Archif Awdur: Golygydd

10 mlynedd ers agor drysau Gwersyll Caerdydd

Dydd Llun, 24 Tachwedd bydd dros 3,000 o blant ardal Caerdydd a’r cymoedd yn heidio i Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm i ddathlu pen-blwydd Gwersyll yr Urdd yng Nghaerdydd yn 10 mlwydd oed.  Mae hyn yn cydredeg a dathliadau y Ganolfan ei hun yn 10 oed.

 

Roedd y weledigaeth o roi cartref i’r Urdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn allweddol i gefnogaeth Comisiwn y Mileniwm i fuddsoddi £31 miliwn o arian Y Loteri tuag at ddatblygiad canolfan genedlaethol i’r celfyddydau yng Nghymru. 

 

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr y Ganolfan, Mathew Milsom, “Heb yr Urdd, dan arweiniad eu Llywydd Anrhydeddus Prys Edwards yn ôl yn 2002, dwi’n amau a fyddai’r prosiect wedi mynd rhagddo. Mae ein dyled i’r Urdd yn fawr, ac i Prys Edwards yn benodol. Roedd ef yn un o’r gweledyddion gwreiddiol wnaeth gyfrannu at enedigaeth y Ganolfan fel rydyn ni yn ei nabod hi heddiw, sy’n ffwrnais awen ac yn gartref i wyth cwmni creadigol, gan gynnwys yr Urdd. O’r cychwyn, mae’r Urdd wedi bod yn bartner ar sawl prosiect ar y cyd gyda’r Ganolfan, a bwriedir cyhoeddi prosiect artistig cenedlaethol ar gyfer 2015’.

 

Bydd cinio arbennig i gyd-fynd gyda’r Jambori i’r 3,000 o blant ar y dydd Llun, i ddathlu cyfraniad yr Urdd i lwyddiant y Ganolfan yng nghwmni Cadeirydd y Ganolfan, Sir Emyr Jones Parry a Prys Edwards.

 

Cafodd Gwersyll yr Urdd Caerdydd ei agor yn swyddogol gan Bryn Terfel ar y 27 o Dachwedd, 2004, diwrnod cyn agoriad swyddogol y Ganolfan gan y Frenhines.  Ers hynny mae bron i 100,000 o blant a phobl ifanc wedi aros yno.  Yn ogystal â chynnig llety i aelodau’r Urdd o bob ran o Gymru, mae’r Gwersyll hefyd yn cynnig gwely a brecwast i’r cyhoedd ac yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau allanol ar gyfer cynadleddau a chyrsiau preswyl.  Yn y flwyddyn ddiwethaf, maent wedi gwario yn sylweddol ar wella adnoddau, megis carpedi a dodrefn newydd a’r offer technegol diweddaraf.

 

Tim Edwards yw Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd yng Nghaerdydd.  Dywedodd, “Mae hon yn garreg filltir bwysig iawn i ni – rydw i wedi bod yn aelod o’r staff yma ers ei agor 10 mlynedd yn ôl ac yn Gyfarwyddwr ers dwy flynedd.  Bydd yn wych gweld miloedd o blant yr ardal yn dod yma i ddathlu ein pen-blwydd.  Rydym ni hefyd, mewn cydweithrediad gyda Tŷ Cerdd, wedi comisiynu Caryl Parry Jones i ysgrifennu cân newydd sbon i ddathlu’r pen-blwydd, sydd yn cael ei pherfformio gan ei merch Miriam Issac, a bydd hon yn cael ei chwarae am y tro cyntaf yn y Jambori.”

 

Bryn Terfel yn agor y Gwersyll 2004

Yn ystod mis Tachwedd, mae’r Urdd wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau i nodi’r pen-blwydd.  Bydd criw o Ysgol Sant Curig yn mynd i addurno’r Gwersyll ar ddiwrnod y pen-blwydd, sef y 27 o Dachwedd a chlwb Castachan, sef clwb perfformio’r Gwersyll, yn cyflwyno rhaglen o ganeuon o sioeau cerdd yn Stiwdio Weston, Canolfan y Mileniwm dan arweiniad Elan Issac ac Elain Llwyd nos Sul, 30 Tachwedd.

 

Ychwanegodd Tim Edwards, “Mae gennym gyfres o ddigwyddiadau wedi eu trefnu yn ystod mis Tachwedd, ond rydym hefyd yn gweithio yn agos gyda Canolfan Mileniwm Cymru ar syniadau ar gyfer mwy o ddigwyddiadau dros y flwyddyn nesaf.   Mae’n anodd credu fod 10 mlynedd wedi hedfan ers i ni agor ein drysau yma.

