Archif Awdur: Golygydd

Meithrin cenhedlaeth newydd o siaradwyr Cymraeg

Cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru yw ‘Cymraeg i Blant’ sy’n canolbwyntio ar gynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg ymhlith plant oedran meithrin. Rheolir y cynllun ar y cyd rhwng Mudiad Meithrin a Llywodraeth Cymru. Bydd y Llywodraeth yn ymgymryd â’r gwaith hyrwyddo cenedlaethol trwy nifer o bartneriaid, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, tra bod y Mudiad yn cynnal gweithgareddau ar lefel leol. Plethir gwaith ‘Cymraeg i Blant’ gyda gwaith ehangach y Mudiad er mwyn sicrhau siwrne gofal/addysg o’r crud i’r ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Meddai Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Dr Gwenllïan Lansdown Davies:

“Yn syml iawn prif nod y cynllun yw cynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg trwy gynnig cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i rieni, darpar rieni a’u teuluoedd ar fuddion addysg Gymraeg a chyflwyno’r Gymraeg yn gynnar i’w plant. Gwyddom fod addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg yn gwbl allweddol i gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg a chynta’ i gyd mae’r plentyn bach yn clywed y Gymraeg, gorau i gyd”.

Ategodd y Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies AC:

“Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru a Mudiad Meithrin yn cydweithio ar raglen newydd ‘Cymraeg i blant’ er mwyn annog a chefnogi teuluoedd i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’u plant. Fel rhiant, rwy’n gwybod bod rôl allweddol gan rieni i’w chwarae yn natblygiad ieithyddol ac addysg eu plant. Bydd y cynllun hwn yn gwneud cyfraniad pwysig i’n nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg drwy gynyddu nifer y plant sy’n siarad Cymraeg ac yn cyrraedd addysg Gymraeg.”

Manylion y cynllun yn fras

Cyflogir rhwydwaith o swyddogion i weithio gyda rhieni, darpar rieni, teuluoedd a phartneriaid yn yr ardaloedd isod. Bydd gwaith ‘Cymraeg i Blant’ o ddydd i ddydd yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Sesiynau teuluoedd – bydd y sesiynau yn cynnig rhaglen o weithgaredd penodol, pwrpasol a defnyddiol i ddarpar rieni, rhieni newydd a’u teuluoedd er mwyn rhannu gwybodaeth a chynnig cefnogaeth ynglŷn â buddion addysg Gymraeg. Rhoddir pwyslais yn y sesiynau ar ‘baratoi’r plentyn’ drwy rannu gwybodaeth ar fagu plant a’u paratoi at dderbyn gofal ac addysg. Yn ogystal rhoddir pwyslais ar ddefnyddio’r dechneg ‘Ymwybyddiaeth Ofalgar’ sy’n gynyddol boblogaidd ar draws y byd yn y sector addysg. Cynigir fod ioga babis/plant yn gyfrwng ymarferol i gyflawni’r elfen yma o’r gwaith. Gall hyn ddigwydd yn y cylch Ti a Fi ac fel arall.
  • Cyflwyno ‘Cymraeg i’r Teulu’ – bydd y cynllun yn cydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol er mwyn datblygu ymhellach y rhaglen ‘Cymraeg i’r Teulu’ a darpariaethau cefnogol eraill.
  • Gweithio mewn partneriaeth ar lawr gwlad – bydd y swyddogion yn gweithio mewn partneriaeth gydag ystod o bartneriaid cenedlaethol a lleol yn cynnwys Yr Urdd, Merched y Wawr, Mentrau Iaith Cymru, Yr Eisteddfod Genedlaethol, Clybiau Ffermwyr Ifanc, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Mumsnet, NCT, Dechrau’n Deg er mwyn rhannu gwybodaeth ynglŷn â ‘Cymraeg i Blant’ a chodi ymwybyddiaeth o fanteision gofal ac addysg Gymraeg.
  • Cynllunio Strategol – bydd y cynllun yn cefnogi amcanion Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg yr Awdurdodau Lleol drwy gyfrannu at y gwaith cynllunio ar lefel leol a strategol. Yn yr un modd, rhennir gwybodaeth gyda darpar rieni a rhieni newydd am fuddion gofal ac addysg Gymraeg trwy gydweithio strategol gyda bydwragedd, ymwelwyr iechyd a’r proffesiwn iechyd a bydd ffolderi beichiogrwydd, cardiau sgan, llyfrynnau magu plant ayyb yn cynnwys negeseuon ‘Cymraeg i Blant’.

