Archif Awdur: Golygydd

Trafod dyfodol yr iaith

Ysgol Gyfun Garth Olwg yn ymuno â’r drafodaeth am ddyfodol yr iaith Gymraeg

20130624iaithgolwg2Heddiw  ymunodd disgyblion Ysgol Gyfun Garth Olwg â’r drafodaeth genedlaethol am ddyfodol y Gymraeg yn ystod ymweliad â’r ysgol gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru.

 

Mae Iaith fyw: cyfle i ddweud eich dweud yn gwahodd pobl o bob rhan o’r wlad, waeth beth yw eu cefndir a’u gallu yn y Gymraeg, i fynegi eu barn a rhannu eu syniadau ar gyfer yr iaith.

Siaradodd y disgyblion â’r Prif Weinidog am eu profiad o siarad Cymraeg a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r dosbarth.

Mae grwpiau cymunedol tebyg ar draws Cymru, gan gynnwys canghennau Merched y Wawr, yr Urdd a’r Mentrau Iaith, hefyd yn bwydo eu sylwadau i’r drafodaeth bwysig hon.

Gall pobl gymryd rhan mewn sawl ffordd, gan gynnwys drwy ddefnyddio fforwm ar-lein, drwy lenwi arolwg ar-lein, drwy rwydweithio cymdeithasol ar Facebook a Twitter gan ddefnyddio’r hashtag #iaithfyw, drwy e-bostio iaithfyw@iaith.eu neu drwy ffonio 01239 711 668.

Bydd y sylwadau, y profiadau a’r enghreifftiau o arfer da y mae pobl yn eu rhannu yn cael eu trafod mewn cynhadledd undydd genedlaethol, y Gynhadledd Fawr, a gynhelir yn Aberystwyth ar 4 Gorffennaf.

Bydd modd gwylio’r gynhadledd yn fyw ar y diwrnod a chymryd rhan ar-lein. Caiff yr wybodaeth a ddaw i law ei defnyddio i lywio polisi a gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol yr iaith.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Roedd yn braf cael siarad â’r disgyblion brwdfrydig yn Ysgol Gyfun Garth Olwg heddiw a chlywed eu syniadau ar sut orau i sicrhau bod yr iaith yn ffynnu.

“Pobl ifanc yw dyfodol yr iaith ac rydym eisiau clywed am y materion amrywiol sy’n effeithio arnynt. Er enghraifft, rydym eisiau gwybod pam fod cymaint o bobl ifanc sy’n gallu siarad Cymraeg ddim yn siarad yr iaith yn gymdeithasol, a sut i’w hannog i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r ysgol.

“Dyma gyfle gwych i bobl ar draws Cymru, o bob oed a chefndir, i ddweud eu dweud a gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae’r iaith yn rhan sylweddol o’n hunaniaeth ddiwylliannol, ac mae gan bawb rôl bwysig i’w chwarae o ran sicrhau ei bod yn ffynnu.”

Râs Rhwng Dyn a Cheffyl

Dydd Sadwrn, 8 Mehefin, cynhaliwyd y râs flynyddol rhwng dyn a cheffyl yn Llanwrtyd Wells. Roedd Rhodri Gomer wedi mynd yno ar ran Heno, S4C, ac un o’r rhedwyr bu’n ei holi oedd Catrin Davies o Glwb Rhedeg Pontypridd.20130610 Catrin Davies

Dywedodd Catrin “Dwi ddim wedi arfer rhedeg mewn tywydd fel hyn yng Nghymru a dwi’n meddwl fydd hi dipyn bach yn boeth heddiw ond mae digon o ddŵr o gwmpas”.

Y ceffyl enillodd eleni gyda Beti Gordon yn marchogaeth Shah.

