Archifau Categori: Datganiadau

Galw ar bobl ifanc i rannu’r #PethauBychain

Llywodraeth Cymru yn galw ar bobl ifanc i rannu’r #PethauBychain maen nhw yn ei wneud yn Gymraeg

Jade Thomas-Rowlands PenybontYm mis Awst lansiwyd ymgyrch newydd gan Llywodraeth Cymru o’r enw #PethauBychain neu #LittleThingsinWelsh, er mwyn annog pobl o bob oed ar draws Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol, neu i gymryd camau i ddysgu Cymraeg. I gyd-fynd â digwyddiadau Sgiliau Cymru sy’n cael eu cynnal ym mis Hydref, mae’r ymgyrch yn targedu pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed, ac yn eu hannog i rannu fideo neu luniau o’r pethau bychain maen nhw yn eu gwneud yn Gymraeg.

P’un ai ei fod yn rywbeth syml fel anfon neges destun, dewis gwasanaeth Cymraeg yn y banc, neu wrando ar gerddoriaeth Cymraeg, nod yr ymgyrch yw i annog pobl ifanc i roi cynnig arni, yna rhannu’r pethau bychain maen nhw’n gwneud yn Gymraeg, ar Facebook neu Trydar drwy ddefnyddio hashtag #PethauBychain neu #LittleThingsinWelsh a thrwy wneud hyn cael cyfle i ennill iphone6.

Mae’r ymgyrch wedi ei deilwra i ddangos pa mor hawdd ydy defnyddio’r Gymraeg wrth eu bywyd bob dydd . Drwy ei ddefnyddio’n gyson, ymhen tipyn fe ddaw yn rhan naturiol o’u bywyd.

Dywedodd Carwyn Jones, Y Prif Weinidog: “Syniad yr ymgyrch yw i annog pawb yng Nghymru i ystyried defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau, byw, dysgu a mwynhau. Mae cymaint o gyfleoedd o ddydd i ddydd i ddefnyddio’r Gymraeg fel bod angen i ni annog pobl i’w defnyddio. Gall fod yn rhywbeth mor syml â gwylio rhaglen deledu Gymraeg gyda isdeitlau, mynychu digwyddiadau cyfrwng Cymraeg trwy eu Menter Iaith lleol, neu annog eraill i ddysgu Cymraeg.

“Mae’r cysyniad yn hollol syml a rydym wir yn gobeithio y bydd pobl ifanc ar hyd a lled Cymru yn ystyried bod yn rhan o’r ymgyrch.”

Caiff y gystadleuaeth ei lansio ar ddydd Iau y 9fed o Hydref, gan redeg hyd y 30ain o Dachwedd. Rydym eisiau i bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed i gymryd llun neu greu ffilm fer o’r #pethaubychain maent yn eu gwneud yn y Gymraeg a’i rannu ar Facebook neu Trydar gan ddefnyddio’r ‘hashtag’. Bydd yr ymgeisydd gorau yn cael ei ddethol i ennill iphone 6 newydd sbon. Fel rhan o’r ymgyrch hir dymor hwn, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu dulliau newydd i hyrwyddo gwell defnydd o’r Gymraeg, yn seiliedig ar dechnegau newid ymddygiad.

Am ragor o wybodaeth hoffwch y dudalen Cymraeg ar Facebook a dilynwch @iaithfyw ar Trydar.

POB LWC

Pen-blwydd Hapus 40 Pobol y Cwm

 

pobol y cwmMae’n anodd cofio bywyd yng Nghymru heb yr opera sebon eiconig, Pobol y Cwm, ac eleni mae’n 40 oed!  Nos Fercher, 16 Hydref, 1974 am 7.10 yr hwyr darlledwyd rhaglen gynta’r gyfres ac mae’n rhyfeddod ei bod yn dal i’n diddanu yn 2014.  I gyd-fynd â dathlu’r deugain, cyhoeddwyd llyfr arbennig gan Wasg Gomer, Pobol y Cwm Pen-blwydd Hapus 40, gan Lowri Haf Cooke, un o ffans mawr y gyfres.

 

Meddai Lowri

“ Pan o’n i’n i tua wyth oed, byddai fy chwiorydd iau a minnau’n mynd i’r gwely’n eitha cynnar, ond byddai Mam yn galw’n dawel arna i i ddod nôl lawr llawr i wylio Pobol y Cwm… Bu clecs a helyntion cythryblus trigolion Cwmderi yn gefndir i fy ieuenctid ac mae sgandalu’r Cwm wedi fy syfrdanu dros y degawdau, a dyna sy’n dal i fy nenu i wylio hyd heddiw.  Dathliad o’r gyfres fel y mae hi heddiw yw’r gyfrol, a’r cymeriadau presennol yn borth i lwybrau’r cof.”

 

Bu’r ffotograffydd Emyr Young, yn ogystal â Lowri, yn ymweld â chriw Pobol y Cwm yn y stiwdio ym Mhorth Teigr, Bae Caerdydd dros rai misoedd er mwyn hel y wybodaeth a’r lluniau niferus a ffrwyth y cyfan yw’r llyfr deniadol a difyr Pobol y Cwm Pen-blwydd Hapus 40. Cawn gwrdd â thrigolion presennol Cwmderi a’r actorion sy’n eu portreadu nhw, yn ogystal â chwrdd â rhai o gymeriadau mwyaf cyfarwydd a phoblogaidd y Cwm dros y degawdau.

