 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
Ymweliad gan yr RSPCA Daeth Mrs Lynwen Pierce o'r RSPCA i'r ysgol yn ddiweddar i siarad â'r plant am edrych ar ôl anifeiliaid anwes a gwyllt. Roedd diddordeb mawr gan blant Dosbarth 3 gan eu bod nhw'n sôn am fywyd gwyllt ac anifeilaid yn eu gwaith gwyddoniaeth y tymor hwn.
Ymweliadau Addysgol Aeth Dosbarth 3 a 4 ar ymweliad y tymor hwn â Llancaiach Fawr. I gyd-fynd â thema'r dosbarth, gwelodd y plant yr hen offer coginio oedd yn y gegin yno. Yn ogystal â'r ymweliad cyffrous yma, ar y ffordd 'nôl i'r ysgol, aeth y plant i Barc Ynys Angharad. Cafwyd amser gwerth chweil yn arsylwi ar arwyddion yr hydref o'u cwmpas. Aeth Dosbarthiadau 5 ac 8 i'r Amgueddfa Werin, Sain Ffagan ar Dachwedd 7fed. Aeth Dosbarth 5 i'r pentref Celtaidd gan eu bod yn astudio bywyd y Celtiaid yn y dosbarth. Mae Dosbarth 8 wedi bod yn astudio cartrefi yn ystod Oes Fictoria felly aethon nhw i ymweld â Thai Rhydycar a'r holl dai eraill sydd yno o gyfnodau gwahanol ac ardaloedd gwahanol ledled Cymru.
Ymweliad gan Olygydd 'CIP' Daeth Siân Eleri i'r ysgol yn ddiweddar. Golygydd cylchgrawn 'CIP' yr Urdd yw Siân. Siaradodd hi â phlant Dosbarth 9 am yr holl waith caled mae hi'n ei wneud i roi rhifyn o'r cylchgrawn at ei gilydd. Ar ôl gwrando'n astud arni yn sôn am yr holl bethau diddorol sydd yn y cylchgrawn, bydd pob plentyn eisiau archebu 'CIP' bob mis.
Elusennau Diwrnod 'Genes For Jeans' ~ Gwisgodd y plant eu jîns i'r ysgol ar Ddydd Gwener Hydref 23ain i godi arian tuag at yr elusen yma. Casglwyd £222 Diwrnod Plant Mewn Angen ~ Gwisgodd y plant ddillad arferol yn lle gwisg ysgol a chasglwyd £144. Elusen 'Operation Christmas Child' ~ Daeth y plant a'r athrawon â 166 o focsys i'r ysgol wedi'u llenwi ag anrhegion di-ri ar gyfer plant bach sy'n llai ffodus na ni. Aiff ein rhoddion ni eleni i Serbia. Diolch yn fawr iawn i'r rhieni am ein cefnogi unwaith eto.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
YSGOL GYMRAEG LLANTRISANT
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
gymdeithasu a mwynhau. Gweithgaredd allgyrsiol arall ar gyfer disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg,Llantrisant. Mae'r plant wedi bod yn ffodus iawn i gymryd rhan mewn nifer o sesiynau difyr yn cynnwys Gemau parasiwt, Parti Calan Gaeaf, Noson Grefftau. Diolch yn fawr iawn i'r staff i gyd am eu hamser a'u hymroddiad.
Llangrannog 2001 Nôl ym mis Medi, treuliwyd penwythnos bendigedig gan dros 40 o blant o Ddosbarth 8 a 9 yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog. Roedd y plant i gyd wedi mywnhau tu hwnt yng nhwmni Mrs Preece, Mr O'Neil a Mr a Mrs Davies. Roedd y tywydd yn braf iawn, felly cafodd y plant ddigon o awyr iach tra'n mwynhau cymryd rhan yn y gweithgareddau. Braf oedd gweld y plant yn cymdeithasu gyda ffrindiau newydd o ysgolion eraill yr ardal.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Llwyddiant ar y Maes Rygbi Mae Nathan Rees, Dosbarth 9, wedi cael ei ddewis i chwarae rygbi dros Ysgolion Pontypridd dan 11. Llongyfarchiadau mawr iddo fe. Cyngherddau'r Nadolig Yr Adran Iau Dydd Gwener Rhagfyr 14eg am 1:30 yng Nghapel Tabor, Llantrisant Adran y Babanod Dydd Gwener Rhagfyr 14eg am 10:00 yng Nghapel Tabor, Llantrisant Yr Uned dan 5 Dydd Iau Rhagfyr 13eg am 2:00 yn Neuadd yr Ysgol Aiff elw'r cyngherddau hyn at gronfa'r Capel.
Adran yr Urdd Cynhelir Adran yr Urdd yn neuadd yr ysgol bob pythefnos ar Nos Iau. Fel arfer, daw dros 80 o blant i'r clwb llwyddiannus yma i
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
CYSTADLEUAETH IOLO MORGANWG 2002 i ddisgyblion ysgolion yr ardal
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Blwyddyn 5 a 6: cerdd ar y testun "Rwy'n hoffi"
Blwyddyn 7: cerdd ar y testun "Damwain"
Blynyddoedd 8 a 9: cerdd ar y testun "Unwaith . . . "
Blynyddoedd 10 ac 11: cerdd ar y testun "Dawns"
Blynyddoedd 12 ac 13: cerdd ar y testun "Fflamau"
Agored: gorffen Triban: "Tri pheth sy'n llonni 'nghalon . . ."
Y cynnyrch i law Rhys Dafis, 'Hiraethog', 48 Parc y Coed, Creigiau, CF15 9LY (029 2089 1360) erbyn 18 Ionawr 2002
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|