Archif Awdur: Golygydd

Dawnswyr Nantgarw ar y brig

Dawnswyr NantgarwLlongyfarchiadau i Ddawnswyr Nantgarw ar ennill y brif wobr yn Eisteddfod Llangollen.

Eleni am y tro cyntaf cynhaliwyd cystadleuaeth i ddewis Pencampwyr Dawns 2013 ac mewn cystadleuaeth yn erbyn dawnswyr Cercle Celtique Kan Breizh o Lydaw daeth tîm Eirlys Britton a Cliff Jones i’r brig.

Hefyd roedd Osian Gruffydd yn fuddugol yn y Dawns Werin Unigol.

Dawnswyr Nantgarw

 

Damwain Ddinistriol Senghennydd

Gan mlynedd yn ôl, ym mis Hydref 1913, fe ysgydwyd Cwm yr Aber gan ffrwydrad anferth yng nglofa’r Universal a laddodd 440 o bobl, y ddamwain ddiwydiannol waethaf yn hanes gwledydd Prydain.20130715Senghennydd

Eleni, i nodi can mlynedd ers y danchwa a’r drychineb enbyd mae Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst yn cyhoeddi’r gyfrol arbennig, Senghennydd.

Mae ambell enw lle sy’n creu tawelwch dim ond wrth ei ynganu – un o’r rheiny yw Senghennydd ger Caerffili. Pan gollwyd cyfanswm o 440 o fywydau yn dilyn effeithiau’r danchwa, fyddai’r cwm byth yr un fath, gyda phob yn ail dŷ yn rhai o’r terasau wedi colli anwyliaid.

Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, gydag echelydd y ddaear yn troi ar ynni glo stêm, roedd galw mawr am yr ‘Aur Du’ oedd i’w gael mewn miliynau o dunelli yng nghymoedd de-ddwyrain Cymru.

Yn sgil y Chwyldro Diwydiannol, roedd damweiniau yn anochel yn y trachwant hwnnw am bŵer a chynnyrch ac elw ond er gwaetha’r amodau peryglus, roedd y glowyr yn fodlon mentro’u bywydau, gyda chyflogau deniadol yn eu denu yno o bob cwr o’r wlad. Ac yn sicr roedd y perchnogion a’r swyddogion yn fwy na pharod i fentro – mentro eu harian a mentro plygu’r rheolau diogelwch. Roedd yr amodau’n beryclach nag unlle arall ym mhwll yr Universal, Senghennydd a’r risgiau a gymerid yn uwch, ac o ganlyniad bu’r colledion yno’n llawer iawn gwaeth.

Yn y gyfrol hon, sydd wedi’i golygu gan Myrddin ap Dafydd, cawn hanes y ddwy danchwa enbyd ym 1901 a 1913 drwy gyfrwng toriadau o’r wasg Gymraeg ar y pryd a hefyd rhai trysorau ac atgofion a gadwyd mewn cartrefi hyd a lled Cymru.

Dywed Myrddin: “Yr hyn a ysgogodd y gyfrol oedd cael fy nghyflwyno gan John Roberts, Abertridwr i neges ar gerdyn post a bostiwyd o Senghennydd drannoeth y drychineb. Cerdyn post adref i Drawsfynydd oedd o, yn sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn enwi cryn hanner dwsin o ddynion eraill o Drawsfynydd oedd yn y lofa.”

Yn wir, nid colled un cwm oedd meirwon y ddamwain hon. O Fôn, o chwareli Arfon a Meirion, o dyddynnod a mwynfeydd Ceredigion ac o gymoedd y gorllewin, roedd cannoedd wedi heidio i’r cwm diwydiannol i geisio cyflogaeth dda. Bu galar a chwerwedd ym mhob cwr o Gymru a chan mlynedd yn ddiweddarach, mae teuluoedd wedi cadw’r cof yn fyw am y glowyr drwy gyfrwng hen lythyrau, hen luniau, penillion, atgofion a mân drugareddau.