Gwŷl Tafwyl

DYDD SADWRN –15 Mehefin 2013– 11.00-21.00

Tafwyl2013Bydd prif ddigwyddiad Tafwyl yng Nghastell Caerdydd, ar Fehefin 15fed. Tafwyl

Bydd stondinau amrywiol yn y ffair yn hyrwyddo cynnyrch Cymreig; yn ogystal â gweithdai a sesiynau llenyddol, cerdd, celf, coginio a drama. Bydd prif lwyfan gyda pherfformiadau byw gan artistiaid gwerin, roc a phop mwyaf llwyddiannus y sin gerddoriaeth Gymraeg, sesiynau acwstig, diddanwyr stryd, sesiynau dawns, maes chwaraeon, a gweithgareddau i blant o bob oedran.

Canlyniadau Iau Gwener a Sadwrn yr Urdd

Bro Taf Drama GerddDawns Werin Unigol i Fechgyn Bl 9 ac iau: 1af Daniel Jones, Ysgol Gyfun Plasmawr
2il Osian Gruffydd, Adran Bro Taf

Cân Actol Bl. 7, 8 a 9: 2il, Adran Bro Taf, Rhanbarth Morgannwg Ganol

Unawd Merched Bl 10 a dan 19 oed: 3ydd Siwan Henderson, Ysgol Llanhari

Llefaru Unigol Bl 10 a dan 19 oed: 1af Gwynfor Dafydd, Ysgol Llanhari

Dawns Werin Unigol i Ferched Bl 10 a dan 25 oed:  2il Siwan Evans, Adran Bro Taf

Dawns Stepio i 2, 3 neu 4 Bl 7 a dan 25 oed: 1af Osian, Trystan a Gwynfor, Adran Bro Taf

Dawns Werin Unigol i Fechgyn Bl 10 a dan 25 oed: 1af Trystan Gruffydd, Adran Bro Taf

Detholiad o Ddrama Gerdd Bl 7 a dan 25 oed: 1af, Adran Bro Taf

Cyflwyniad Theatrig Unigol 19 – 25 oed: 2il Huw Blainey, Aelwyd Llundain

Dawns Stepio Bl 7 a dan 25 oed: 2il, Adran Bro Taf

Casgliad o 30 o ganeuon protest Cymraeg

Mewn unrhyw gymdeithas wâr, mae lle i brotest ac i ymgyrchu, ac i gicio yn erbyn y tresi. Arwydd o iechyd unrhyw ddiwylliant yw bod y caneuon a genir hefyd yn mynegi’r brotest honno o bryd i’w gilydd. Cyhoeddir y casgliad hwn o 30 ganeuon protest Cymraeg i gyd-fynd â’r gyfres o raglenni ar thema protest a ddangoswyd gan S4C yn ystod mis Ebrill 2013.Caneuon Protest CD

Bydd 30 o ganeuon protest Cymraeg amrywiol ar gael ar CD ddwbwl yn awr. Llynedd, dathlodd Cymdeithas yr Iaith ei hannercanmlwyddiant, ac eleni cofiwyd am y gweithredu a fu yn erbyn boddi Cwm Tryweryn. Dros y cyfnod hwn, mae cantorion Cymru wedi mynegi eu protest a’u dyheadau ar gân, a chasglwyd y goreuon ynghyd ar ddwy CD. “Mae protest wleidyddol yn rhan annatod o ddeunydd caneuon unrhyw ddiwylliant iach” meddai Dafydd Iwan ar ran cwmni Sain” ac y mae’n dda fod gennym ni yng Nghymru draddodiad mor gryf yn hyn o beth, a bydd y casgliad hwn yn gofnod gwych o ddyheadau ieuenctid Cymru yn ystod y cyfnod cyffrous hwn yn hanes ein cenedl.”

Mae caneuon wedi cael eu defnyddio i fynegi teimladau cryfion ers canrifoedd, ac y mae sawl enghraifft o “ganu protest” yn ein traddodiad o ganu baledi yng Nghymru. Sefydlwyd label Sain yn ystod un o gyfnodau mwyaf cythryblus yr ymgyrchu dros yr iaith Gymraeg, a hawliau Cymru fel cenedl, a naturiol felly oedd i hynny gael ei amlygu mewn nifer o’r caneuon a recordiwyd. Parhaodd y thema o ganu “protest”, ac o fynegi dyheadau a theimladau cryf, hyd heddiw, er ei bod yn amrywio mewn natur o gyfnod i gyfnod.