 

Mae gan bawb eu hatgofion am helyntion a chymeriadau’r Cwm, yn cynnwys actorion presennol y gyfres.  Meddai Llinor ap Gwynedd (Gwyneth) “O’dd y criw ffrindie coleg i gyd yn gwylio hi yn y lolfa – o’n i’n dwlu ar gymeriad Llew.” Yn ôl Mark Flanagan (Jinx) “ O’n ni fel teulu’n gwylio’r gyfres o hyd, bob nos; roedd o’n rhan o’n routine ni.  O’n i’n licio Mark.” 

 

Pennaeth drama’r BBC ddeugain mlynedd nôl, John Hefin, a’r dramodydd Gwenlyn Parry gafodd y syniad gwych i fynd ati i lunio opera sebon Gymraeg.  Meddai Gareth Lewis (Meic Pierce) “Dw i’n meddwl bod y gyfres wedi uno’r genedl mewn llawer ffordd: yn ieithyddol yn un peth, nid yn unig y Cymry Cymraeg ond y di-Gymraeg, a’r rhai sy’n dysgu’r iaith.  Yn ôl Emyr Wyn (Dai) “ Mae’n feicrocosm o Gymru…Y’n ni i gyd yn dod â gwahanol bethe mewn i’r gyfres, ac ma popeth yn mynd i’r pair.  A dyna pam ma’r gyfres wedi bod mor boblogaidd.  Dyw pobl bellach, ar wahân i ambell adolygydd, ddim yn becso faint o gogs sy ‘na neu acenion o bobman yn ne Cymru.  Dyw e ddim yn bwysig.”  Mae Jeremi Cockram (Siôn) yn credu bod y gyfres yn chwarae rhan bwysig yn niwylliant Cymru.  Meddai “Alla i ddim meddwl am unrhyw beth arall, heblaw canu’r anthem cyn gêm ryngwladol yn Stadiwm y Mileniwm falle, sy’n ein huno ni fel cenedl – siaradwyr y ddwy iaith – ac sy’n neud i bobl deimlo’n fwy Cymreig. Yn ôl Jonathan Nefydd (Colin) “ Ma Pobol y Cwm yn sefydliad – ma fe’n rhan annatod o’n DNA ni fel Cymry.”

 

Nid lleisiau a lluniau’r actorion yn unig sydd yn y llyfr oherwydd cawn gip ar waith Babs Roberts ac Eirioes Elfyn yn yr adran goluro a’u sylwadau am y cymeriadau. Wrth son am Maria Pride (Debbie) meddai Babs “ Ma’r colur a’r dillad a’r bling yn cyfleu pa fath o hwylie sy arni.  Os gweli di lai ohono, ti’n gwbod bod hi’n eitha isel, ac os gweli di lot ohono, ma hi’n teimlo on top form. Yn yr adran wisgoedd mae pob dilledyn, pob darn o emwaith, pob het, esgid, cot, sgarff a maneg yn cael eu cadw.  Mae’r tîm yn trafod delwedd pob cymeriad newydd ac unrhyw newidiadau i’r cymeriadau eraill gyda’r cynhyrchydd cyn dechrau cynllunio gwisgoedd ar eu cyfer. Meddai Bethan Charles, yr uwch-arolygydd gwisgoedd “Mae’r actorion yn mynd yn hoff o’u gwisgoedd yn aml iawn, ac maen nhw’n ofergoelus, felly os oes rhywbeth yn digwydd i’r dilledyn, maen nhw’n gallu ypsetio. Mae lot fawr o wisgoedd gan rai ohonyn nhw…wedes i wrth Emily Tucker (Sioned) fod ei wardrob hi’n llenwi hanner hyd y storfa!”

 

“Mewn opera sebon mae angen ychydig o dywyllwch ac eitha lot o ysgafnder….ma’n rhaid bod yn ofalus iawn wrth droedio’r ffin rhwng y ddau beth” yn ôl Richard Lynch (Garry).  I gadw’r gyfres yn gyfoes a pherthnasol ymdrinnir â nifer o bynciau anodd bywyd, profiadau y gall gwylwyr uniaethu â nhw. Priodasau’n chwalu a phroblemau teuluol, marwolaeth yn y crud, alcoholiaeth, llofruddiaeth, rhywioldeb, salwch fel canser neu OCD – dyna rai yn unig i chi.  Nid yw’r gyfres yn ofn mentro ac meddai Terry Dyddgen Jones “Fel cynhyrchydd ar y pryd, ro’n i’n eithriadol o falch o gyflwyno stori canser y ceilliau Hywel, a’r modd y deliwyd â hynny.  Roedd hyn cyn i unrhyw un arall wneud y stori mewn opera sebon, ac ro’n i’n hapus â’r ffordd ymatebodd Andrew Teilo i ddatblygiad y stori, a Hywel fel tase fe’n cuddio rhywbeth oddi wrth Cassie a’r gynulleidfa.”