 

“Wrth edrych ymlaen i’r 10 mlynedd nesaf, fe hoffwn i barhau i gydweithio’n agos gyda Chanolfan Mileniwm Cymru fel bod pob plentyn sydd yn aros yma yn cael profiad celfyddydol – boed hynny yn weld sioe, cael taith tu ôl i’r llenni yn y Ganolfan, perfformio ar Lwyfan y Lanfa neu gael gweithdy celfyddydol. Rydym mewn sefyllfa hollol unigryw fel yr unig rai sydd yn cynnig llety o dan do trawiadol Canolfan y Mileniwm a hoffwn ein bod yn gwneud y mwyaf o hynny.”

Lleisiau’r beirdd yn Llefaru Eto

Carwn dynnu eich sylw at Gryno-Ddisg eitha gwahanol a fydd yn cael ei chyhoeddi y mis hwn. Ei henw yw “Lleisiau’r beirdd yn Llefaru Eto”, sef casgliad o feirdd Cymraeg yn darllen rhai o’u cerddi gorau. Mae’r beirdd i gyd ysywaeth wedi’n gadael, felly mae hon yn drysorfa unigryw o leisiau’r gorffennol (pell ac agos) yn llefaru wrthym heddiw. Mae’n dechrau gyda’r unig recordiad sy’n bodoli o Syr John Morris-Jones yn darllen darn o gywydd Goronwy Owen, a recordiwyd ar silindr. Mae’r gweddill, o Cynan i Gerallt Lloyd Owen, o’r bardd o Ryd-ddu i Iwan Llwyd, ac o Waldo i Dic Jones, yn darllen eu cerddi eu hunain. 40 o ddarnau i gyd.

Os ydych am archebu copi o’r CD newydd, gyrrwch siec am £12.98 i SAIN, LLANDWROG, CAERNARFON LL54 5TG, neu ffoniwch 01286.831111 gyda’r archeb, ac os nodwch enw eich papur bro, bydd Sain yn anfon cyfraniad o bunt i’r papur am bob copi a werthir. Bydd “Yn Llefaru Eto” hefyd ar gael yn y siopau Cymraeg.

Dr. Gwyn Thomas oedd yr ymgynghorydd ar y casgliad hwn, ac wrth inni sylweddoli mor brin yw ein harchif genedlaethol o leisiau’n beirdd, mae Sain wedi dechrau ar raglen o recordio beirdd cyfoes yn darllen eu gwaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Yn gywir,

Dafydd Iwan.

Parth .cymru a .wales

Wrth i wefannau cyntaf gyda chyfeiriad .cymru a .wales cael eu lansio, mae Ieuan Evans, Cadeirydd Grŵp Cynghori .cymru .wales, yn esbonio’r hanes y prosiect hyd hyn a’r camau nesaf yn natblygiad parthau newydd Cymru.

20141101c w logoTan yn ddiweddar, nid oedd busnesau a defnyddwyr Cymraeg gyda’r dewis i ddefnyddio cyfeiriad we Cymreig. Rydym i gyd wedi hen arfer gyda .com, .org a .co.uk, ond mae’r rhestr enwau “ar ôl y dot” yn prysur ehangu. Ar 3ydd Dachwedd, fe fydd busnesau Cymreig gyda’r cyfle i gofrestru eu henwau busnes ac wedi 29ain Ragfyr, fe fydd unrhyw un yn gallu cymryd rhan mewn ocsiwn i brynu’r enwau Cymraeg mwyaf poblogaidd. Yn olaf, ar Fawrth 1af 2015, fe fydd unrhyw un yn gallu gwneud cais am gyfeiriad gwefan neu e-bost eu hunain sy’n diweddu gyda .cymru a .wales ar sail gyntaf i’r felin.

Rwyf wedi cefnogi’r prosiect i greu lle gwbl Gymreig ar y we ers sawl mlynedd ac ynghyd â rhai eraill, rwy’n rhan o’r grŵp sy’n cydlynu’r cyfeiriadau we newydd. 