Ychwanega Myrddin: “Roedd hon yn ergyd i Gymru gyfan – ac mae lluniau, straeon, rhigymau a chofnodion o bob math wedi’u cadw a’u trysori mewn teuluoedd ac yn gweld golau dydd am y tro cyntaf yn y gyfrol hon.

“Roeddwn yn synnu bod cymaint o ddeunydd ar gael yn y Gymraeg ym mhapurau newydd a chyfnodolion y cyfnod – ond wrth gwrs, digwyddodd y danchwa ar ddiwedd oes aur y byd print Cymraeg. Roedd yn hynod o gyffrous dod ar draws adroddiadau gan lygad-dystion i’r digwyddiadau yn dilyn y drychineb.”

Fe dynhawyd y rheolau diogelwch yn sgil y ddamwain ond bu’r achos llys yn erbyn y perchnogion yn ffars ac yn ergyd arall i’r holl deuluoedd yn eu galar a’u colled. Fel y disgwylir, roedd erthyglau pwerus i’w cael mewn papurau newydd adain chwith fel Tarian y Gweithiwr, ond yr hyn sy’n fwy arwyddocaol yw bod rhai o bapurau newydd mwyaf ceidwadol Cymru hefyd yn codi cwestiynau caled ac yn gandryll gyda’r ddirwy bitw gafodd perchnogion y lofa fel cosb.

Felly wrth i ni gofio canrif ers y drychineb, lle mae tanchwa Senghennydd yn ffitio o fewn ein hanes ni fel Cymry?

Dywed Myrddin: “Mae Senghennydd yn rhan o’n hanes ni i gyd; mae’n rhan o stori Cymru. Fel gyda Chilmeri, Tryweryn a Brad y Llyfrau Gleision, rhaid inni wybod stori Senghennydd er mwyn sylweddoli cymaint rydan ni wedi’i oroesi er mwyn wynebu’r dyfodol yn hyderus. Yn ogystal â’r colledion, mae’n rhaid cofio am y nifer a gafodd eu hachub. Roedd dewrder y timau achub yn eithriadol – glowyr o byllau cyfagos yn rhoi oriau ac oriau ar ben eu shifftiau. Mi achubwyd 18 o lowyr o’r Universal ar ôl iddyn nhw fod o dan ddaear am 22 awr. Mae’r gwrhydri hwnnw yn rhywbeth y gallwn i gyd fod yn falch iawn ohono.”

Llyfrau Llafar Gwlad: 83. Senghennydd

Gwasg Carreg Gwalch, £7.50, ISBN 9781845274290

Ar gael o’ch siop lyfrau leol neu www.gwales.com

Ymgyrch Atal Rhwystrau

Dwr Cymru40% yn llai o RWYSTRAU

Dŵr Cymru’n diolch i bawb am lwyddiant eu hymgyrch atal rhwystrau  

  • Gostyngiad o 40% yn nifer y rhwystrau yng ngharthffosydd Rhondda Cynon Taf a Chaerffili
  • Ymgyrch i godi ymwybyddiaeth yn helpu i leihau’r risg o lygredd, llifogydd mewn cartrefi a gofid mawr  
  • Dŵr Cymru yn diolch i bawb am gymryd rhan yn yr ymgyrch
  • ·         Cynlluniau i ddwysau’r ymgyrch dros y 12 mis nesaf er mwyn gwireddu newid tymor hir

Mae Dŵr  Cymru’n estyn ei ddiolch i drigolion Rhondda Cynon Taf a Chaerffili am chwarae eu rhan wrth sicrhau gostyngiad o 40% yn nifer y rhwystrau yng ngharthffosydd yr ardal.

Ym mis Ebrill, lansiodd y cwmni ymgyrch Stop cyn Creu Bloc flwyddyn o hyd yn y bwriad o ddangos i’w gwsmeriaid sut y gallant helpu i atal tagfeydd mewn carthffosydd rhag achosi llifogydd yn eu cartrefi ac yn eu cymunedau.