Meddai Dinah Ellis, Rheolwr Cenedlaethol ‘Cymraeg i Blant’:

“Mae’r Gymraeg yn llai tebygol o gael ei defnyddio o fewn teuluoedd lle mai dim ond un

rhiant/gofalwr sy’n siarad Cymraeg. Mae annog trosglwyddiad iaith o’r rhiant i’r plentyn yn allweddol felly a gwnawn hyn drwy sicrhau ystod o weithgareddau hwyliog cymunedol sy’n cefnogi defnydd o’r Gymraeg”.

COFIO MERÊD: DYN AR DÂN

COFION CANRIF O DDYN, EI HUD A’I LED

 Fe gollodd y genedl gawr o ddyn a oedd ar dân dros Gymru a’r Gymraeg pan fu farw Meredydd ‘Merêd’ Evans ar yr 21ain o Chwefror 2015.

Nawr, yn Merêd: Dyn ar Dân fe drafodir y cyfraniad aruthrol a wnaeth Merêd i ddiwylliant a gwleidyddiaeth Cymru yn ogystal â’r dyn ei hun – y dyn annwyl, agos atoch, nad oedd dim yn bwysicach iddo na’i filltir sgwâr.

MeredMae amrywiaeth y cyfranwyr i’r gyfrol hon yn dyst i boblogrwydd Merêd ymhlith pobl o bob oed. Ceir ysgrifau gan nifer helaeth o awduron yn cynnwys Angharad Tomos, Gai Toms, Lyn Ebenezer a Cynog Dafis – pob un yn talu teyrnged i Merêd, i’w athrylith a’i ddycnwch, i’w weledigaeth a’i anwyldeb.

Ceir ysgrif hefyd gan y diweddar, yr Athro Gwyn Thomas, fu farw ar yr 13 o Ebrill eleni.

Ceir hefyd ynddi gerddi teyrnged, a cherdd olaf Merêd ei hun, ynghyd â llu o luniau o bob cyfnod o’i fywyd.

‘Un o deyrngedau mwyaf y gyfrol hon yw’r un ‘anysgrifenedig’, sef bod awduron o bob degawd o oedran o’u hugeiniau i’w nawdegau wedi cyfrannu. Mae pob un, yn ei faes ei hun, ac yn ei arddull ei hun am gydnabod eu diolchgarwch i Merêd,’ meddai Rocet Arwel Jones.

Yn y gyfrol cydnabyddir ei gyfraniad fel darlledwr, athronydd, perfformiwr, ymchwilydd, addysgwyr; i sefydlu’r papurau bro, y S4C, a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ymhlith llu o bethau eraill. Gwnaeth gyfraniadau mawr ac arhosol i Gymru yn ystod bron i ganrif o fodolaeth.

‘Roedd yn ymgyrchydd ym mhopeth roedd o’n wneud – o ennill ei fara menyn fel darlithydd a chynhyrchydd teledu i ymgyrchoedd addysg, darlledu a deddf iaith,’ ychwanegodd Rocet Arwel.

Golygwyd y gyfrol gan Eluned Evans, merch Merêd, gyda chymorth Rocet Arwel Jones.

‘Roedd yn ddyn y llwyfannau mawr cenedlaethol a rhyngwladol, ond eto doedd dim byd yn bwysicach iddo na’i filltir sgwâr. Aeth a Thanygrisiau gydag o i Fangor, America a Chaerdydd ac yn y diwedd i Gwmystwyth, lle y bwriodd wreiddiau dyfnion,’ meddai Rocet Arwel Jones.

Ganwyd Rocet Arwel Jones yn Rhos-y-bol, Ynys Môn a’i addysgu yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Rhos-y-bol, Ysgol Uwchradd Amlwch a Phrifysgol Cymru Aberystwyth.  Mae eisoes wedi cyhoeddi dau lyfr taith doniol am ei brofiadau yn Africa a Kenya, cyfrol o gyfweliadau gydag Emyr Humphreys a chyfrol o hanes llafar ar droad y mileniwm.  Mae’n llais cyfarwydd ar Radio Cymru ac ar S4C ac wedi cyhoeddi cerddi ac ysgrifau yn Taliesin, Tu Chwith, Barn, Golwg, Y Traethodydd ac ar y we. Mae’n briod â Sharon ac yn dad i dri o fechgyn.

