Archifau Categori: Datganiadau

THEATR BARA CAWS

THEATR BARA CAWS

yn cyflwyno

3 chynhyrchiad am Kate Roberts

yn EISTEDDFOD GENEDLAETHOL DINBYCH A’R CYLCH

   THEATR TWM O’R NANT, DINBYCH

o Nos Fawrth 6ed o Awst – Nos Wener 9fed o Awst   7.30 

‘CYFAILL’ – drama newydd sbon gan Francesca Rhydderch

Archwilia’r ddram deimladwy hon un o’r cyfnodau mwyaf cythryblus ym mywyd Kate Roberts, pan fu farw ei gwr, Morris, yn annhymig o alcoholiaeth. Gwelwn sut y mae ymddangosiad sydyn ymwelydd afieithus, bengaled ac ymhongar o Hwngari – Daisy Wagner – yn cymell Kate i’w chodi ei hun o ddyfnderoedd ei galar ac wynebu bywyd unwaith eto.  A tybed ai’r ferch ifanc hon oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer un o greadigaethau mwyaf lliwgar yr awdures – Winni Ffini Hadog?

a hefyd

‘TE YN Y GRUG’ – Addasiad newydd gan Manon Wyn Williams o un o hoff lyfrau ‘Brenhines ein Llên’.

Llwyfaniad syml, agos-atoch yn seiliedig ar y straeon sydd yn y nofel – straeon am dyfu i fyny, am golli diniweidrwydd, am blentyn yn ceisio deall cymhlethdod y byd a’i bobol, ac am dderbyn bod dadrithiad yn rhan o fywyd.  Mae’r llyfr yn fytholwyrdd ac yn rhan annatod o gwricwlwm addysg ein hysgolion.

Y cast: Carys Gwilym, Morfudd Hughes, Fflur Medi Owen, Rhodri Siôn, Manon Wilkinson

Cyfarwyddo:  Betsan Llwyd   Cynllunydd:  Emyr Morris-Jones

Gellir cael tocynnau cynyrchiadau ‘Cyfaill’ a ‘Te yn y Grug’ ar gyfer yr Eisteddfod drwy:

www.wegottickets.com/theatrbaracaws neu yn ogystal yn ystod wythnos yr Eisteddfod drwy ffonio: Mari: 07880031302

Dydd   Gwener 4 Hydref Sherman Cymru Cyfaill a   Te yn y Grug
Dydd   Sadwrn 5 Hydref Sherman Cymru Cyfaill a   Te yn y Grug

a hefyd

YN Y BABELL LEN – DDYDD SADWRN OLAF YR EISTEDDFOD – 10fed o Awst

John Ogwen a Maureen Rhys  yn ‘ANNWYL KATE, ANNWYL SAUNDERS’

Cipolwg ar gyfnod maith o lythyru rhwng dau o brif lenorion Cymru, yng nghwmni dau o fawrion y theatr yng Nghymru – fe gawn y dwys, y digri a’r deifiol.

BYDD ‘CYFAILL’ A ‘TE YN Y GRUG’ AR DAITH O AMGYLCH CYMRU –  9fed o Fedi – 5ed Hydref, 2013 – gweler gwefan Bara Caws: www/theatrbaracaws.com

‘Annwyl Kate, Annwyl Saunders’ ar daith o 20 Mehefin – 30 Hydref, 2013.

Gwenynwyr yn Dathlu 70

Eleni mae Cymdeithas Gwenynwyr Cymru yn dathlu ei phenblwydd yn 70 mlwydd oed. Sefydlwyd y gymdeithas , sydd yn elusen gofrestredig , yn 1943. Roedd cadw gwenyn yn cael ei ystyried fel rhan o ymdrech y rhyfel , fel ymgais i gefnogi cronfa fwyd wrth gefn. Ymddangosodd cychod o bob man yn cefnogi ceisiadau am ddognau siwgr ychwanegol a thrwyddedau pren. Roedd y ddau yn fanteision oedd ar gael i rai oedd yn cadw gwenyn. Nod y gymdeithas heddiw , fel erioed yw , i ddatblygu’r grefft o gadw gwenyn yng Nghymru.

