|
DWFN LIWIAU
Cyhoeddir Dwfn Liwiau, cryno ddisg newydd gan Gôr Godre'r Garth yr wythnos hon, yn barod ar gyfer marchnad y Nadolig. Recordiwyd y CD ddechrau mis Tachwedd eleni ac mae'n cynnwys amrywiaeth o ganeuon gan y côr. 'Mae'r recordiad yn cynnwys trawsdoriad ein diddordeb cerddorol' meddai Wil Morus Jones, arweinydd Côr Godre'r Garth, 'o ganeuon traddodiadol digyfeiliant i ganeuon clasurol, modern ac ychydig o jazz'.
Mae'r CD yn cynnwys trefniannau o rai o'n caneuon gwerin mwyaf adnabyddus megis Y Deryn Pur, Lisa Lân, Cân y Melinydd a Beth yw'r haf i mi? yn ogystal â chyfieithiadau o ganeuon jazz cyfarwydd, Dwfn Liwiau (Deep Purple) a Nid Camfihafio (Ain't Misbehaving). Hefyd ceir darnau yn y cywair clasurol megis Bara Angylion Duw (Panis Angelicus) gan César Franck, Yr Arglwydd yw fy Mugail gan Schubert a darn clasurol modern Am brydferthwch daear lawr gan John Rutter. Mae'r CD hefyd yn cynnwys trindod o garolau: Seren Nadolig, Si Lwli ac In Excelsis Gloria. Mae clawr deniadol y CD wedi ei seilio ar ddarlun gan yr artist o Borthmadog, Elfyn Lewis.
Mae'r recordiad yn benllanw dros chwarter canrif o gydweithio rhwng y côr a Wil Morus Jones, yr arweinydd, a Margaret Roberts, y gyfeilyddes, gan fod y ddau'n rhoi'r gorau i'w swyddi wrth i'r recordiad fynd ar werth i'r cyhoedd. 'Rwy'n hynod o falch fod cofnod o dalentau Wil a Margaret wedi ei recordio wrth i'r ddau ffarwelio â'r côr', meddai Carol Williams, y cadeirydd. 'Mae cyfraniad y ddau wedi bod yn aruthrol ar hyd y blynyddoedd ac mae dyled y côr yn fawr iddynt'. Cynhelir cyngerdd Nadolig y côr yng Nghanolfan Hanesyddol Pontypridd nos Sadwrn 8 Rhagfyr am 7:00pm gyda Wil wrth y llyw am y tro olaf. Tocynnau wrth y drws.
|
|