Bydd cyngerdd goffa Merêd yn dathlu’r traddodiad gwerin Cymraeg yn cael ei gynnal ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar ddydd Sul Mai y 1af ble cyflwynir copi i Eluned Evans.

Mae Merêd: Dyn ar Dân (£9.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

 

PARTI PONTY 2016

Parti Ponty 2016Gŵyl Gymraeg i bawb

Yn dilyn llwyddiant Parti Ponty llynedd lle croesawyd dros 5000 o ymwelwyr, byddwch yn falch iawn i glywed fod yr ŵyl undydd enwog hon yn ôl eleni. Bydd yn digwydd ar ddydd Sadwrn yr 16eg o Orffennaf ym Mharc Ynysangharad rhwng 10yb a 7yp.

Mae’r ŵyl wedi ei threfnu gan yr elusen Gymraeg, Menter Iaith Rhondda Cynon Taf sydd â’u Swyddfa ym Mhontypridd. Bydd Parti Ponty yn rhoi llwyfan i gymysgedd o berfformwyr a grŵpiau sy’n gweithio’n Gymraeg. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gasglu gwybodaeth am lawer o wasanaethau a mudiadau Cymraeg sy’n gweithredu yn yr ardal. Mae’r Fenter wedi trefnu’r digwyddiad gydag ymrwymiad a chydweithrediad eu partneriaid, felly bydd pawb yno!

Mae Parti Ponty wedi tyfu ac yn datblygu wrth i’r Fenter ymateb i’ch adborth a hyn wrth gwrs yn holl bwysig gan mai eich Gŵyl Gymraeg chi yw hwn.

Dywed Einir Sion, Prif Weithredwraig Menter Iaith RhCT,

“Mae’n bleser cyhoeddi bod Parti Ponty yn ôl eto eleni. Profodd lwyddiant ysgubol yr ŵyl llynedd bod lle pwysig i Parti Ponty yng nghalendr blynyddol y Sir. Rydym wedi ymateb i adborth a gasglwyd llynedd wrth ei datblygu felly bydd mwy o weithgareddau i blant a phobl ifanc yn ogystal a mwy o stondinau ac oriau rhedeg hirach. Rŷ’n ni’n disgwyl ymlaen i’ch gweld chi yno yn profi gwir Gymreictod yr ardal yn y diwrnod llawn hwn”.

Parti Ponty SiwpyrtedEleni bydd yn ddiwrnod teuluol a chymunedol bendigedig gyda llawer o stondinau, cerddoriaeth a gweithdai. Mae Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf a Loteri Treftadaeth yn cefnogi’r Ŵyl, hyrwyddwyr ifanc yn trefnu’r ‘Lolfa’, Addysg Oedolion a Chymraeg I Oedolion yn trefnu ‘Y Bont’ yn ogystal â llu o weithdai a gweithgareddau.

Yn ogystal â’r tipis cyfarwydd:

‘Y Cwtsh’, tipi plant ifanc a theuluoedd

‘Y Lolfa’, tipi ieuenctid gyda bandiau a DJ’s ardderchog

‘Y Bont’, pabell yn addas i oedolion a dysgwyr gyda sgyrsiau difyr a pherfformiadau amrywiol. Bydd mwy o stondinau arbennig, llefydd i ymlacio ac ardaloedd newydd sbon!

Os ydych chi’n wyddonwr ifanc brwdfrydig ac yn mwynhau’r Wyddonle yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn byddwch wrth eich bodd yn ein hardal gwyddoniaeth ardderchog a’r gweithgareddau hyfryd i gyd wedi ei selio ar thema treftadaeth diwydiannol yr ardal.

I bawb sy’n greadigol bydd yr ardal creu lle gewch chi gyfle i ddylunio, peintio, lliwio a gludo o fore tan hwyr. Thema’r gweithgareddau celf a chrefft bydd ‘art deco’ i gydfynd gyda’r chyfnod adeiladwyd y Lido ym Mhontypridd. Bydd cyfle i arddangos y gwaith arbennig ar ddiwedd y dydd pan fydd parêd lliwgar i’r plant.