Mae’r ymgyrch gychwynnol, a oedd yn canolbwyntio ar ardaloedd RhCT a Chaerffili, wedi arwain at ostyngiad mawr yn nifer y rhwystrau y mae Dŵr Cymru wedi gorfod eu clirio dros y ddau fis diwethaf. Mae rhwystrau mewn carthffosydd yn costio dros £7miliwn y flwyddyn i’w clirio, ac maen nhw’n achosi gofid mawr, difrod i gartrefi a busnesau, ac maent yn gallu achosi llygredd ofnadwy yn ein hafonydd prydferth ac ar ein traethau, a difrodi’r amgylchedd ehangach yng Nghymru.

Roedd yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth yn cynnwys gweithdai addysgiadol mewn ysgolion ar draws y Cymoedd, pod harddwch teithiol, a thimau cynghori’n ymweld â gwerthwyr bwydydd parod a chartrefi. Cafodd y cyfan ei ategu gan ymgyrch amlgyfrwng a oedd yn cynnwys fideo, hysbysebion ar y radio, y teledu a’r cyfryngau cymdeithasol, a gwefan rhyngweithiol www.letsstoptheblock.com sy’n rhoi cyfle i blant ddysgu rhagor ac ennill gwerth £1500 o offer gwyddoniaeth ar gyfer ysgol o’u dewis.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru, Steve Wilson; “Rydyn ni wedi gweld canlyniadau gwych yn ystod dau fis cyntaf yr ymgyrch. Mae hi wedi bod yn ymdrech aruthrol o waith tîm gan bawb a fu wrthi, a hoffem ddiolch yn arbennig i bobl RhCT a Chaerffili am ein cynorthwyo ni yn hyn o beth. Mae atal rhwystrau yn y carthffosydd wedi golygu llai o achosion o lygredd, llai o lifogydd mewn cartrefi a llai o ofid i’r trigolion.

 

“Eitemau pob dydd fel clytiau bach, cadachau misglwyf, ffyn gwlân cotwm bychain ac edau dannedd sy’n achosi’r rhan fwyaf o’r rhwystrau rydyn ni’n dod ar eu traws, yn ogystal â braster, olew a saim y mae pobl wedi ei arllwys i lawr eu draeniau. Nid yw llawer o bobl yn gwybod bod y pethau hyn yn gallu peri i’r carthffosydd orlifo ac achosi llygredd yn eu cartrefi a’u cymunedau. Yn wir, mae hi’n anghyfreithlon taflu neu wagio unrhyw beth sy’n debygol o niweidio carthffos neu draen i’n rhwydwaith, neu darfu ar lif y carthffosydd.

“Mae llwyddiant yr ymgyrch hyd yn hyn yn dangos beth sy’n bosibl pan fo pawb yn chwarae eu rhan. Y sialens nawr yw adeiladu ar y dechrau da yma a sbarduno newid tymor hir yn ymddygiad ein cwsmeriaid o ran taflu pethau i lawr y tŷ bach a chael gwared ar fraster, olew a saim. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddwysáu ein hymgyrch codi ymwybyddiaeth a’i hehangu i ardaloedd eraill dros y 10 mis nesaf.”

Dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Alun Davies AC; “Hoffwn longyfarch Dŵr Cymru ar y dechrau bendigedig i’w hymgyrch a diolch i bobl Rhondda Cynon Taf a Chaerffili am helpu i gyflawni hyn. Mae llifogydd o garthffosydd sydd wedi tagu yn gallu cael effaith ddifrodus iawn ar ein cartrefi, ein strydoedd a’r amgylchedd ehangach. Mae Cymru’n ffodus fod ganddi rai o afonydd, traethau ac ardaloedd glan môr gorau’r byd, ac mae hyn yn dangos ein bod ni’n gallu helpu i leihau’r perygl o lygredd a llifogydd yn ein cymunedau pan fyddwn ni i gyd yn gwneud ein rhan i stopio’r bloc.”