Mae’n anodd peidio bod yn ymwybodol o’r problemau mae gwenyn yn wynebu heddiw.  Mae newidiadau i’n ffyrdd o fyw a ffermio , afiechydon sy’n taro gwenyn a’r tywydd drwg dros y blynyddoedd diwethaf i gyd wedi cael effaith andwyol ar eu niferoedd.  Ond mae rhywbeth gall pawb wneud – o gamau bach megis plannu planhigion sy’n denu a bwydo gwenyn mewn blwch silff ffenestr , at droi’r ardd i gyd yn warchodfa i wenyn.

Mae cadw gwenyn yn hobi sy’n gynyddol boblogaidd. Mae llawer o’r cymdeithasau lleol yng Nghymru yn cynnig gwersi i ddechreuwyr dros misoedd y gaeaf , gallwch drefnu amser gyda gwenynwr profiadol ac mae gan sawl gymdeithas wenynfa hyfforddi lle mae modd i rai sydd â diddordeb gael blas ar gadw gwenyn. Am fanylion pellach awgrymir i chi gysylltu â’ch cymdeithas leol gweler yr atodlen am restr o gysylltiadau yn eich ardal  neu gallwch gysylltu drwy fynd ar wefan Cymdeithas Gwenynwyr Cymru http://www.wbka.com/.

Blwyddyn Comisiynydd y Gymraeg

Annwyl Ddarllenwyr,

Ym mis Ebrill roedd hi’n flwyddyn ers i mi ddechrau yn fy rôl fel Comisiynydd y Gymraeg. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gysylltodd â mi yn ystod y flwyddyn. Trwy rannu eich profiadau, a thrwy gyflwyno cwynion am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg, ymateb i’r ymgynghoriad ar safonau, mynychu cyfarfodydd cyhoeddus ac ymweld â’n stondin yn sioeau’r haf, fe wnaethoch gyfraniad gwerthfawr i lwyddiant y gwaith a fy ngalluogi i a’m tîm o swyddogion i adnabod y materion sydd o bwys i siaradwyr Cymraeg ym mhob cwr o Gymru.

Dyma rai o uchafbwyntiau’r flwyddyn mewn ffigyrau:

  • Delio â 466 o achosion gan unigolion oedd yn teimlo bod ganddynt le i gwyno am wasanaeth Cymraeg
  • Croesawu dros 300 o bobl i’n cyfarfodydd cyhoeddus
  • Derbyn dros 260 o ymatebion i’r ymgynghoriad ar safonau mewn perthynas â’r Gymraeg
  • Dosbarthu dros 10,000 o fathodynnau ‘Iaith Gwaith’ sy’n dangos bod person yn siarad Cymraeg

Yn ein hail flwyddyn, byddwn yn adeiladu ar y gwaith hwn ac yn gweithredu i herio sefyllfaoedd lle caiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru.

Yr haf hwn bydd stondin y Comisiynydd yn ymweld ag Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro, y Sioe Fawr yn Llanelwedd a’r Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych. Os ydych yn mynychu’r sioeau hyn, dewch draw i’n gweld i drafod eich profiadau a chyflwyno eich cwynion, derbyn bathodyn Iaith Gwaith a thaflenni gwybodaeth am waith a rôl y Comisiynydd a hefyd er mwyn cael cyfle i dderbyn gwybodaeth a bwydo i mewn i’r ymholiad statudol arbennig yr ydym yn ei gynnal er mwyn edrych mewn manylder ar y defnydd o’r Gymraeg yn y sector iechyd.

Yn gywir

Meri Huws

Comisiynydd y Gymraeg

post@comisiynyddygymraeg.org

0845 6033 221