Bro Taf El谩i

Bro Taf El谩i

Geraint Evans, Stuart Burrows, Tom Jones, Evan James a James James, Dr William Price a Neil Jenkins – dim ond rhai o enwogion Taf El谩i sydd wedi gwneud eu marc ar fywyd y genedl.

Ardal i’r gogledd o Gaerdydd yw Taf El谩i yn ymestyn o Bontypridd i Lanharan ac o Donyrefail i Bentyrch.

Daw enw’r ardal o’r ddwy afon, y Taf a’r El谩i sy’n tarddu yng nghymoedd Morgannwg ac yn ymuno wrth gyrraedd y m么r ym Mae Caerdydd. Mae’r rhan fwyaf o’r ardal nawr yn Sir Rhondda Cynon Taf ac ardal Pentyrch yn Sir Caerdydd.

Mae’r olion cynharaf o fywyd diwylliedig yn yr ardal yn ymestyn yn 么l i’r oesoedd cyn Crist. Ger pentref Creigiau mae Cromlech sy’n dyddio o Oes y Cerrig a gerllaw yn Rhiwsaeson ger Llantrisant mae Caerau enfawr ar ben y bryn sy’n dyst i’r ymladd a fu’n yn yr ardal.

Mae dolmenni o’r Oes Efydd, 2000 Cyn Crist, ar ben Mynydd y Garth – mynydd a ddaeth yn fwy enwog yn ddiweddar yn un o ffilmiau Hugh Grant am Sais a aeth i fyny’r bryn a dod i lawr y mynydd. Ceir golygfeydd godidog o ben Mynydd y Garth yn ymestyn o F么r Hafren i Fannau Brycheiniog.

Daeth y Rhufeiniaid yma i gloddio am haearn ger Pentyrch ac mae’n sicr eu bod wedi adeiladu treflan ar y mynydd gerllaw. Saif yr unig gastell o bwys ar fryn Llantrisant. Cafodd ei adeiladu yn y 13eg ganrif a bu’n dyst i hanes y ‘Tywysog Du’ a gorthrwm y Normaniaid ar fywyd yr ardal. Mae’n adfeilion erbyn hyn.

Un o’r rhai fu’n brwydro i gadw’n traddodiadau a’n hiaith yng nghyfnod y 13 – 14 ganrif oedd Cadwgan Fawr a ddefnyddiodd fwyell enfawr fel ei brif arf yn erbyn y gelyn.

Cysegrwyd Eglwys Llantrisant i’r tri sant sef Illtyd, Gwynno a Dyfodwg ac mae’n dyddio yn 么l i’r 11eg ganrif.

Roedd yr ardal yn parhau yn un amaethyddol pan adeiladodd William Edwards ei bont enwog ar draws yr afon Taf ym Mhontypridd ym 1756. Cafodd y bont ei chwblhau ar y drydedd ymgais gan adeiladu’r bont fwa hiraf o’i math yn Ewrop yr adeg honno.

Ond daeth newid byd yn y 18ed ganrif gydag agor y gweithfeydd haearn ym Merthyr ac adeiladu’r gamlas i lawr y cwm i’r porthladd yng Nghaerdydd ym 1794. Yn ei sgil daeth gweithfeydd newydd yn cynnwys gwaith cadwyni haearn ym Mhontypridd a’r Crochendy yn Nantgarw a fu’n enwog am gynhyrchu llestri hardd.

Mae glo yn dod i’r brig ar ffin ddeheuol Taf El谩i a bu’n cael ei gloddio am ganrifoedd ar raddfa fechan. Ond yn y 19ed ganrif suddwyd pyllau glo ym mhob cwr o’r ardal i ddiwallu anghenion diwydiant.

Adeiladwyd rheilffyrdd i lawr y cymoedd i gario’r glo i’r porthladdoedd yng Nghaerdydd a’r Barri. Denwyd miloedd o bobol i weithio yn y diwydiannau newydd a datblygodd trefi Pontypridd a Thonyrefail. Daeth Gilfach Goch yn enwog yn y llyfr a’r ffilm How Green was my Valley.

Yn y cyfnod ar ddiwedd yr ail ryfel byd ym 1947 roedd dros 6000 yn gweithio yn y pyllau glo ond erbyn 1989 roedd y pyllau i gyd wedi cau. Mae cyfle i fynd yn 么l i’r oes pan fu glo yn teyrnasu ym Mharc Treftadaeth y Rhondda yn Nhrehafod.

Agorwyd yr yst芒d ddiwydiannol gyntaf yng Nghymru yn Nhrefforest yn y 1950au a daeth diwydiannau newydd i gymryd lle’r diwydiant glo.

Mae agosrwydd yr M4 yn gwneud yr ardal yn atyniadol i ddiwydiannau o bob cwr o’r byd a does dim diwedd ar ddatblygiadau tai newydd a mewnfudo i’r ardal.