 

Ychwanegodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadw Cymru’n Daclus ”Mae Cadw Cymru’n Daclus yn cefnogi’n llwyr ymgyrch Dŵr Cymru ac rydyn ni wrth ein bodd i glywed am lwyddiant cynnar yr ymgyrch Stop cyn Creu Bloc. Mae llawer o bethau bychain fel ffyn gwlân cotwm yn troi’n sbwriel ar ein traethau hardd ac mae braster neu olew sy’n cael ei arllwys i lawr y sinc yn gallu peri i garthffosiaeth gael ei ryddhau i’n moroedd. Mae hyn yn gallu difetha ymweliad braf â’n harfordir hyfryd. Rhowch nhw yn y bin, neu ailgylchwch nhw – peidiwch byth â’u fflysio!”

Cwmni Animeiddio yn Cau

Mae cwmni animeidio Dinamo a fu’n gweithio o stiwdios yn Nhrefforest ers 2010 wedi penderfynu rhoi y cwmni yn nwylo y derbynnwyr.20130705Dinamo

Bu’r cwmni yn creu nifer o raglenni wedi animeiddio ar gyfer S4C a’r BBC yn cynnwys clasuron ar gyfer plant.

Daeth y penderfyniad yn dilyn cyfnod anodd i’r diwydiant animeiddio a’r costau cynyddol o gynnal y safle cynhyrchu yn Nhrefforest.

Gwnaed 27 o staff yn ddi-waith ond credir fod y rhan fwyaf wedi cael swyddi eraill.

Mae gobaith bod modd sicrhau dyfodol Dinamo drwy werthu y busnes.

Cynnydd yn yr arfer o ddarllen Llyfrau Cymraeg

Mewn arolwg diweddar a gynhaliwyd gan gwmni Beaufort Research ar ran Cyngor Llyfrau Cymru, gwelwyd fod mwy o bobl yn darllen llyfrau Cymraeg heddiw o’u cymharu â chanlyniad arolwg tebyg a gynhaliwyd yn 2003. Allan o’r 1,008 o siaradwyr Cymraeg a holwyd, mae 43% yn darllen o leiaf un llyfr y flwyddyn, o’u cymharu â 31% yn 2003 a 26% yn 2006. Bu cynnydd hefyd yn y nifer sy’n darllen o leiaf un llyfr Cymraeg bob mis – o 13% yn 2003 i 19% yn 2012.

Fel y byddid yn disgwyl, mae’r ffigur ar gyfer y rhai sy’n rhugl eu Cymraeg yn uwch eto, gyda 61% yn darllen o leiaf un llyfr Cymraeg y flwyddyn. Yn yr ardaloedd Cymraeg mae’r rhai sy’n darllen y nifer mwyaf o lyfrau’n byw.

Mae’n arwyddocaol mai ymatebwyr rhwng 25 a 39 oed sy’n darllen y nifer mwyaf o lyfrau Cymraeg gan adlewyrchu, o bosib, y ffaith bod rhieni’n darllen llyfrau gyda’u plant. Fe welir hefyd fod dros hanner y rhai sy’n prynu llyfrau Cymraeg yn prynu llyfrau plant.

Comisiynwyd yr arolwg hwn i arferion darllen a phrynu llyfrau Cymraeg gan Gyngor Llyfrau Cymru, ac yn 2012 bu cwmni Beaufort Research yn holi 1,000 o siaradwyr Cymraeg dros y ffôn. Gofynnwyd i’r cwmni hefyd gymharu canlyniadau’r arolwg hwn â chanlyniadau’r arolygon a gynhaliwyd rhwng 2003 a 2006.

“Mae’r canlyniadau’n hynod o galonogol,” meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau, “ac yn arwydd o lwyddiant y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru wrth iddo ymateb i gais darllenwyr o bob oed am ystod eang o lyfrau apelgar a phoblogaidd. Maen nhw hefyd yn arwydd clir fod y buddsoddiad a wnaed dros y blynyddoedd diweddar gan Lywodraeth Cymru bellach yn dwyn ffrwyth.”