 

O ddyddiau Magi Post, Harri Parri a chartref Brynawelon i Reg a Megan a helyntion tafarn y Deri at drafferthion y Joneses a’r Monks a fferm Penrhewl – dyma daith deugain mlynedd ac mae’r daith yn parhau.  Cyn dyddiau S4C, sicrhaodd Pobol y Cwm ei le fel conglfaen gwylio’r Cymry gan ddenu miloedd o wylwyr bob nos.  Mae’n drysor cenedlaethol felly dathlwch y pen-blwydd gyda’r llyfr!

Cyrsiau Newydd ar y We

Annwyl Ddarllenydd,

 

Dyma dynnu eich sylw at gynllun newydd sydd o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a allai fod o ddiddordeb ichi.

Mae Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor wedi dod at ei gilydd i greu cyrsiau newydd ar y we trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob math o feysydd—o Hanes i Seicoleg, o Athroniaeth i Ffotograffiaeth, o Sgiliau Iaith i Gerddoriaeth. I weld y dewis eang o gyrsiau sydd eisoes ar gael ewch ar y we: www.colegcymraeg.ac.uk/dysguobell

Mae’r cyrsiau hyn i gyd ar gael i bawb dros 17 oed,  a does dim rhaid bod ar y campws i’w hastudio oherwydd bod y cyrsiau hyn i gyd ar y we. 

 

Os ydych chi am ddatblygu sgiliau yn y gweithle neu ddilyn pwnc sydd o ddiddordeb ichi mae hwn yn gyfle ardderchog. 

 

Fel arfer, mae pob cwrs yn costio £120 yr un, ond mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn barod i gynnig lle yn rhad ac am ddim i’r 20 unigolyn cyntaf sy’n cofrestru am bedwar cwrs (gwerth £480).

 Y cyntaf i’r felin gaiff falu. 

 

Ewch i wefan y Coleg (www.colegcymraeg.ac.uk/dysguobell) i gael ffurflen gofrestru a danfonwch hi cyn gynted ag y bo modd.  Y dyddiad cau yw 12 Ionawr 2015.

I gael rhagor o fanylion neu i drafod hyn ymhellach mae croeso ichi gysylltu â mi ar y ffôn neu drwy e-bost (01970 62 8474 / owt3@aber.ac.uk).

 

Yn gywir,

 

Dr Owen Thomas

(Cyfarwyddwr y Cynllun Astudiaethau Cyfrwng Cymraeg Rhan-amser)

 

ENLLI YN CIPIO YSGOLORIAETH YR URDD BRYN TERFEL 2014

ENLLI YN CIPIO YSGOLORIAETH YR URDD BRYN TERFEL 2014

 Nos Sul, Hydref 12, 2014 fe gipiodd y ddawnswraig Enlli Parri o Gaerdydd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2014 mewn noson wefreiddiol a gynhaliwyd yn Neuadd Fawr, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth. Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth, gwerth £4,000 i Enlli yn y noson oedd yn fyw ar S4C ac yn benllanw ar weithgareddau’r Eisteddfod eleni.2014 Enlli Parri

 

Daeth Enlli, sydd yn wreiddiol o Gaerdydd ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Plasmawr i’r brig wedi ei pherfformiad gwefreiddiol o flaen y pump beirniad – Cefin Roberts, Eirlys Britton, Eirian Owen, Dafydd Huw a Gwyn L. Jones. Roedd rhaglen Enlli yn cynnwys dawns draddodiadol Gymreig a dawns gyfoes wreiddiol.   Fel rhan o weithgareddau paratoi ar gyfer yr Ysgoloriaeth cafodd ddosbarth meistr gan Cerian Phillips, sydd ei hun wedi cystadlu am yr Ysgoloriaeth yn y gorffennol.

 

Mae Enlli bellach yn byw yn Llundain a newydd gychwyn cwrs BMus yn y Guildhall yn Llundain.

 

Meddai Enlli, “Ges i gymaint o sioc pan wnaethon nhw gyhoeddi fy enw i – o’n i ffili credu’r peth!   Dwi wedi bod yn paratoi ar gyfer yr Ysgoloriaeth ers peth amser, a hoffwn ddiolch i Gapel Minnie Street am gael defnyddio eu festri er mwyn cael digon o ofod i ymarfer!

“Rydw i am ddefnyddio yr arian i ddatblygu fy sgiliau fel cerddor gan fy mod newydd gychwyn cwrs yn Llundain yn astudio’r ffliwt. Byddaf yn parhau i ddawnsio, ond mae hynny yn bennaf fel pleser!”

Yn ôl Cefin Roberts, un o’r beirniaid, “Mi oeddem ni fel panel yn hapus iawn gyda’r chwech berfformiodd heno, ac roedd y safon yn uchel iawn. Mi fu cryn drafod, ac roedd yn agos iawn, ond roedd pawb yn gytûn yn y diwedd mai Enlli oedd yn haeddu ennill.