Rydym yn cyfeirio atynt fel ein cartref newydd ar-lein. Dyma le i’r gymuned Gymreig, neu unrhyw un sydd eisiau annerch y farchnad Gymreig a chefnogi’r iaith Gymraeg ar-lein, a dangos eu bod yn rhan o rywbeth arbennig – .cymru a .wales. Mae’r prosiect wedi’i gydlynu yng Nghymru ar gyfer pobl Cymru gyda chefnogaeth dechnegol a gweithredol Nominet, sy’n gofalu am .co.uk, a hynny oll gyda’r amcan i Gymreigio’r we. 

Mae’r nifer o sefydliadau sy’n bwriadu newid i’r parthau’n parhau i gynyddu. Cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli eleni eu bod am fabwysiadu’r parthau newydd. Ac mae’r un penderfyniad wedi ei gyhoeddi gan S4C, y Sioe Amaethyddol Frenhinol, Urdd Gobaith Cymru, Merched y Wawr, Undeb Rygbi Cymru, Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, Mudiad Meithrin ynghyd â Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol.

Rydym wedi cael ymateb yr un mor gadarnhaol gan y sector breifat. Fe fydd Media Wales, tîm rygbi’r Scarlets, y cwmni crysau-t poblogaidd, Cowbois  yn newid i’r parthau newydd cyn bo hir ynghyd ag ystod eang o fusnesau bach gan gynnwys Y Lolfa, Fabulous Welshcakes, siop ar-lein Mabon a Mabli a Clark’s Pies.

Ac rydym yn brysur yn sgwrsio gyda chynhyrchwyr bwyd ynghyd a’r sector amaethyddol a thwristiaeth. Mae’r “www” yn farchnad gystadleuol ac mae angen hwb i gefn gwlad Cymru. Mae’r fenter hwn yn cynnig cyfle i sefydliadau, busnesau ac unigolion sefyll allan a hyrwyddo eu hunaniaeth Cymreig a’u hymrwymiad i Gymru.

Rydym yn hynod falch ein bod yn gallu cyhoeddi bod y cyrff Cymreig, allweddol hyn am newid eu henwau parth i .cymru a .wales cyn gynted â phosib. Mae’r enwau parth yn cynnig cyfle gwych i Gymru gwneud ei marc ar y byd digidol ac mae’n wych bydd y cyrff allweddol hyn yn ymuno â ni ar y daith wrth arwain y ffordd ar gyfer busnesau a sefydliadau eraill led led Cymru.

Fe fydd galw ar ailwerthwyr parthau, a fydd yn gwerthu enwau parth i’r cyhoedd, i werthu’r ddau barth. Fe fydd unigolion, cwmnïau a sefydliadau yn gallu dewis cofrestru eu henw parth yn y Gymraeg neu’r Saesneg ar un ai .cymru neu .wales neu’r ddau.

Mae yna bartneriaeth wedi ei sefydlu gyda gwasanaeth Galw Gwynedd sy’n cael ei weithredu gan Gyngor Gwynedd sy’n cynnig cefnogaeth ganolfan-alw ddwyieithog i alwyr, boed yn siaradwyr Cymraeg neu Saesneg ac mae’r gwasanaeth eisioes wedi ei sefydlu ac yn cael ei weithredu.

Gall busnesau Cymreig dechrau’r broses cofrestru i gael enw .cymru a .wales, ac ar ôl Dydd Gŵyl Dewi 2015, fe fydd y parthau ar gael yn gyffredinol i unigolion.

Er mwyn bod yn rhan, cofrestru eich diddordeb neu i ddarganfod mwy, ewch draw i http://eincartrefarlein.cymru

Pasio sgiliau ymlaen i gerddorion y genhedlaeth nesaf

Chwilio am gyfleoedd newydd i ennill arian?
Mae Hyfforddiant i Diwtoriaid trac yn dechrau’n fuan! Peidiwch colli’ch cyfle 

Mae trac ar fin cychwyn y cyntaf o ddau gwrs dwys i hyfforddi tiwtoriaid, cyrsiau a fydd yn rhoi’r sgiliau i gerddorion traddodiadol a gwerin, o wahanol oedran ac arddull, i addysgu ac i basio eu sgiliau ymlaen i gerddorion y genhedlaeth nesaf.  

P’un ai ‘rydych yn darparu gweithdy mewn gŵyl, yn cynnal gweithdai ysgol neu glybiau alawon neu’n dysgu ar gwrs preswyl, dyma’ch cyfle i ychwanegu gwerth at yr hyn y gallwch gynnig fel cerddor ac i gael cymhwyster.   