Dengys y casgliad hwn nid yn unig fel y mae pwnc y brotest yn amrywio, ond hefyd fel yr ehangodd y cynfas fel petai, gan ddwyn i mewn gyfeiriadau at sefyllfa De Affrig, a phobol dduon Gogledd America. Ond prif bwnc y brotest gan amla, beth bynnag fo arddull y miwsig, yw brwydr yr iaith, hawliau’r gweithiwr a’r frwydr dros diriogaeth Cymru, yn enwedig yng nghyd-destun boddi Tryweryn.   Darlledodd S4C wythnos o raglenni ar thema protest ddechrau Ebrill, felly penderfynwyd ryddhau casgliad o ganeuon i gyd-fynd â’r rhaglenni hynny gan Sain. Caneuon sy’n dangos emosiynau cadarn yr artistiaid a’u teimladau cryfion tuag at pa bynnag brotest y cenir amdani. Clywn ganeuon gan Geraint Jarman, Dafydd Iwan, Anhrefn, Meic Stevens a llawer mwy.

Rhestr Traciau – Y CYRFF: Cymru, Lloegr a Llanrwst; DAFYDD IWAN: Ciosg Talysarn; CHWYLDRO: Rhaid yw eu tynnu i lawr; LLYGOD FFYRNIG: NCB; OMEGA: Adferwch y Cymoedd; EDWARD H.: Tŷ haf; GERAINT JARMAN: Cenhadon Casineb;GERAINT LOVGREEN: Nid eu hanes nhw yw fy stori I; HERGEST: Dewch i’r Llysoedd; HUW CHISWELL: Etifeddiaeth ar werth; MAFFIA MR. HUWS: Dan ni’m yn rhan; MEIC STEVENS: Tryweryn; MYNEDIAD AM DDIM: Llwch y glo;PLETHYN: Tân yn Llŷn; SOBIN A’R SMAELIAID:  Ta-ta Botha; STEVE EAVES: Affrikaaners y Gymru Newydd; TEBOT PIWS: D’yn ni ddim yn mynd i Birmingham; TRWYNAU COCH: Niggers Cymraeg; ENDAF EMLYN: Arwyr estron;TECWYN IFAN: Gwrthod bod yn blant bach da; DAFYDD IWAN: Peintio’r byd yn wyrdd; ANWELEDIG: Hunaniaeth;HEN WLAD FY MAMAU: Nid Cymru fydd Cymru; ETO: Sut fedrwch chi anghofio; MIM TWM LLAI: Pam fod eira yn wyn?; NÂR: Cymro; SIBRYDION: Madame Gullotine; IRIS WILLIAMS: I gael Cymru’n Gymru Rydd; HUW JONES: Dŵr; MONIARS: Mae’n wlad i mi.

Nofel y Mis

DIRGELWCH I DDITECTIFS ABERYSTWYTH

Yn nofel newydd Geraint Evans, y nofelydd ffuglen hynod lwyddiannus o Geredigion, gwelwn yr awdur beiddgar yn ail-ymuno a thîm y CID yn Aberystwyth sydd unwaith eto’n delio â llofruddiaeth yn y dref.Nofel Diawl y Wasg

Mae Diawl y Wasg, trydedd nofel yr awdur o Dalybont, yn dilyn y Ditectif Gareth Prior a’i dîm o Heddlu Dyfed-Powys wrth iddynt geisio datrys y dirgelwch o lofruddiaeth perchennog un o brif weisg Cymru.

Y llenor Meurig Selwyn yw perchennog Gwasg Gwenddwr, sydd, yn ôl pob tebyg mewn trafferthion ariannol, ac mae Meurig yn awyddus i werthu’r cwmni.

At hynny, mae gan Meurig nifer o elynion, ac yn fuan ar ôl iddo draddodi beirniadaeth cystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol caiff ei lofruddio yn ei gartref.