Bydd corau ysgolion lleol yn perfformio trwy’r dydd yng nghanol y dref ac yn yr ŵyl ar y llwyfan perfformio newydd yn y bandstand.

I’r ymwelwyr mwya’ bywiog bydd sleid bownsio!

Os ydych chi dal yn egniol ar ôl hyn i gyd ac awydd i ddawnsio trwy’r nos bydd noson o adloniant yng Nghlwb y Bont a’r Muni Newydd tan yn hwyr.

Mae’r cyffro yn adeiladu yn y Fenter ac ar hyd y Sir gyda ysgolion wrthi yn barod yn cymryd rhan mewn gweithdai cerddoriaeth a phawb yn mwynhau gweithdai cymunedol sydd i gyd yn arwain i fyny at y diwrnod mawr.

Arbrawf disgyblion o Gymru’n cael ei yrru i’r gofod

O newyddion BBC Cymru

Bydd arbrawf gafodd ei lunio gan ddisgyblion ysgol yng Nghymru yn cael ei lansio i’r gofod ddydd Gwener. Y gofodwr Tim Peake fydd yn cynnal yr arbrawf.

Bydd chwain dŵr yn cael eu lansio i’r Orsaf Ofod Rhyngwladol o Cape Canaveral yn Florida ychydig cyn 22:00.

Wedi iddyn nhw gyrraedd, bydd Mr Peake yn astudio os gall y chwain fyw yn y gofod, a sut y maen nhw’n cenhedlu yno.

Chwe disgybl o Rhondda Cynon Taf wnaeth lunio’r syniad i ennill cystadleuaeth Mission Discovery 2013.

20160408gofod

Fe wnaeth y gofodwr Mike Foale weithio ar y cynllun gyda Liam Collins-Jones, Rhiannydd Thomas, Sion Phillips a Trystan Gruffydd o Ysgol Gyfun Garth Olwg, Georgia Bailey o Ysgol Tonyrefail ac Ieuan Williams o Ysgol Uwchradd Aberdâr.

Dywedodd gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Addysg yr Ysgol Ofod Rhyngwladol, Chris Barber: “Mae Mission Discovery yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc cyffredin wneud rhywbeth arbennig.

“Rydyn ni’n falch iawn o greu cyfleodd mor anhygoel i ddisgyblion ysgol yn ne Cymru.

Canolfan Gymraeg yr Andes

canolfan yr andesBraf ydoedd clywed am agor Canolfan Gymraeg yng Nghaerdydd.  O’r diwedd!  Dylai hon wneud byd o wahaniaeth i Gymry’r Brifddinas, boed yn siaradwyr Cymraeg neu yn ddysgwyr. Adeilad amlbwrpas ar gyfer pobl o bob oed.

Fel yr athrawes gyntaf a fu’n gweithio yn yr Andes o dan y Cynllun Dysgu Cymraeg ga i ddweud mor falch y mae ‘Cymry’ Esquel  o’u Canolfan hwythau.  Pan gyrhaeddais i yno ym 1997 yr unig gyfle gaent i gymdeithasu oedd ar y Sul, a hynny ond yn achlysurol, gan mai dim ond rhyw bedair neu bum gwaith y flwyddyn yr agorai capel Seion ei ddrysau!  Buan y newidiodd pethau ar ôl i mi gyrraedd oherwydd wrth dderbyn arweiniad bu yno addoli cyson.
Gwelais, er hynny, nad oedd gan yr Archentwyr hyn o dras Cymreig fodd i gwrdd â’i gilydd, i fwynhau nosweithiau llawen, i gynnal twmpath, i baratoi ar gyfer yr eisteddfodau nac i wylio’r tapiau fideo y byddent yn eu derbyn yn rheolaidd gan garedigion o Gymru.  Codi Canolfan oedd yr unig beth amdani!

Dyma fynd ati i ‘werthu brics’ ar eu rhan – punt y fricsen!  Yn Eisteddfod Penybont ar Ogwr ym 1998 i ddechrau ac yna yn Eisteddfod Môn, Llanelli a Thyddewi.  Llythyru papurau bro, cymdeithasau o bob math, clybiau cinio a chorau. Derbyn rhoddion gan unigolion ledled Cymru.  Trosglwyddo’r symiau arian gan gynnwys pob ffi am annerch hwnt ac yma i ofal pobl gyfrifol yn Esquel. Digon o bres i osod y sylfaen i ddechrau, gefngefn â’r capel,  ac ymlaen nes bod digon i godi Canolfan braf a hynny gyda chydweithrediad y bobl draw heb anghofio’r gefnogaeth a gafwyd gan lywodraeth y Dalaith.