Daw hanes Pontypridd a’r ardal yn fyw i ni heddiw yn Amgueddfa Pontypridd ger yr hen bont.

Cafodd y newidiadau diwydiannol effaith sylweddol ar fywyd diwylliannol yr ardal. Yn sgil y mewnlifiad o gefn gwlad Cymru daeth ffyniant diwylliannol ac erbyn canol y 19ed ganrif roedd Pontypridd a ‘Chlic y Bont’ yn ganolfan beirdd a llenorion o gylch eang.

Roedden nhw’n cwrdd yn y Malsters Arms ac yn cynnal defodau’r orsedd o dan ddylanwad Iolo Morgannwg o gwmpas y Garreg Siglo ar y Comin.

Y tad a’r mab Evan James a James James roddodd i ni ein Hanthem Genedlaethol. Yn Eglwysilan y ganwyd Evan James ond roedd yn byw ym Mhontypridd ac yn berchen melin wl芒n yn Mill Street pan gyfansoddodd ef a’i fab yr anthem ym mis Ionawr 1856.

Un o’r rhai fu’n rhan o ddefodau’r derwyddon ar y Comin oedd Dr William Price. Adeiladodd Dai Crwn ger y Comin a bu’n adnabyddus yn yr ardal gyda’i wisgoedd lliwgar, gwallt hir a het o groen llwynog.

Daeth i enwogrwydd am fod y cyntaf i amlosgi wedi iddo losgi corff ei fab pum mis oed yn Llantrisant ym 1884. Wedi hyn cyfreithlonwyd corfflosgi. Saif cerflun pres ohono ar sgw芒r Llantrisant.

Mae cerddoriaeth wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ardal. Mae canu gyda’r Fari Lwyd o gwmpas y flwyddyn newydd ymhlith traddodiadau hynaf yr ardal ac mae’r ddefod yn parhau i gael ei chynnal yng nghylch Llantrisant a Phentyrch.

Datblygodd canu corawl yn sgil twf Anghydffurfiaeth yn y 19ed ganrif ac roedd cymdeithasau corawl yng Nghilfynydd, Llantrisant, Pontypridd, Trefforest a Thonyrefail ac mae’r traddodiad yn parhau hyd heddiw a’r ardal wedi esgor ar sawl c么r adnabyddus megis C么r Godre’r Garth, C么r Merched y Garth, Cantorion Creigiau a Chantorion Richard Williams.

Daeth llu o unawdwyr o’r ardal, yn eu plith mae Geraint Evans a Stuart Burrows o Gilfynydd, ac ym maes canu poblogaidd mae’r enwog Tom Jones o Drefforest.

Roedd Morfydd Llwyn Owen o Drefforest yn un o gyfansoddwyr disgleiriaf Cymru a Gweddi Pechadur ymhlith ei chaneuon enwocaf. Bu farw yn 27 mlwydd oed ym 1918.

Yr emyn-d么n enwocaf i gael ei chyfansoddi yn yr ardal yw Cwm Rhondda o waith John Hughes ym 1907, arweinydd y g芒n yng Nghapel Salem, Tonteg.

Yn y 19ed ganrif roedd yr ardal yn fwrlwm o ddawnsio, a’r hen grefft o stepio yn fyw yn y pentrefi o gwmpas Nantgarw. Ond o dan ddylanwad Diwygiad 1859 daeth diwedd ar ddawnsio a chanu’r delyn nes i Ddawnswyr Nantgarw yn y 1980au atgyfodi’r traddodiad o stepio yn yr ardal.

Ond mae hanes diweddar Taf El谩i o bwys mawr i ddyfodol yr ardal. Yn y 1950au y cychwynnodd yr ymgyrch i agor ysgolion cynradd Cymraeg ac agorwyd y gyntaf yn yr ardal ym Mhont Si么n Norton, Pontypridd ym 1951.

Agorwyd yr Ysgol Gyfun Gymraeg gyntaf yn yr ardal yn Rhydfelen ym 1962. Erbyn diwedd yr 20ed ganrif roedd dros 25% o blant yr ardal yn cael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bu Eisteddfod yr Urdd yn yr ardal ym 1973 ac 1991 a sefydlwyd Menter Taf El谩i yn 1992 i ehangu’r defnydd o’r Gymraeg. Mae Parti Ponty yn ddigwyddiad blynyddol sy’n denu miloedd i Bontypridd i ddathlu twf yr iaith Gymraeg. Agorwyd Clwb y Bont yn ganolfan i Gymry’r ardal ym 1985. Mae Prifysgol Morgannwg yn Nhrefforest yn rhoi cyfle newydd i bobol o bob oed i ddysgu’r Gymraeg.