Yn y nofel mae llofruddiaeth Meurig yn profi’n dipyn o her i dîm CID Aberystwyth, Gareth Prior, Clive Akers (sydd eisoes yn gyfarwydd i ddarllenwyr drwy nofelau cyntaf Geraint Evans, Y Llwybr a Llafnau) a Teri Owen.

Mae Meurig yn fflangellwr llenyddol ac nid yw’n poeni taten am hyn. Yn ben feirniad ar bawb a phopeth mae ganddo fyddin o elynion a rhaid i Inspector Prior a’i dîm ddyfalbarhau a chwynnu’r rhestr hir o syspects i ganfod y llofrudd,” meddai’r awdur, Geraint Evans.

Wrth i’r ymchwiliad i’r llofruddiaeth gael ei gynnal, mae nifer o gyfrinachau yn dod i’r wyneb, cyfrinachau ymysg cyd-weithwyr yn ogystal â rhai teuluol. Fe ddaw i’r amlwg bod gan nifer o bobl gymhellion i lofruddio Meurig, gan gynnwys ei chwaer Susan a gweddill staff y wasg – sydd yn eu tro yn dod o dan y chwyddwydr.

Mae ardal Aberystwyth yn cael sylw blaenllaw yn nofelau’r awdur oedd yn arfer bod yn warden ar y neuadd breswyl i fyfyrwyr Cymraeg, Pantycelyn, yn Aberystwyth rhwng 1997 a 2003.

“Darllenais am Rydychen Morse a Chaeredin Rebus a meddwl pam na gewn ni dditectif sy’n gweithio’n Aber? Mae’r dref a’r ardal yn gyfoethog o ran cymeriadau a golygfeydd ac rwy’n mwynhau arwain y darllenydd i wahanol fannau. Ond rhaid bod yn ofalus – gofynnodd rhywun i mi am gymeriad a greais i, a dweud bod dynes debyg yn byw drws nesa iddi!!” meddai.

Bellach wedi ymddeol o’i swydd fel darlithydd yn yr adran Astudiaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae gwaith Geraint yn gysylltiedig â’r genre dditectif. Dywed Geraint: “Rwyf wedi darllen cannoedd o nofelau ditectif ac yn parhau i wneud. Drychwch ar yr ystadegau benthyciadau o lyfrgelloedd cyhoeddus a ffigyrau gwerthiant a dyma’r genre sydd ar y brig – ond prin iawn yw’r awduron Cymraeg.”

Mae’r nofel hefyd yn ein harwain o fyd llenyddol Aberystwyth i fyd y Mafia yn strydoedd cefn Napoli, ac i fyd gamblo ar-lein. Dywed Geraint Evans: “Mae’n rhoi cyfle i’r cymeriadau ‘ddianc’ bob hyn a hyn – gan arwain wedyn at bosibliadau i ehangu’r stori. Mae Diawl y Wasg yn bwrpasol am dywys darllenwyr drwy siwrne ddyrys a thywyll ond gan arwain at y golau yn y diwedd!”

* Bydd Diawl y Wasg yn cael ei lansio nos Wener, 7 Mehefin am 7pm yn Llyfrgell y Dref, Aberystwyth mewn noson yng nghwmni Jeremy Turner.

Diawl y Wasg         Geraint Evans

Y Lolfa       £8.95

ISBN: 9781847716712

THEATR BARA CAWS

THEATR BARA CAWS

yn cyflwyno

3 chynhyrchiad am Kate Roberts

yn EISTEDDFOD GENEDLAETHOL DINBYCH A’R CYLCH

   THEATR TWM O’R NANT, DINBYCH

o Nos Fawrth 6ed o Awst – Nos Wener 9fed o Awst   7.30 

‘CYFAILL’ – drama newydd sbon gan Francesca Rhydderch

Archwilia’r ddram deimladwy hon un o’r cyfnodau mwyaf cythryblus ym mywyd Kate Roberts, pan fu farw ei gwr, Morris, yn annhymig o alcoholiaeth. Gwelwn sut y mae ymddangosiad sydyn ymwelydd afieithus, bengaled ac ymhongar o Hwngari – Daisy Wagner – yn cymell Kate i’w chodi ei hun o ddyfnderoedd ei galar ac wynebu bywyd unwaith eto.  A tybed ai’r ferch ifanc hon oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer un o greadigaethau mwyaf lliwgar yr awdures – Winni Ffini Hadog?

a hefyd

‘TE YN Y GRUG’ – Addasiad newydd gan Manon Wyn Williams o un o hoff lyfrau ‘Brenhines ein Llên’.