Yn dechrau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ymhen pythefnos:
 

Dyddiadau Abertawe: Tachwedd 10, 11, 18, 19, 24, 25, Rhagfyr 2ail 2014
10:00 – 16:00

Mae’r llefydd yn llenwi’n gyflym.  I fwcio’ch lle ar y cwrs, cysylltwch â trac@trac-cymru.org
Cost: dim ond £120.00

Mae’r tiwtoriaid gwych yn cynnwys: 
Sarah Harman
Peter Stacey
Laura Bradshaw
Neil White
David Pitt (Mari Lwyd)
Angharad Jenkins

Bydd y cwrs yn cael ei ail-adrodd ym Mangor, yn dechrau ar Chwefror 9fed 2015.  

Cewch ragor o wybodaeth a manylion am gynnwys sesiynau’r ddau gwrs ar ein gwefan https://www.trac-cymru.org/cy/newyddion/255-cyhoeddi-hyfforddiant

Gyda diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru.

Ydych chi’n credu y gallwch Guro’r Bwci?

Curo'r BwciMae gan Gymru broblem gamblo ddifrifol. Er mai Cymru yw’r unig un o’r gwledydd cartref sydd heb gasglu ystadegau am gamblo problemus ac Anhwylder Gamblo (cyflwr oedd yn arfer cael ei alw’n Gamblo Patholegol), ar gyfartaledd mae’r boblogaeth yn gamblo cyfanswm sydd gyfwerth â 3.4% (£1.6 biliwn) o Gynnyrch Domestig Gros (GDP) y wlad bob blwyddyn ar Beiriannau Betio Ods Sefydlog (Fixed Odd Betting Terminals) – sydd gyfwerth â £675 i bob oedolyn yn y wlad.

Mewn ymdrech i fynd i’r afael â’r broblem, mae CAIS a Stafell Fyw Caerdydd yn cydweithio ag Alcohol Concern a Chanolfan Astudiaethau Trin Caethiwed Action on Addiction i lansio gwasanaeth newydd – Curo’r Bwci – i helpu pobl yng Nghymru i fynd i’r afael â’u problemau gamblo.

Fodd bynnag, er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl, mae angen i’r tîm siarad â phobl sy’n brwydro yn erbyn problemau gamblo er mwyn llunio’r gwasanaethau a sicrhau eu bod nhw wedi’u seilio ar y dystiolaeth ryngwladol orau. Y nod cychwynnol yw sefydlu grwpiau ffocws a sianeli’r mewnbwn hwn i helpu llywio rhoi gwasanaeth cenedlaethol ar waith i gynorthwyo gamblwyr sydd â phroblem.

Y rhanbarthau sy’n gwario’r cyfansymiau mwyaf yng Nghymru yw De Ddwyrain Cymru (£345 miliwn), Caerdydd (£274 miliwn) a Chymoedd De Cymru (£212 miliwn). Mae Gogledd Cymru yn gamblo cyfanswm o £184 miliwn bob blwyddyn, tra bod Bro Morgannwg a Phowys yn gwario llai na £31 miliwn ar gamblo bob blwyddyn.

Dywedodd Wynford Ellis Owen, sy’n arwain ymgyrch Curo’r Bwci ar ran Stafell Fyw Caerdydd: “Nid yw gamblo’n ffenomen newydd, ond mae gamblo problemus ar gynnydd yng Nghymru. Mae’r ffigyrau ar gyfer Cymru a Lloegr yn dangos bod modd ystyried bod bron 2% o ddynion yn Gamblwyr Patholegol. Gall problemau gamblo arwain at faterion emosiynol, ariannol a seicolegol difrifol iawn y mae’n anodd sylwi arnynt hyd nes bod y sefyllfa’n ddwys iawn i’r unigolion sy’n cael eu heffeithio.

“Mae hi’n haws nag erioed gamblo heddiw – un ai ar y stryd fawr neu ar gyfrifiadur neu’r teledu. Gydag oddeutu 1,500 o Beiriannau Betio Ods Sefydlog yng Nghymru, mae’r cyfanswm ar gyfartaledd sy’n cael ei wario ar bob peiriant ychydig dros £1,000,000 y flwyddyn, neu oddeutu £3,000 bob dydd, sy’n arwain at elw cyn treth o £34,000 y peiriant.

“Nod Curo’r Bwci yw cynnig gwasanaeth newydd na welwyd mo’i fath yng Nghymru o’r blaen. Rydym ni eisiau mynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig â gamblo problemus ac annog unrhyw un sy’n teimlo’i bod yn colli rheolaeth dros ei bywyd yn sgil gamblo i gysylltu â ni er mwyn helpu creu pecyn teilwredig i’w gyflwyno ledled Cymru.”