Llwyddwyd i agor y Ganolfan ym mis Mawrth 2002 ac erbyn hyn mae wedi agor ei drysau i gannoedd o ymwelwyr o Gymru ac wedi paratoi gwledd o fwyd ar eu cyfer. Ond nid croesawu ymwelwyr yn unig yw amcan y Ganolfan. Mae’r adeilad ar agor yn ddyddiol er mwyn cynnal dosbarthiadau Cymraeg i siaradwyr a dysgwyr o bob oed a chefndir. Ceir cegin fach yno lle bydd y tegell bob amser yn mudferwi ar gyfer cymryd tot o FATE!   Yn y Ganolfan mae’r llyfrgell a’r ffilmgell. Dyma lle bydd y plant yn eistedd wrth draed eu hathrawon a’r bobl ifainc, trwy weithgareddau Menter Patagonia, yn cynnal twmpath ac yn cael hwyl ar actio a choginio.
Dim rhagor o orfod llogi ystafell yma ac acw a neb yn gwybod yn union beth oedd yn digwydd.
Dim o’r fath oherwydd mae gan Gymry Esquel, bellach, eu haelwyd eu hunain.

Â’r adeilad bron â bod yn 14 oed mae galw am estyniad.  Mae galw am ddwy ystafell ddosbarth, am swyddfa fechan, am ‘departamento’ ar gyfer yr athrawon a ddaw o Gymru ac i’r gwirfoddolwyr fydd yn cynnig eu gwasanaeth yn eu tro. Mae’r estyniad newydd ar ei hanner a does fawr o obaith cwblhau’r gwaith heb gymorth ariannol o Gymru.  Derbyniwyd swm o arian tuag at y prosiect gan lywodraeth y Dalaith, ond mae hwn eisoes wedi’i wario!  Disgynnodd y ‘peso’ yn ei werth ac mae costau byw ar ôl i’r llywodraeth newydd ddod i fod wedi mwy na dyblu.

Dyma fi, felly, unwaith eto yn cymryd y cyfrifoldeb o ofyn am gyfraniadau gan sefydliadau a chymdeithasau ac unigolion.  Gwn fod galwadau lu arnom yng Nghymru y dyddiau hyn, ond os oes rhywun yn teimlo ar ei galon y gall gyfrannu swm o arian, boed fach neu fawr, a fyddwch mor garedig, os gwelwch yn dda, â chysylltu â mi.  Mae cyfrif yn dal i fod ym Manc Lloyds, Rhydaman yn dwyn yr enw ‘CANOLFAN GYMRAEG YR ANDES.’

Yr eiddoch yn gywir,
Hazel Charles Evans,
Llais yr Andes,
Llandybïe,
Rhydaman SA18 2TH

Mae Tintin nôl â dwy antur gyffrous

 Mae Tintin a’i gymar ffyddlon Milyn yn dychwelyd mewn dwy antur helbulus newydd yn Gymraeg – y naill yn mynd â ni ymhell draw draw i Tsieina, a’r llall yn berlen o antur!

   Alaw’r Dŵr yw’r stori sy’n dilyn yn syth wedi Mwg Drwg y Pharo. Wrth iddo fwynhau byw ym mhalas Maharaja Pajamagoulan yn yr India, daw neges yn galw ar Tintin i fynd i Shanghai. Ar ôl cyrraedd yno mae pawb y mae e’n cyfarfod â nhw yn cael eu taro gan y gwenwyn gwallgo, a hwnnw’n fygythiad hefyd i Tintin ei hun. Mae gwleidyddiaeth gythryblus Tsieina yn rhoi bywyd Tintin mewn perygl, ond er bod cymorth brodorol wrth law, tybed a fydd hynny’n ddigon i sicrhau llwyddiant i Tintin yn erbyn ei wrthwynebwyr?!