Llwyfaniad syml, agos-atoch yn seiliedig ar y straeon sydd yn y nofel – straeon am dyfu i fyny, am golli diniweidrwydd, am blentyn yn ceisio deall cymhlethdod y byd a’i bobol, ac am dderbyn bod dadrithiad yn rhan o fywyd.  Mae’r llyfr yn fytholwyrdd ac yn rhan annatod o gwricwlwm addysg ein hysgolion.

Y cast: Carys Gwilym, Morfudd Hughes, Fflur Medi Owen, Rhodri Siôn, Manon Wilkinson

Cyfarwyddo:  Betsan Llwyd   Cynllunydd:  Emyr Morris-Jones

Gellir cael tocynnau cynyrchiadau ‘Cyfaill’ a ‘Te yn y Grug’ ar gyfer yr Eisteddfod drwy:

www.wegottickets.com/theatrbaracaws neu yn ogystal yn ystod wythnos yr Eisteddfod drwy ffonio: Mari: 07880031302

Dydd   Gwener 4 Hydref Sherman Cymru Cyfaill a   Te yn y Grug
Dydd   Sadwrn 5 Hydref Sherman Cymru Cyfaill a   Te yn y Grug

a hefyd

YN Y BABELL LEN – DDYDD SADWRN OLAF YR EISTEDDFOD – 10fed o Awst

John Ogwen a Maureen Rhys  yn ‘ANNWYL KATE, ANNWYL SAUNDERS’

Cipolwg ar gyfnod maith o lythyru rhwng dau o brif lenorion Cymru, yng nghwmni dau o fawrion y theatr yng Nghymru – fe gawn y dwys, y digri a’r deifiol.

BYDD ‘CYFAILL’ A ‘TE YN Y GRUG’ AR DAITH O AMGYLCH CYMRU –  9fed o Fedi – 5ed Hydref, 2013 – gweler gwefan Bara Caws: www/theatrbaracaws.com

‘Annwyl Kate, Annwyl Saunders’ ar daith o 20 Mehefin – 30 Hydref, 2013.

Dydd Mercher Eisteddfod yr Urdd

Dydd Mercher yn Eisteddfod yr Urdd

Ymgom Garth OlwgYmgom Bl 7, 8 a 9: 3ydd, Ysgol Gyfun Garth Olwg.

Dawns Greadigol Bl 7, 8 a 9: 3ydd, Ysgol Gyfun Garth Olwg.

Grwp Llefaru Bl 6 ac iau (Adran): 3ydd, Adran Bro Taf.

Dawns Werin Bl 6 ac iau(Ysg. hyd 100/Adran hyd 50): 3ydd, Adran Bro Taf.

Grwp Llefaru Bl 9 ac iau (Adran): 3ydd, Adran Bro Taf.

 

 

Aneirin Karadog yw Bardd Plant Cymru

Cyhoeddwyd mai Aneirin Karadog yw Bardd Plant newydd Cymru ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yng Nghilwendeg, Sir Benfro, y prynhawn yma.

Mae Aneirirn yn dod yn wreiddiol o Bontypridd, ac aeth i Ysgol Gyfun Rhydfelen. Mae’n gyflwynydd teledu ar rhaglen Heno ac yn gyn-aelod o’r grwp hip-hop, Genod Droog.

Mae Aneirin yn byw ym Mhontyberem gyda’i wraig, Laura, a’i ferch flwydd oed,Sisial.

Mae’n siarad pump iaith – Cymraeg, Saesneg, Llydaweg, Ffrangeg a Sbaeneg.  Mae ei gyfrol gyntaf o gerddi, O Annwn i Geltia, ar restr fer Llyfr Barddoniaeth y Flwyddyn 2013.