Dywedodd John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, “Mae’n galonogol iawn fod yr ymchwil hwn yn dangos fod mwy o bobl yn darllen llyfrau Cymraeg a bod y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn cefnogi’r iaith drwy gynnig amrywiaeth eang o deitlau apelgar.”

“Fel y gwyddom, mae dyfodol yr iaith yn nwylo’r genhedlaeth nesaf, ac felly mae’n beth gwych fod cynifer o rieni yn darllen llyfrau Cymraeg gyda’u plant.”

Nofelau Cymraeg yw’r categori mwyaf poblogaidd ymysg darllenwyr, ac mae hynny eto’n adlewyrchu’r buddsoddiad a wnaed i alluogi’r Cyngor Llyfrau i gomisiynu amrywiaeth eang o deitlau sy’n apelio at wahanol gynulleidfaoedd. Yn sgil y buddsoddiad hwn, cyhoeddwyd toreth o weithiau apelgar o waith nifer o awduron newydd, yn ogystal â chan enwau cyfarwydd.

Mae cofiannau a hunangofiannau hefyd yn parhau’n boblogaidd gyda’r darllenwyr, a gwelwyd cynnydd sylweddol ym mhoblogrwydd llyfrau plant.

Yn ogystal, bu’r arolwg yn edrych ar batrymau prynu llyfrau, ac yn holi sut mae pobl yn dod o hyd i wybodaeth am lyfrau. Mae’r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd y siopau llyfrau – nid yn unig fel mannau i brynu llyfrau, ond hefyd fel canolfannau  gwybodaeth am lyfrau Cymraeg. Fe welir hefyd fod ysgolion, llyfrgelloedd a’r cyfryngau amrywiol yn ffynonellau pwysig o wybodaeth am lyfrau Cymraeg.

Fel y byddid yn disgwyl, roedd y we yn cael ei defnyddio’n helaeth i ddod o hyd i wybodaeth am lyfrau Cymraeg, yn enwedig ymysg pobl ifanc, ac roedd 18% o’r siaradwyr Cymraeg a holwyd wedi prynu llyfr Cymraeg ar-lein.

Ychwanegodd Elwyn Jones: “Mae canlyniadau’r arolwg hwn yn newyddion ardderchog i’r fasnach lyfrau, yn enwedig felly mewn cyfnod mor heriol yn economaidd. Maent yn dangos hefyd bod cyfraniad y diwydiant cyhoeddi i’r gwaith o hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn un holl bwysig. Ein nod yn awr yw sicrhau ein bod yn gallu parhau i gynnig y detholiad gorau posib o lyfrau o safon uchel i’r darllenwyr.”

Gorseddu Christine

2013 ChristineYng Ngŵyl Cyhoeddi Eisteddfod Sir Gaerfyrddin 2014 gorseddwyd Christine yn Archdderwydd. Hi yw’r fenyw cyntaf i fod yn Archdderwydd yr Orsedd. Mae hi’n dod yn wreiddiol o’r Rhondda ac mae wedi dysgu Cymraeg. Mae’n byw yn yr Eglwys Newydd ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe.

Dewin Llangollen

20130628 CymroYn Y Cymro mae erthygl am Eilir Owen Griffiths, Cyfarwydwr Cerdd  Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen sy’n byw yn Ffynnon Taf. Mae’n sôn am ei fagwraeth yn rhan o deulu oedd yn cynnal nosweithiau llawen yng Nghlwyd. Nawr mae’n gyfansoddwr, arweinydd a darlithydd yng Ngholeg y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. Ymhlith y llu o gerddorion mae wedi denu i Llangollen eleni mae Jools Holland, Evelyn Glennie a’r Buena Vista Social Club o Hafana. Bydd Côr Godre’r Garth yn ymuno â chôr yr ŵyl i ganu Verdi Requiem nos Wener.

