfle i blant ddefnyddio eu Cymraeg tu fas i oriau ysgol.

CYLCH CADWGAN

ANGHARAD TOMOS
Yn trafod ei gwaith ei hun
8pm Nos Wener,
Ionawr 25, 2002
Yn Neuadd y Pentref,
Efail Isaf
Gyda chymorth yr
academi

    << Dewisiadau   

Tudalen Nesaf >