“Rhoddodd perfformiad arbennig iawn gan gyfathrebu yn wych gyda’r gynulleidfa o ystyried ei bod mor ifanc. Roedd i weld wedi ymlacio wrth berfformio ac yn mwynhau ei hun. Ei chryfder mwyaf oedd fod ganddi amryw o sgiliau ond yn gallu cyrraedd a chyffwrdd pawb yn y gynulleidfa i’r sedd gefn un.”

Cynorthwyo Myfyrwyr i Gwblhau Graddau Doethur Cyfrwng Cymraeg

Lana Evans

Mae wyth myfyriwr newydd gychwyn astudio gradd doethur trwy gyfrwng y Gymraeg mewn prifysgolion ar draws Cymru, a hynny o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae tair ysgoloriaeth wedi’u dyfarnu i Brifysgol Caerdydd eleni a bydd Rhidian Thomas, Ben Screen a Sara Orwig yn parhau i astudio yn y brifddinas ar ôl cwblhau graddau israddedig yno.

Bydd Rhidian Thomas o Landysul yn canolbwyntio ar effaith newid hinsawdd ar y berthynas rhwng pysgod brodorol Cymru a rhywogaethau ymledol yn Ysgol Biowyddorau’r Brifysgol.

 

Cyfieithu awtomatig a thechnoleg iaith fydd pwnc Ben Screen o Flaenau Gwent a’i obaith fydd cyfrannu at y diffyg corff o waith ymchwil ar gyfieithu awtomatig a’r iaith Gymraeg, a chwestiynu i ba raddau mae cyfieithu awtomatig yn haws ac yn fwy cyflym.

 

Cyfnewid côd mewn llenyddiaeth Gymraeg, a goblygiadau hynny o safbwynt astudio hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol, fydd testun Sara Orwig o Fangor. Bydd Sara yn astudio ei doethuriaeth o dan oruchwyliaeth Yr Athro Sioned Davies a’r Athro Diarmait Mac Giolla Chríost o Ysgol Y Gymraeg.

 

Un arall sydd wedi derbyn nawdd i ddilyn gradd doethur yn y Gymraeg yw Miriam Elin Jones o Lanpumsaint. Testun ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth fydd ‘Ymchwil i Gymru Fydd: Y Dyfodol, y Gofod ac Angenfilod mewn Rhyddiaith Gymraeg.’

 

 

 

 

Bydd Elin Harding Williams o Gaernarfon yn cynnal gwaith ymchwil i Anhwylder Sbectrwm Awtistig trwy’r Gymraeg yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor. Nod Elin yw codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr a chyfrannu at y wybodaeth sydd ar gael i’r rhai hynny sy’n byw gyda’r cyflwr o ddydd i ddydd.

 

Bwriad Lana Evans yw astudio’r cyfleoedd sydd ar gael i blant gymryd rhan mewn chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Er iddi dderbyn ei haddysg uwchradd trwy’r Gymraeg yn Ysgol Bro Morgannwg, cafodd Lana ei magu ar aelwyd Saesneg felly mae’n benderfynol o ehangu ar y cyfleoedd i blant fedru ymarfer eu Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Yn olaf, dyfarnwyd dwy ysgoloriaeth hefyd eleni i Brifysgol Abertawe, a hynny ym meysydd Hanes a Meddygaeth.

Cyfryngau Cymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf fydd pwnc Meilyr Rhys Powel o Dreforys. Bydd yn ceisio dadansoddi sut y gwnaeth y cyfryngau yng Nghymru gyflwyno’r Rhyfel Byd Cyntaf i’r cyhoedd ac i ba raddau y gwnaethant ddylanwadu ar feddwl y Cymry.

Y diciáu a’r modd mae’n lledaenu fydd yn mynd â sylw Rhys Crompton Jones o Lanelli. Mae Rhys yn edrych ymlaen at gyfrannu at waith ymchwil yn y maes ac yn gobeithio dilyn gyrfa academaidd ar ôl cyflwyno’i ddoethuriaeth.

Yn ôl Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

‘‘Hoffwn ddymuno’r gorau i ddeiliaid ysgoloriaeth ymchwil y Coleg Cymraeg gyda’u gwaith dros y tair blynedd nesaf. Gobeithio y byddant yn cael budd o’r hyfforddiant mewn sgiliau ymchwil a ddaw fel rhan o’r nawdd ac y gwnawn nhw fanteisio ar gyfleoedd i fagu profiad addysgu trwy gyfrannu at fodiwlau israddedig yn eu sefydliadau trwy gyfrwng y Gymraeg.’’