Cyngor i Bobl Hŷn

Cyngor gan Age Cymru

Age Cymru yw’r elusen genedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.

Rydym yn rhoi cyngor diduedd am ddim i rai dros 50 oed, eu teuluoedd a’u ffrindiau ledled Cymru ar ystod o bynciau.

Mae’n bosibl bod rhai o’ch darllenwyr am gyngor ynglŷn â ble i gael help gyda’r tasgau bach hynny o amgylch y tŷ.

Efallai bod rhywun am ganfod faint y dylai dalu am ofal un annwyl iddynt?

Neu efallai eu bod am wybod a ydynt yn gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn ac am gymorth i’w hawlio?

Os felly, gall Age Cymru helpu gyda’r materion hyn i gyd, a mwy – y cyfan mae angen i chi ei wneud yw ein ffonio ni ar 08000 223 444 a siarad ag un o’n hymgynghorwyr.

Mae hwn yn wasanaeth dwyieithog.

Gallwn gynnig cymorth ymarferol a chyngor, neu gallwch gael cyngor wyneb yn wyneb a chymorth gan un o’n rhwydwaith o bartneriaid lleol ledled Cymru.

Gallwch hefyd gael copi am ddim o’n cyhoeddiad newydd ‘Mwy o Arian yn eich Poced’, sef canllaw i hawlio budd-daliadau ar gyfer pobl dros oed pensiwn.

Yn gywir,

Claire Morgan

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol

Age Cymru

John Elfed yn ddiflewyn-ar-dafod

Ac yntau’n un o bersonoliaethau mwyaf dadleuol a diflewyn-ar-dafod Cymru, mae John Elfed Jones wedi hen arfer â chreu penawdau cenedlaethol. Beth felly yw gwir gymhellion y gŵr adnabyddus hwn sydd wedi arwain rhai o gyrff a mudiadau mwyaf pwerus y wlad? 20130626JohnElfed2

Fe gawn ddarganfod mwy am gyn-gadeirydd Dŵr Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrth iddo gyhoeddi ei hunangofiant, Dyfroedd Dyfnion.

Mae CV John Elfed, sy’n enedigol o Faentwrog ond bellach yn byw yn y Coety ger Pen-y-bont ar Ogwr, yn rhyfeddol a dweud y lleiaf. Ymhlith ei restr faith o gyn-swyddi mae Dirprwy Gyfarwyddwr Rheoli Alwminiwm Môn, Is-Ysgrifennydd yn y Swyddfa Gymreig, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cadeirydd HTV Cymru a Chadeirydd Dŵr Cymru.

Gyda dros ugain mlynedd o swyddi uchel eu proffil o dan ei felt, mae’n saff dweud nad yw’r gŵr hwn erioed wedi bod ofn dweud ei ddweud. Tra oedd yn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith adeg y paratoi ar gyfer Deddf Iaith 1993, câi alwadau ffôn bygythiol i’w gartref gyda’r nos. Cafodd gryn sylw yn dilyn erthygl yng nghylchgrawn Barn unwaith, wedi iddo gymharu effaith y llif o fewnddyfodiaid di-Gymraeg ag effaith clwy’r traed a’r genau, oedd yn anrheithio’r Gymru wledig ar y pryd.

Dywed John: “Honnwyd fod fy sylwadau yn hiliol a’m bod yn galw’r Saeson yn glwy’r traed a’r genau ond yr hyn a ‘sgrifennais i, mewn gwirionedd, oedd bod dylanwad y mewnddyfodiaid yn newid natur cefn gwlad Cymru yn union fel roedd clwy’r traed a’r genau’n debygol o’i wneud.

“Rwy’n dal i sefyll wrth fy sylwadau ac rwyf yn credu bod yr un peth yn dal yn wir heddiw.”

Mae’r nodweddion yma’n parhau’n glir yn ei hunangofiant wrth iddo fynd ati i adrodd ei hanes yn ddidwyll.