Mae mwy o wybodaeth am y gwasanaeth ar gael trwy glicio ar y ddolen isod:http://www.livingroom-cardiff.com/beattheodds/beattheodds.html

Ysgol Llanhari’n dathlu’r 40

201410PartiLlhDechreuodd y dathliadau gydag ymweliad Radio Cymru â’r Ysgol a pharti 40 yng Nghlwb Rygbi Pontyclun! Cafwyd bore llawn cyffro yn yr ysgol ddydd Gwener, Hydref 17eg gyda Radio Cymru’n darlledu Bore Cothi’n fyw o Gampfa’r ysgol. Cafwyd perfformiadau arbennig gan gôr iau’r ysgol, datganiad hyfryd gan Celyn Lewis o Flwyddyn 8 a chafoddd gwrandawyr Radio Cymru sgŵp – cael clywed y ddarllediad cyntaf o gân Rhifedd Ysgol Llanhari yn fyw ar y rhaglen.

   Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda disgyblion ac aelodau o staff yr ysgol yn ogystal â chyfle i hel atgofion a straeon doniol gyda cyn ddisgyblion a chyn aelodau o staff.

  Parti 40 Llanhari Bu’r parti 40 a drefnwyd gan Ffrindiau Llanhari’n llwyddiant ysgubol. Hyfryd oedd gweld cynifer o gyn ddisgyblion, staff a ffrindiau’r ysgol yn dod ynghyd am noson llawn hwyl. Diolch i bawb am gefnogi.

 

Catrin Heledd yn Cofio  >>   BBC

 

Sion a Siân yn dathlu’r 50!

Sion a SianEleni mae’r cwis poblogaidd Sion a Siân yn dathlu’r 50.

 

Pan gafodd Dylan Jones sgwrs ddiweddar ar ei raglen radio gyda dau o’r cyflwynwyr mwyaf poblogaidd, Dai Jones & Jenni Ogwen, cymaint bu’r ymateb fel ein bod wedi penderfynu ail greu’r wefr am un noson a recordio rhifyn arbennig ar gyfer S4C y Nadolig hwn.

 

Bydd y rhaglen yn cael ei recordio ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar nos Iau Rhagfyr 4ydd am 1900 o flaen cynulleidfa

 

Rydym yn chwilo am 3 pâr sydd wedi cystadlu o’r blaen ac sydd ffansi dod yn ôl er mwyn ail greu talp o hanes darlledu yng Nghymru – yn ddelfrydol parau ar draws gwahanol ddegawdau, er engraifft y 70au,80au,90au.

  • Oes gennych chi ffansi ail fyw eich ieuenctid ffôl?
  • Oes gennych chi straeon neu atgofion arbennig am y gyfres?
  • Oes gennych chi blat/llwy garu/cwpan Sion a Siân ar eich dresser neu yn yr atic?
  • Ydach chi ffansi ymuno yn yr hwyl a bod yn rhan o’r gynulledifa?

 

Os mai ie ydi’r ateb i unrhyw un o’r cwestiynau uchod yna cysylltwch â ITV Cymru ar y rhif isod a bydd un o’r tîm yn cysylltu gyda chi am sgwrs bellach

 

0844 881 0266

Straeon Gorau’r Byd

Straeon Gorau'r BydStraeon Gorau’r Byd

 Llyfr Anrheg Deniadol y Dolig Hwn

  • Deg o straeon gwerin o bob cwr o’r byd
  • Y stori yn cael eu hadrodd yn arddull gartrefol braf Caryl Lewis
  • Lluniau ysblennydd, clawr caled – a’r cyfan am ddim ond £8.50!

 

Hoff Awdur Cymru’ yn cyflwyno i blant Cymru:

Straeon Gorau’r Byd gan Caryl Lewis

Mae Caryl Lewis, a bleidleisiwyd yn ‘Hoff Awdur Cymru’ yn dweud iddi gael ei hysbrydoli gan ei mam yn adrodd straeon wrthi pan oedd yn eneth:

 

“Roedd Mam yn dweud straeon o bedwar ban byd wrthyf i pan oeddwn i’n ferch fach. Roeddwn i’n dwli ar yr enwau rhamantus, y cymeriadau rhyfedd a’r straeon gogoneddus. Yn sicr, mae clywed y straeon hynny yn ifanc wedi fy sbarduno innau i fentro ysgrifennu straeon fy hunan. Mae gen innau ddau blentyn bellach ac rwyf innau’n ceisio cyflwyno’r un math o straeon i’w plesio a’u cyffroi hwythau.”