Alaw’r Dŵr £6.99

tintin2

Perdlysau Castafiore : Bianca Castafiore, y ddiva osgeiddig fyd-enwog yw canolbwynt yr antur hon sydd yn llawn troeon trwstan ac â rhyw awgrym o gomedi. Mae Castafiore yn ymweld â’r Capten Hadog ym Mabelfyw Bach, a thra ei bod hi yno mae’r hanes yn mynd ar led ei bod hi a’r Capten am briodi. Gyda hynny, daw cartref y Capten dan chwyddwydr y paparazzi, ac yng nghanol yr holl sylw, mae perdlysau drudfawr Castafiore yn diflannu — a’r cyhuddiadau’n rhemp wrth i Tintin a Parry-Williams a Williams-Parry geisio darganfod pwy yw’r lleidr.

 Perdlysau Castafiore £6.99

tintin

Ar gael i’w archebu ar dalenllyfrau.com

   Cofiwch bod gweddill cyfres Tintin yn Gymraeg ar gael ar dalenllyfrau.com – lle cewch chi hyd i’r gyfres hefyd mewn Gwyddeleg, Gaeleg, Cernyweg a Sgoteg

Geiriadur Cymraeg Newydd

Geiriadur

Fyddwch chi byth yn brin o eiriau eto…!

Faint ohonon ni sy’n cael trafferth dod o hyd i’r union air iawn…? Wel, na phoener o hyn ymlaen, oherwydd y mae

Geiriadur Cymraeg Gomer gan y tad a’r mab, D. Geraint Lewis a Nudd Lewis, yn dod i’n hachub ni! Mae’r gyfrol yn cynnwys amrywiaeth o eiriau o rai newydd sbon fel ‘hunlun’ (selfie), ‘blogiwr’ (blogger), ‘liposugnedd’ (liposuction) a ‘cwsmereiddio’ (customize) i hen eiriau fel ‘trontol’ (am ddolen cwpan) a ‘cunnog’ (hen air am fwced pren i gario llaeth). Ein hoff air ni yma yn Gomer yw ‘teisen ffenestr’ am deisen Battenberg ac oeddech chi’n gwybod mai ‘siop ymdopi’ yw DIY shop? Y geiriadur hwn yw’r union beth sydd ei angen arnoch ar gyfer byw yng Nghymru’r 21ain ganrif.

   Dyma’r gyfrol fwyaf erioed i Wasg Gomer ei gwneud yn ei hanes hir (124 o flynyddoedd hyd yma), tipyn o gamp. Meddai Jonathan Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasg Gomer: “Rydym yn hynod falch o gyhoeddi’r geiriadur newydd cyfoes hwn sydd dros 1,300 o dudalennau. Cyflawnodd Geraint Lewis, a’i fab, Nudd, waith arwrol… Bydd hon yn gyfrol werthfawr i bawb sy’n defnyddio neu’n dysgu’r Gymraeg am flynyddoedd lawer ac yn garreg filltir anhepgor i’r iaith”.

   Bu’r geiriadur arbennig hwn yn y broses o gael ei greu am yn agos i 20 mlynedd pan y gofynnodd Mr John Lewis i Geraint Lewis weithio ar greu geriadur Cymraeg newydd. Ers hynny, mae’r broses o gasglu geiriau ynghyd wedi bod yn un hir a hynod ddiddorol. Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a CBAC wedi helpu i ariannu’r cynllun ac wedi bod yn rhan o’r broses gasglu a mireinio geiriau ac ystyron. Defnyddiwyd nifer helaeth o arbenigwyr pwnc a thimau o ddarllenwyr allanol a phrawfddarllewnyr i gael y geiriadur i fwcwl. A dyma ni!

   Y mae Geiriadur Cymraeg Gomer yn cynnwys dros 43,000 o ddiffiniadau a miloedd ar filoedd o eiriau. Fyddwch chi byth yn brin o eiriau eto!

   Bydd y gyfrol ar werth yn eich siop lyfrau leol am £35 neu oddi wrth wefan Gomer www.gomer.co.uk

Safonau Cyntaf yn Weithredol

Comisiynydd y Gymraeg

Llythyr gan Comisiynydd y Gymraeg.

Annwyl Olygydd,

Ar 30 Mawrth eleni fe ddaeth y set cyntaf o safonau’r Gymraeg yn weithredol. Y safonau hyn sy’n dweud beth ddylai sefydliadau ei wneud yn Gymraeg.

Mae’r safonau’n creu hawliau newydd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.