Yn ystod ei gyfnod o 11 mlynedd fel Cadeirydd Dŵr Cymru bu’n goruchwylio’r broses o breifateiddio’r cwmni, gan ennill clod fel y dyn a drodd y busnes yn broffidiol ar ôl colledion mawr. Y llynedd creodd sylwadau’r cyn-bennaeth benawdau cenedlaethol unwaith eto pan ddywedodd y dylai Lloegr orfod talu am ddefnyddio dŵr o Gymru.

“Mae’n gywilyddus bod 30% o ddŵr Cymru yn mynd i Loegr. Mae’n adnodd pwysig a gwerthfawr i ni a dyle ni fod yn ei drin fel mae’r Albanwyr yn trin olew,” meddai John.

“Rydw i wastad wedi bod yn berson sydd ddim ofn dweud ei ddweud ac anaml fydda i’n difaru. Os ydw i wedi dweud rhywbeth sydd wedi brifo rhywun yn bersonol, yna rwy’n difaru, ond byth am fy sylwadau am gyrff neu fudiadau.”

Cawn glywed hefyd am ei falchder am ei gyfnod fel Cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith: “Rwy’n hynod falch o fy ngwaith gyda’r Bwrdd, roedd hi’n fraint ac anrhydedd i mi gael bod yn rhan o’r Ddeddf Iaith gyntaf. Er y balchder, roedd yn gyfnod anodd tu hwnt a derbyniais fygythiadau difrifol, gan gynnwys rhai i losgi fy nhŷ,” meddai John.

“Ar yr un llaw roedd y Bwrdd a’r Cymry Cymraeg yn cwffio am ddeddf sylfaenol a swmpus, ac ar y llaw arall roedd y Llywodraeth yn gyndyn o basio’r ddeddf ac yn ceisio ei chyfyngu hi o hyd. Ar y diwedd ro’n i’n teimlo fy mod wedi bod trwy 10 rownd gyda Cassius Clay!”

Ychwanega John: “Beth bynnag, mi gafwyd Deddf Iaith wedi llawer o drafod â swyddogion y Swyddfa Gymreig a thipyn o gyfaddawdu ar y ddwy ochr. Gwell tri chwarter torth na dim bara o gwbl i’r sawl sy’n newynu – roedd hi’n sylfaen hynod bwysig.”

Cynhelir lansiad Dyfroedd Dyfnion yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, nos Wener, 28 Mehefin am 7 o’r gloch.

Dyfroedd Dynion       John Elfed

Y Lolfa      £9.95

ISBN: 9781847716750

Ysgoloriaethau Gradd Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2013-14

colegcymraegMae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr sydd am astudio cyrsiau gradd meistr – naill ai yn gyfan gwbl neu’n rhannol – drwy gyfrwng y Gymraeg.

Hyd at £3,000 yw gwerth pob un o’r ysgoloriaethau yma, ac maent ar gael i fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio cyrsiau lefel M penodol, sy’n cynnwys o leiaf 60 credyd o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Rhan 1 (h.y. o leiaf 60 credyd o ddarpariaeth sy’n cael ei ddysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau neu diwtorialau Cymraeg).

Ynghyd ag astudio cyfran o’r cwrs ei hun drwy gyfrwng y Gymraeg, disgwylir i ddeiliaid yr Ysgoloriaethau Gradd Meistr lunio eu traethodau estynedig (neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny) yn y Gymraeg hefyd.

Er mwyn gwneud cais am Ysgoloriaeth Meistr, mae’n rhaid i chi ymaelodi â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae modd gwneud hynny, fel myfyriwr, ar wefan y Porth.

Mae’r pecyn ymgeisio i’w gael yma:
Cyrsiau Cymwys Ysgoloriaeth Meistr 2013-14
Amodau a Thelerau Ysgoloriaeth Meistr 2013-14
Ffurflen Gais Ysgoloriaeth Meistr 2013-14
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer yr ysgoloriaeth bydd y 15fed o Orffennaf 2013