Cyrsiau i Oedolion Menter Caerdydd

Cyrsiau Oedolion Menter Caerdydd – Tymor yr Hydref

Mae cyrsiau Oedolion Menter Caerdydd yn ail-gychwyn mis Medi, ac mae amryw o bethau i’ch diddori chi, o ddysgu chwarae ukulele, dysgu mwy am hanes Caerdydd, dysgu Sbaeneg, Yoga a llawer mwy. http://www.mentercaerdydd.org

Cwrs Codi Pwysau gyda Lloyd Martyn-Long – http://bit.ly/codi-pwysau

7-8yh, Iechyd Da, Nos Fawrth, Medi 16 am 12 Wythnos, £54 –

Yoga gyda Mari Rhys – http://bit.ly/gwersi-yoga 

7-8yh, Ysgol Melin Gruffydd, Nos Fawrth, Medi 16 am 12 wythnos, £54

Bŵtcamp gyda Mered Pryce – http://bit.ly/bŵtcamp

6-7yh, Iechyd Da, Nos Iau, Medi 18 am 12 Wythnos, £54

Yoga Hamddenol gyda Mari Rhys – http://bit.ly/Yoga-Hamddenol

10yb-11yb, Chapter, Treganna, Dydd Llun, Medi 22 am 10 wythnos, £45

Sbaeneg i Ddechreuwyr gyda Sioned Lewis – http://bit.ly/Sbaeneg

6.30yh-8.30yh, Chapter, Treganna, Nos lun, Medi 22 am 10 wythnos, £80

Zwmba gyda Mari-Wyn Elias Jones – http://bit.ly/zwmba

7yh-8yh, Ysgol Plasmawr, Nos Fercher, Medi 24 am 10 wythnos, £45

Gwnïo i Ddechreuwyr gyda Siwan Hill – http://bit.ly/gwnio

7yh-9yh, Ysgol Plasmawr, Nos Fercher, Medi 24 am 10 wythnos, £80

Ukulele i Ddechreuwyr gyda Mei Gwynedd – http://bit.ly/ukulele-i-ddechreuwyr

7yh-9yh, Ysgol Plasmawr, Nos Fercher, Medi 24 am 10 wythnos, £80

Cwrs Graffeg gyda Theresa Edwards – http://bit.ly/graffeg

7yh-9yh, Ysgol Plasmawr, Nos Fercher, Medi 24 am 10 wythnos, £80

Hanes Caerdydd gyda Dylan Foster Evans – http://bit.ly/hanes-caerdydd

7yh-9yh, Ysgol Plasmawr, Nos Fercher, Medi 24 am 10 wythnos, (pob yn ail wythnos) £80

Cynganeddu i Ddechreuwyr gydag Emyr Davies – http://bit.ly/Cynganeddu-dechreuwyr

7yh-9yh, Pob yn ail Nos Fawrth, Hydref 14 am 10 wythnos, £80

Cynganeddu: Ymarfer y Grefft gyda Rhys Iorwerth ag Osian Rhys Jones – http://bit.ly/Cynganeddu-Ymarfer

7yh-9yh, Pob yn ail Nos Fawrth, Hydref 14 am 10 wythnos, £80

Addurno Cacennau gyda Jan Roche – http://bit.ly/addurno-cacennau

7yh-9yh, Ysgol Plasmawr, Nos Fercher, Tachwedd 5 am 5 wythnos £60

I gofrestru ewch i www.mentercaerdydd.org neu cysylltwch â ni: sarajones@mentercaerdydd.org / 02920 689888

Mae modd talu am y cyrsiau ar-lein, drwy anfon siec neu dros y ffôn gyda cherdyn.

*Mae’r cyrsiau’n hanner pris i fyfyrwyr* 

 

Morfydd Llwyn-Owen o Drefforest

Morfydd fel yr Haul…felyrhaulimage002

Y gyfansoddwraig a’r gantores ddawnus Morfydd Llwyn-Owen yw’r ysbrydoliaeth am nofel hanesyddol newydd Eigra Lewis Roberts.

Mae’r nofel yn portreadu chwe blynedd olaf bywyd y gyfansoddwraig ddisglair Morfydd Llwyn-Owen. Ganed Morfydd yn Nhrefforest yn yr hen sir Forgannwg yn 1891, ac yn un ar hugain oed aeth i astudio cerddoriaeth yn yr Academi Frenhinol yn Llundain. Roedd hefyd yn gantores arbennig, a pherfformiodd ei chaneuon ei hun ar lwyfan yn broffesiynol am y tro cyntaf yn 1917.

Yn y gyfrol fywiog, ddisglair hon, cawn weld dehongliad celfydd Eigra Lewis Roberts o fywyd, gwaith a pherthynas Morfydd â’i theulu a’i chyfeillion.

Daw bywyd ganrif yn ôl yn fyw i ni, a chysgod y Rhyfel Mawr yn gefnlen dywyll i holl ddigwyddiadau’r nofel.

Bu farw Morfydd yn drasig o ifanc, ond darlun ohoni’n fenyw ifanc benderfynol a’i phersonoliaeth gref a welwn ni yma. Fe garodd lawer ac fe ddigiodd lawer, ond roedd hi’n llawn bywyd ac egni ar hyd ei hoes, a hawdd gweld sut y swynodd hi gynifer o bobl yn ystod ei hoes fer.

Meddai Eigra “Mae dros dair blynedd bellach er pan benderfynais i nad oedd troi’n ôl i fod nes i mi ddod i wybod rhagor am Morfydd Owen. Canlyniad hynny oedd darllen popeth oedd ar gael amdani hi a’r rhai oedd yn rhan o’i byd, yn arbennig yn y cyfnod rhwng 1912 ac 1918.

