Casgliad o 30 o ganeuon protest Cymraeg

Mewn unrhyw gymdeithas wâr, mae lle i brotest ac i ymgyrchu, ac i gicio yn erbyn y tresi. Arwydd o iechyd unrhyw ddiwylliant yw bod y caneuon a genir hefyd yn mynegi’r brotest honno o bryd i’w gilydd. Cyhoeddir y casgliad hwn o 30 ganeuon protest Cymraeg i gyd-fynd â’r gyfres o raglenni ar thema protest a ddangoswyd gan S4C yn ystod mis Ebrill 2013.Caneuon Protest CD

Bydd 30 o ganeuon protest Cymraeg amrywiol ar gael ar CD ddwbwl yn awr. Llynedd, dathlodd Cymdeithas yr Iaith ei hannercanmlwyddiant, ac eleni cofiwyd am y gweithredu a fu yn erbyn boddi Cwm Tryweryn. Dros y cyfnod hwn, mae cantorion Cymru wedi mynegi eu protest a’u dyheadau ar gân, a chasglwyd y goreuon ynghyd ar ddwy CD. “Mae protest wleidyddol yn rhan annatod o ddeunydd caneuon unrhyw ddiwylliant iach” meddai Dafydd Iwan ar ran cwmni Sain” ac y mae’n dda fod gennym ni yng Nghymru draddodiad mor gryf yn hyn o beth, a bydd y casgliad hwn yn gofnod gwych o ddyheadau ieuenctid Cymru yn ystod y cyfnod cyffrous hwn yn hanes ein cenedl.”

Mae caneuon wedi cael eu defnyddio i fynegi teimladau cryfion ers canrifoedd, ac y mae sawl enghraifft o “ganu protest” yn ein traddodiad o ganu baledi yng Nghymru. Sefydlwyd label Sain yn ystod un o gyfnodau mwyaf cythryblus yr ymgyrchu dros yr iaith Gymraeg, a hawliau Cymru fel cenedl, a naturiol felly oedd i hynny gael ei amlygu mewn nifer o’r caneuon a recordiwyd. Parhaodd y thema o ganu “protest”, ac o fynegi dyheadau a theimladau cryf, hyd heddiw, er ei bod yn amrywio mewn natur o gyfnod i gyfnod.

Dengys y casgliad hwn nid yn unig fel y mae pwnc y brotest yn amrywio, ond hefyd fel yr ehangodd y cynfas fel petai, gan ddwyn i mewn gyfeiriadau at sefyllfa De Affrig, a phobol dduon Gogledd America. Ond prif bwnc y brotest gan amla, beth bynnag fo arddull y miwsig, yw brwydr yr iaith, hawliau’r gweithiwr a’r frwydr dros diriogaeth Cymru, yn enwedig yng nghyd-destun boddi Tryweryn.   Darlledodd S4C wythnos o raglenni ar thema protest ddechrau Ebrill, felly penderfynwyd ryddhau casgliad o ganeuon i gyd-fynd â’r rhaglenni hynny gan Sain. Caneuon sy’n dangos emosiynau cadarn yr artistiaid a’u teimladau cryfion tuag at pa bynnag brotest y cenir amdani. Clywn ganeuon gan Geraint Jarman, Dafydd Iwan, Anhrefn, Meic Stevens a llawer mwy.

Rhestr Traciau – Y CYRFF: Cymru, Lloegr a Llanrwst; DAFYDD IWAN: Ciosg Talysarn; CHWYLDRO: Rhaid yw eu tynnu i lawr; LLYGOD FFYRNIG: NCB; OMEGA: Adferwch y Cymoedd; EDWARD H.: TĹ· haf; GERAINT JARMAN: Cenhadon Casineb;GERAINT LOVGREEN: Nid eu hanes nhw yw fy stori I; HERGEST: Dewch i’r Llysoedd; HUW CHISWELL: Etifeddiaeth ar werth; MAFFIA MR. HUWS: Dan ni’m yn rhan; MEIC STEVENS: Tryweryn; MYNEDIAD AM DDIM: Llwch y glo;PLETHYN: Tân yn LlĹ·n; SOBIN A’R SMAELIAID:  Ta-ta Botha; STEVE EAVES: Affrikaaners y Gymru Newydd; TEBOT PIWS: D’yn ni ddim yn mynd i Birmingham; TRWYNAU COCH: Niggers Cymraeg; ENDAF EMLYN: Arwyr estron;TECWYN IFAN: Gwrthod bod yn blant bach da; DAFYDD IWAN: Peintio’r byd yn wyrdd; ANWELEDIG: Hunaniaeth;HEN WLAD FY MAMAU: Nid Cymru fydd Cymru; ETO: Sut fedrwch chi anghofio; MIM TWM LLAI: Pam fod eira yn wyn?; NĂ‚R: Cymro; SIBRYDION: Madame Gullotine; IRIS WILLIAMS: I gael Cymru’n Gymru Rydd; HUW JONES: Dŵr; MONIARS: Mae’n wlad i mi.