Canolfan Gymraeg yr Andes

canolfan yr andesBraf ydoedd clywed am agor Canolfan Gymraeg yng Nghaerdydd. 聽O’r diwedd! 聽Dylai hon wneud byd o wahaniaeth i Gymry’r Brifddinas, boed yn siaradwyr Cymraeg neu yn ddysgwyr. Adeilad amlbwrpas ar gyfer pobl o bob oed.

Fel yr athrawes gyntaf a fu’n gweithio yn yr Andes o dan y Cynllun Dysgu Cymraeg ga i ddweud mor falch y mae ‘Cymry’ Esquel 聽o’u Canolfan hwythau. 聽Pan gyrhaeddais i yno ym 1997 yr unig gyfle gaent i gymdeithasu oedd ar y Sul, a hynny ond yn achlysurol, gan mai dim ond rhyw bedair neu bum gwaith y flwyddyn yr agorai capel Seion ei ddrysau! 聽Buan y newidiodd pethau ar 么l i mi gyrraedd oherwydd wrth dderbyn arweiniad bu yno addoli cyson.
Gwelais, er hynny, nad oedd gan yr Archentwyr hyn o dras Cymreig fodd i gwrdd 芒’i gilydd, i fwynhau nosweithiau llawen, i gynnal twmpath, i baratoi ar gyfer yr eisteddfodau nac i wylio’r tapiau fideo y byddent yn eu derbyn yn rheolaidd gan garedigion o Gymru. 聽Codi Canolfan oedd yr unig beth amdani!

Dyma fynd ati i ‘werthu brics’ ar eu rhan – punt y fricsen! 聽Yn Eisteddfod Penybont ar Ogwr ym 1998 i ddechrau ac yna yn Eisteddfod M么n, Llanelli a Thyddewi. 聽Llythyru papurau bro, cymdeithasau o bob math, clybiau cinio a chorau. Derbyn rhoddion gan unigolion ledled Cymru. 聽Trosglwyddo’r symiau arian gan gynnwys pob ffi am annerch hwnt ac yma i ofal pobl gyfrifol yn Esquel. Digon o bres i osod y sylfaen i ddechrau, gefngefn 芒’r capel, 聽ac ymlaen nes bod digon i godi Canolfan braf a hynny gyda chydweithrediad y bobl draw heb anghofio’r gefnogaeth a gafwyd gan lywodraeth y Dalaith.

Llwyddwyd i agor y Ganolfan ym mis Mawrth 2002 ac erbyn hyn mae wedi agor ei drysau i gannoedd o ymwelwyr o Gymru ac wedi paratoi gwledd o fwyd ar eu cyfer. Ond nid croesawu ymwelwyr yn unig yw amcan y Ganolfan. Mae’r adeilad ar agor yn ddyddiol er mwyn cynnal dosbarthiadau Cymraeg i siaradwyr a dysgwyr o bob oed a chefndir. Ceir cegin fach yno lle bydd y tegell bob amser yn mudferwi ar gyfer cymryd tot o FATE! 聽聽Yn y Ganolfan mae’r llyfrgell a’r ffilmgell. Dyma lle bydd y plant yn eistedd wrth draed eu hathrawon a’r bobl ifainc, trwy weithgareddau Menter Patagonia, yn cynnal twmpath ac yn cael hwyl ar actio a choginio.
Dim rhagor o orfod llogi ystafell yma ac acw a neb yn gwybod yn union beth oedd yn digwydd.
Dim o’r fath oherwydd mae gan Gymry Esquel, bellach, eu haelwyd eu hunain.

脗’r adeilad bron 芒 bod yn 14 oed mae galw am estyniad. 聽Mae galw am ddwy ystafell ddosbarth, am swyddfa fechan, am ‘departamento’ ar gyfer yr athrawon a ddaw o Gymru ac i’r gwirfoddolwyr fydd yn cynnig eu gwasanaeth yn eu tro. Mae’r estyniad newydd ar ei hanner a does fawr o obaith cwblhau’r gwaith heb gymorth ariannol o Gymru. 聽Derbyniwyd swm o arian tuag at y prosiect gan lywodraeth y Dalaith, ond mae hwn eisoes wedi’i wario! 聽Disgynnodd y ‘peso’ yn ei werth ac mae costau byw ar 么l i’r llywodraeth newydd ddod i fod wedi mwy na dyblu.

Dyma fi, felly, unwaith eto yn cymryd y cyfrifoldeb o ofyn am gyfraniadau gan sefydliadau a chymdeithasau ac unigolion. 聽Gwn fod galwadau lu arnom yng Nghymru y dyddiau hyn, ond os oes rhywun yn teimlo ar ei galon y gall gyfrannu swm o arian, boed fach neu fawr, a fyddwch mor garedig, os gwelwch yn dda, 芒 chysylltu 芒 mi. 聽Mae cyfrif yn dal i fod ym Manc Lloyds, Rhydaman yn dwyn yr enw ‘CANOLFAN GYMRAEG YR ANDES.’

Yr eiddoch yn gywir,
Hazel Charles Evans,
Llais yr Andes,
Llandyb茂e,
Rhydaman SA18 2TH