 

Wrth gynnal y traddodiad dweud straeon o fewn ei theulu ei hun, mae wedi llunio casgliad hudolus o ddeg o straeon byd-eang sy’n tanio dychymyg y plant.

 

Eisteddwch yn gyfforddus felly a mwynhewch y wledd hon a gwibio o Mozambique i Nigeria gan alw yn yr Eidal, Cymru, Japan, Gwlad Pwyl, Unol Daleithiau America, Canada, Rwsia a Kazakhstan. Bydd y lluniau lliwgar yn siwr o apelio hefyd a rhoi blas ychwanegol o’r gwledydd hynny i chi.

 

Gwasg Carreg Gwalch; Pris £8.50

Torri gwasanaeth Cerddoriaeth i blant

UCAC yn gwrthwynebu torri Gwasanaeth Cerddoriaeth Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf
 
Mae Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi ddoe eu hymgynghoriad i dorri gwasanaeth Cerddoriaeth i blant ysgolion y sir yn gyfan gwbl. Fe ddaw’r penderfyniad hwn yn sgil cyhoeddiad y cyngor fod angen arbed oddeutu £31.2miliwn yng nghyllideb y cyngor y flwyddyn nesaf (2015/16).

 Mae’r gwasanaeth hwn yn gyfrifol am ddarparu gwersi cerddoriaeth peripatetig (offerynnol a lleisiol) ynghyd a darparu gwersi ar gyfer cwricwlwm yr ysgol i oddeutu 5300 o blant ardraws y sir.  Hefyd mae’r gwasanaeth yn darparu dros 20 o grwpiau allgyrsiol wythnosol sy’n sicrhau fod cerddorion ifanc yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cerddorfeydd, bandiau, ensembles a chorau a hynny i gyd am ddim.  Mae’r rhain yn cynnwys Cerddorfa Ieuenctid y Pedair Sir, Band Pres, Cerddorfa Linynnol a Band Chwyth.
 
Dywedodd Cynrychiolydd ar ran UCAC:
 
 
 
                “Mae’r penderfyniad hwn gan Gyngor Sir Rhondda Cynon Taf i dorri gwasanaeth gerddoriaeth y sir yn gyfan gwbl yn codi pryder sylweddol am ddyfodol cerddorion ifanc y sir a’i sgil effeithiau i Gymru gyfan.  Nid yn unig bydd plant y sir yn colli’r cyfle i dderbyn gwersi o’r fath yma ond hefyd mae’r gwasanaeth cyson y mae’r Gwasanaeth Cerddoriaeth wedi ei gynnig dros y blynyddoedd wedi bod o’r safon uchaf.”
 
 
 
Yn ogystal mi fydd y gwasanaethau canlynol yn cael eu torri:
 • Arholiadau Associated Board of the Royal Schools of Music a Trinity London sy’n cael eu cynnal 3 gwaith y flwyddyn gyda chyfeilyddion di-dâl
 • Gwyliau Cerddorol Blynyddol: Gŵyl Gerddoriaeth Nadolig i ysgolion cynradd yng Nghadeirlan Llandaf (gydag oddeutu 750 o blant yn cymryd rhan)  Gŵyl Gerddoriaeth yr Ysgolion mewn theatrau lleol (gydag oddeutu 1000 o blant yn cymryd rhan)
 • Cyfleoedd i gerddorion ifanc i berfformio ar lwyfannau ar draws y sir ac ymhellach yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru, Coleg Cerdd a Drama Cymru Caerdydd, Cadeirlan  Llandaf,  Gŵyl Bres Bury Port, yr Ŵyl Genedlaethol Gerddoriaeth a’r  Ŵyl Genedlaethol i Gerddoriaeth yr Ifanc (National Festival of Music for Youth) yng Nghwmbrân a Chaerdydd
 • Prosiectau a gweithdai mewn ysgolion ar draws y sir mewn cydweithrediad gydag adrannau eraill o fewn y cyngor, ee. SONIG a Gwasanaethau Diwylliannol, ynghyd â  sefydliadau eraill fel BBCNOW, Tŷ Cerdd ac Opera Cenedlaethol Cymru