“Fe wyddwn o’r dechrau mai nofel oedd hon i fod, nid bywgraffiad na chofiant. Roedd yn bwysig ceisio cael y ffeithiau’n gywir, wrth gwrs, ond unwaith y byddai rheiny gen i ro’n i’n rhydd i ddefnyddio’r dychymyg.”

“Fel hyn y gwelais i Morfydd, yn dlws, yn llawn bywyd, a’r tu hwnt o alluog;

merch ifanc yn ceisio cyfuno dau fyd – y byw teuluol, capelog, cul yn Nhrefforest a’r profiadau a ddaeth i’w rhan yn ystod ei chyfnod tyngedfennol yn Llundain, profiadau yr oedd hi’n barod iawn i’w croesawu ond a oedd, hefyd, yn achosi poen a phryder iddi ar adegau.  Fy ngobaith mwyaf ydy fy mod i wedi bod yn driw iddi a’i bod, fel yr haul, eto’n ennyn yr un mor danbaid o nen byd,” yn ôl Eigra.

Bydd Fel yr Haul gan Eigra Lewis Roberts ar gael yn eich siop lyfrau leol neu’n uniongyrchol oddi wrth y cyhoeddwr, Gwasg Gomer www.gomer.co.uk

 

Manylion llyfryddol

Fel yr Haul

Eigra Lewis Roberts

Cyhoeddir gan wasg Gomer

ISBN 9781848515529

£8.99, clawr meddal, 376 tudalen

Cyngerdd Cyhoeddi Gŵyl Cerdd Dant Porthcawl a’r Fro

2014m10gcdporthcawlCyngerdd Cyhoeddi Gŵyl Cerdd Dant Porthcawl a’r Fro

6 yr hwyr nos Iau Hydref yr 16eg, 2014

Eglwys yr Holl Saint, Porthcawl

£5 i Oedolion                                                         Plant am Ddim

Yr Ŵyl Gerdd Dant cenedlaethol yw gŵyl undydd mwyaf Cymru ac mae’n ddathliad o ddiwylliant Cymreig. Pob mis Tachwedd mae mwy na 1,200 o blant, pobl ifanc ac oedolion o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn cymryd rhan mewn cystadlaethau sy’n amrywio o ganu gwerin Cymreig, i gerdd dant, adrodd, unawdau offerynnol ac ensemblau i ddawnsio gwerin. Mae’r Ŵyl Gerdd Dant hefyd yn denu dros 2,500 o gefnogwyr, gyda tua 50% ohonynt yn aros ym mro’r Ŵyl dros y penwythnos. Bydd y digwyddiad yn dwyn ​​sylw sylweddol i’r ardal gan y bydd yn cael ei darlledu’n fyw ar y teledu ac ar y radio drwy gydol y dydd.

Mae rhaglen y gyngerdd cyhoeddi yn un amrywiol iawn gydag ysgolion Cyfrwng Cymraeg y fwrdeistref yn perfformio arlwy diddorol ar y cŷd â Chantorion Coeti a Dawnswyr Penyfai. Bydd Aelwyd yr Urdd Porthcawl hefyd yn perfformio ac yn datgan cywydd croeso y prifardd Mari George.

Bydd elw’r noson yn mynd tuag at ymgyrch codi arian Gwyl Cerdd Dant Porthcawl a’r Fro 2015.

Tocynnau ar gael o Siop yr Hen Bont ysgolion Cymraeg Bwrdeistref Sirol Penybont neu wrth y drws.

Damwain Ddinistriol Senghennydd

Gan mlynedd yn ôl, ym mis Hydref 1913, fe ysgydwyd Cwm yr Aber gan ffrwydrad anferth yng nglofa’r Universal a laddodd 440 o bobl, y ddamwain ddiwydiannol waethaf yn hanes gwledydd Prydain.20130715Senghennydd

Eleni, i nodi can mlynedd ers y danchwa a’r drychineb enbyd mae Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst yn cyhoeddi’r gyfrol arbennig, Senghennydd.

Mae ambell enw lle sy’n creu tawelwch dim ond wrth ei ynganu – un o’r rheiny yw Senghennydd ger Caerffili. Pan gollwyd cyfanswm o 440 o fywydau yn dilyn effeithiau’r danchwa, fyddai’r cwm byth yr un fath, gyda phob yn ail dŷ yn rhai o’r terasau wedi colli anwyliaid.

Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, gydag echelydd y ddaear yn troi ar ynni glo stêm, roedd galw mawr am yr ‘Aur Du’ oedd i’w gael mewn miliynau o dunelli yng nghymoedd de-ddwyrain Cymru.

Yn sgil y Chwyldro Diwydiannol, roedd damweiniau yn anochel yn y trachwant hwnnw am bŵer a chynnyrch ac elw ond er gwaetha’r amodau peryglus, roedd y glowyr yn fodlon mentro’u bywydau, gyda chyflogau deniadol yn eu denu yno o bob cwr o’r wlad. Ac yn sicr roedd y perchnogion a’r swyddogion yn fwy na pharod i fentro – mentro eu harian a mentro plygu’r rheolau diogelwch. Roedd yr amodau’n beryclach nag unlle arall ym mhwll yr Universal, Senghennydd a’r risgiau a gymerid yn uwch, ac o ganlyniad bu’r colledion yno’n llawer iawn gwaeth.