Cynghorau sir, Llywodraeth Cymru a’r parciau cenedlaethol yw’r sefydliadau cyntaf i weithredu’r safonau. Dros amser fe fyddant yn cael eu cyflwyno i sefydliadau a sectorau eraill, mewn meysydd fel iechyd, addysg ôl-16, trafnidiaeth cyhoeddus, ynni, gwasanaethau post, tai cymdeithasol, telegyfathrebu a llawer mwy.

Mae safonau’n seiliedig ar gyfraith gwlad; ac mae dyletswydd ar sefydliadau i gydymffurfio â nhw. Dylent roi ffydd i chi y gallwch ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddelio â sefydliadau sy’n gweithredu safonau. Os nad ydych wedi gallu derbyn gwasanaeth Cymraeg boddhaol ganddynt, cysylltwch â mi i gwyno.

I ddysgu mwy am eich hawliau ewch i’r dudalen ‘Hawliau i Ddefnyddio’r Gymraeg’ ar wefan comisiynyddygymraeg.cymru a dilyn a defnyddio #hawliau ar y rhwydweithiau cymdeithasol. Mae croeso i chi hefyd gysylltu â ni ar y ffôn neu’n ysgrifenedig (manylion islaw).

Os ydych yn ysgrifennydd neu’n drefnydd grŵp neu fudiad cymunedol ac yn dymuno fy mod i neu un o’m swyddogion yn dod i siarad am eich hawliau iaith, yna mae croeso mawr i chi gysylltu ac fe drefnwn ymweliad.

Yn gywir,

Meri Huws

Comisiynydd y Gymraeg

Siambrau’r Farchnad

5-7 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1AT

post@comisiynyddygymraeg.cymru / 0845 6033221

 

Yr Hen Lyfrgell – mis cyntaf prysur wedi’r agoriad mawreddog

Mae’n anodd credu bod dros fis ers penwythnos agoriadol canolfan Gymraeg newydd ein prifddinas. Wedi cynnal llu o weithgareddau a digwyddiadau, gwerthu degau o gardiau, gweini cannoedd o giniawau a thynnu miloedd o beintiau mae Yr Hen Lyfrgell yn parhau i groesawu pobl o bob oed i brofi’n iaith a’n diwylliant yng nghanol y ddinas.

yr hen lyfrgell

Gyda phencampwriaeth y Chwe Gwlad nawr ar ben mae’n braf gallu edrych yn ôl ar y naws cyffrous a gafodd ei greu yn y Caffi Bar Yr Hen Lyfrgell gyda llawer o’r diolch yn mynd i Gôr Meibion Bro Taf, Bechgyn Bro Taf a Chôr Canna am ein diddanu. Bydd yr un cyffro’n siŵr o ddychwelyd pan ddilynwn ymdrechion ein tîm pêl-droed cenedlaethol yn Ffrainc ym Mehefin.

Hyfryd hefydd oedd croesawu nifer o gymdeithasau a chwmnïau i’r ystafelloedd cynhadledd gan gynnwys Cwlwm Busnes Caerdydd, Cyfreithwyr Cymru, Llywodraeth Cymru, Mentrau Iaith Cymru a llawer mwy. Mae’n galonogol gweld cymaint o fusnesau yn heidio i’r ganolfan i drafod a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn llenwi’r hen adeilad eiconig hanesyddol yma.

Ond nid adeilad i gynadledda yw hi’n unig. Mae bwyd ein prif gogydd, Padrig Jones o Les Gallois gynt, wedi derbyn canmoliaeth fawr gyda lluniau llond plat o ginio dydd Sul yn dod yn boblogaidd tu hwnt ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fel menter hunan cynhaliol mae’r ganolfan yn dibynnu ar gefnogaeth hael ein cymdeithas Gymreig yng Nghaerdydd a thu hwnt ac mae diolch mawr iawn i’r rheiny sydd wedi cyfamodi’n Ffrindiau Yr Hen Lyfrgell dros y misoedd diwethaf. Mae wedi bod yn bleser gallu agor ein drysau a rhannu’n gweledigaeth gyda phobl o bob oed. Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Gallwch ddarganfod ein horiau agor, gwybodaeth am sut i ddod yn Ffrind a llawer mwy ar ein gwefan,

www.yrhenlyfrgell.cymru