Yn y gyfrol hon, sydd wedi’i golygu gan Myrddin ap Dafydd, cawn hanes y ddwy danchwa enbyd ym 1901 a 1913 drwy gyfrwng toriadau o’r wasg Gymraeg ar y pryd a hefyd rhai trysorau ac atgofion a gadwyd mewn cartrefi hyd a lled Cymru.

Dywed Myrddin: “Yr hyn a ysgogodd y gyfrol oedd cael fy nghyflwyno gan John Roberts, Abertridwr i neges ar gerdyn post a bostiwyd o Senghennydd drannoeth y drychineb. Cerdyn post adref i Drawsfynydd oedd o, yn sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn enwi cryn hanner dwsin o ddynion eraill o Drawsfynydd oedd yn y lofa.”

Yn wir, nid colled un cwm oedd meirwon y ddamwain hon. O Fôn, o chwareli Arfon a Meirion, o dyddynnod a mwynfeydd Ceredigion ac o gymoedd y gorllewin, roedd cannoedd wedi heidio i’r cwm diwydiannol i geisio cyflogaeth dda. Bu galar a chwerwedd ym mhob cwr o Gymru a chan mlynedd yn ddiweddarach, mae teuluoedd wedi cadw’r cof yn fyw am y glowyr drwy gyfrwng hen lythyrau, hen luniau, penillion, atgofion a mân drugareddau.

Ychwanega Myrddin: “Roedd hon yn ergyd i Gymru gyfan – ac mae lluniau, straeon, rhigymau a chofnodion o bob math wedi’u cadw a’u trysori mewn teuluoedd ac yn gweld golau dydd am y tro cyntaf yn y gyfrol hon.

“Roeddwn yn synnu bod cymaint o ddeunydd ar gael yn y Gymraeg ym mhapurau newydd a chyfnodolion y cyfnod – ond wrth gwrs, digwyddodd y danchwa ar ddiwedd oes aur y byd print Cymraeg. Roedd yn hynod o gyffrous dod ar draws adroddiadau gan lygad-dystion i’r digwyddiadau yn dilyn y drychineb.”

Fe dynhawyd y rheolau diogelwch yn sgil y ddamwain ond bu’r achos llys yn erbyn y perchnogion yn ffars ac yn ergyd arall i’r holl deuluoedd yn eu galar a’u colled. Fel y disgwylir, roedd erthyglau pwerus i’w cael mewn papurau newydd adain chwith fel Tarian y Gweithiwr, ond yr hyn sy’n fwy arwyddocaol yw bod rhai o bapurau newydd mwyaf ceidwadol Cymru hefyd yn codi cwestiynau caled ac yn gandryll gyda’r ddirwy bitw gafodd perchnogion y lofa fel cosb.

Felly wrth i ni gofio canrif ers y drychineb, lle mae tanchwa Senghennydd yn ffitio o fewn ein hanes ni fel Cymry?

Dywed Myrddin: “Mae Senghennydd yn rhan o’n hanes ni i gyd; mae’n rhan o stori Cymru. Fel gyda Chilmeri, Tryweryn a Brad y Llyfrau Gleision, rhaid inni wybod stori Senghennydd er mwyn sylweddoli cymaint rydan ni wedi’i oroesi er mwyn wynebu’r dyfodol yn hyderus. Yn ogystal â’r colledion, mae’n rhaid cofio am y nifer a gafodd eu hachub. Roedd dewrder y timau achub yn eithriadol – glowyr o byllau cyfagos yn rhoi oriau ac oriau ar ben eu shifftiau. Mi achubwyd 18 o lowyr o’r Universal ar ôl iddyn nhw fod o dan ddaear am 22 awr. Mae’r gwrhydri hwnnw yn rhywbeth y gallwn i gyd fod yn falch iawn ohono.”

Llyfrau Llafar Gwlad: 83. Senghennydd

Gwasg Carreg Gwalch, £7.50, ISBN 9781845274290

Ar gael o’ch siop lyfrau leol neu www.gwales.com

Ymgyrch Atal Rhwystrau

Dwr Cymru40% yn llai o RWYSTRAU

Dŵr Cymru’n diolch i bawb am lwyddiant eu hymgyrch atal rhwystrau  

  • Gostyngiad o 40% yn nifer y rhwystrau yng ngharthffosydd Rhondda Cynon Taf a Chaerffili
  • Ymgyrch i godi ymwybyddiaeth yn helpu i leihau’r risg o lygredd, llifogydd mewn cartrefi a gofid mawr  
  • Dŵr Cymru yn diolch i bawb am gymryd rhan yn yr ymgyrch
  • ·         Cynlluniau i ddwysau’r ymgyrch dros y 12 mis nesaf er mwyn gwireddu newid tymor hir

Mae Dŵr  Cymru’n estyn ei ddiolch i drigolion Rhondda Cynon Taf a Chaerffili am chwarae eu rhan wrth sicrhau gostyngiad o 40% yn nifer y rhwystrau yng ngharthffosydd yr ardal.

Ym mis Ebrill, lansiodd y cwmni ymgyrch Stop cyn Creu Bloc flwyddyn o hyd yn y bwriad o ddangos i’w gwsmeriaid sut y gallant helpu i atal tagfeydd mewn carthffosydd rhag achosi llifogydd yn eu cartrefi ac yn eu cymunedau.

Mae’r ymgyrch gychwynnol, a oedd yn canolbwyntio ar ardaloedd RhCT a Chaerffili, wedi arwain at ostyngiad mawr yn nifer y rhwystrau y mae Dŵr Cymru wedi gorfod eu clirio dros y ddau fis diwethaf. Mae rhwystrau mewn carthffosydd yn costio dros £7miliwn y flwyddyn i’w clirio, ac maen nhw’n achosi gofid mawr, difrod i gartrefi a busnesau, ac maent yn gallu achosi llygredd ofnadwy yn ein hafonydd prydferth ac ar ein traethau, a difrodi’r amgylchedd ehangach yng Nghymru.

Roedd yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth yn cynnwys gweithdai addysgiadol mewn ysgolion ar draws y Cymoedd, pod harddwch teithiol, a thimau cynghori’n ymweld â gwerthwyr bwydydd parod a chartrefi. Cafodd y cyfan ei ategu gan ymgyrch amlgyfrwng a oedd yn cynnwys fideo, hysbysebion ar y radio, y teledu a’r cyfryngau cymdeithasol, a gwefan rhyngweithiol www.letsstoptheblock.com sy’n rhoi cyfle i blant ddysgu rhagor ac ennill gwerth £1500 o offer gwyddoniaeth ar gyfer ysgol o’u dewis.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru, Steve Wilson; “Rydyn ni wedi gweld canlyniadau gwych yn ystod dau fis cyntaf yr ymgyrch. Mae hi wedi bod yn ymdrech aruthrol o waith tîm gan bawb a fu wrthi, a hoffem ddiolch yn arbennig i bobl RhCT a Chaerffili am ein cynorthwyo ni yn hyn o beth. Mae atal rhwystrau yn y carthffosydd wedi golygu llai o achosion o lygredd, llai o lifogydd mewn cartrefi a llai o ofid i’r trigolion.

 

“Eitemau pob dydd fel clytiau bach, cadachau misglwyf, ffyn gwlân cotwm bychain ac edau dannedd sy’n achosi’r rhan fwyaf o’r rhwystrau rydyn ni’n dod ar eu traws, yn ogystal â braster, olew a saim y mae pobl wedi ei arllwys i lawr eu draeniau. Nid yw llawer o bobl yn gwybod bod y pethau hyn yn gallu peri i’r carthffosydd orlifo ac achosi llygredd yn eu cartrefi a’u cymunedau. Yn wir, mae hi’n anghyfreithlon taflu neu wagio unrhyw beth sy’n debygol o niweidio carthffos neu draen i’n rhwydwaith, neu darfu ar lif y carthffosydd.

“Mae llwyddiant yr ymgyrch hyd yn hyn yn dangos beth sy’n bosibl pan fo pawb yn chwarae eu rhan. Y sialens nawr yw adeiladu ar y dechrau da yma a sbarduno newid tymor hir yn ymddygiad ein cwsmeriaid o ran taflu pethau i lawr y tŷ bach a chael gwared ar fraster, olew a saim. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddwysáu ein hymgyrch codi ymwybyddiaeth a’i hehangu i ardaloedd eraill dros y 10 mis nesaf.”

Dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Alun Davies AC; “Hoffwn longyfarch Dŵr Cymru ar y dechrau bendigedig i’w hymgyrch a diolch i bobl Rhondda Cynon Taf a Chaerffili am helpu i gyflawni hyn. Mae llifogydd o garthffosydd sydd wedi tagu yn gallu cael effaith ddifrodus iawn ar ein cartrefi, ein strydoedd a’r amgylchedd ehangach. Mae Cymru’n ffodus fod ganddi rai o afonydd, traethau ac ardaloedd glan môr gorau’r byd, ac mae hyn yn dangos ein bod ni’n gallu helpu i leihau’r perygl o lygredd a llifogydd yn ein cymunedau pan fyddwn ni i gyd yn gwneud ein rhan i stopio’r bloc.”

 

Ychwanegodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadw Cymru’n Daclus ”Mae Cadw Cymru’n Daclus yn cefnogi’n llwyr ymgyrch Dŵr Cymru ac rydyn ni wrth ein bodd i glywed am lwyddiant cynnar yr ymgyrch Stop cyn Creu Bloc. Mae llawer o bethau bychain fel ffyn gwlân cotwm yn troi’n sbwriel ar ein traethau hardd ac mae braster neu olew sy’n cael ei arllwys i lawr y sinc yn gallu peri i garthffosiaeth gael ei ryddhau i’n moroedd. Mae hyn yn gallu difetha ymweliad braf â’n harfordir hyfryd. Rhowch nhw yn y bin, neu ailgylchwch nhw – peidiwch byth â’u fflysio!”