Archifau Categori: Newyddion

Yr Hen Lyfrgell – mis cyntaf prysur wedi’r agoriad mawreddog

Mae’n anodd credu bod dros fis ers penwythnos agoriadol canolfan Gymraeg newydd ein prifddinas. Wedi cynnal llu o weithgareddau a digwyddiadau, gwerthu degau o gardiau, gweini cannoedd o giniawau a thynnu miloedd o beintiau mae Yr Hen Lyfrgell yn parhau i groesawu pobl o bob oed i brofi’n iaith a’n diwylliant yng nghanol y ddinas.

yr hen lyfrgell

Gyda phencampwriaeth y Chwe Gwlad nawr ar ben mae’n braf gallu edrych yn ôl ar y naws cyffrous a gafodd ei greu yn y Caffi Bar Yr Hen Lyfrgell gyda llawer o’r diolch yn mynd i Gôr Meibion Bro Taf, Bechgyn Bro Taf a Chôr Canna am ein diddanu. Bydd yr un cyffro’n siŵr o ddychwelyd pan ddilynwn ymdrechion ein tîm pêl-droed cenedlaethol yn Ffrainc ym Mehefin.

Hyfryd hefydd oedd croesawu nifer o gymdeithasau a chwmnïau i’r ystafelloedd cynhadledd gan gynnwys Cwlwm Busnes Caerdydd, Cyfreithwyr Cymru, Llywodraeth Cymru, Mentrau Iaith Cymru a llawer mwy. Mae’n galonogol gweld cymaint o fusnesau yn heidio i’r ganolfan i drafod a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn llenwi’r hen adeilad eiconig hanesyddol yma.

Ond nid adeilad i gynadledda yw hi’n unig. Mae bwyd ein prif gogydd, Padrig Jones o Les Gallois gynt, wedi derbyn canmoliaeth fawr gyda lluniau llond plat o ginio dydd Sul yn dod yn boblogaidd tu hwnt ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fel menter hunan cynhaliol mae’r ganolfan yn dibynnu ar gefnogaeth hael ein cymdeithas Gymreig yng Nghaerdydd a thu hwnt ac mae diolch mawr iawn i’r rheiny sydd wedi cyfamodi’n Ffrindiau Yr Hen Lyfrgell dros y misoedd diwethaf. Mae wedi bod yn bleser gallu agor ein drysau a rhannu’n gweledigaeth gyda phobl o bob oed. Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Gallwch ddarganfod ein horiau agor, gwybodaeth am sut i ddod yn Ffrind a llawer mwy ar ein gwefan,

www.yrhenlyfrgell.cymru

Huw Llywelyn Davies: Yn ei eiriau ei hun

Bydd portread o’r sylwebydd rygbi Huw Llywelyn Davies yn agor y drws ar ei fywyd yn y blwch sylwebu a thu allan. Darlledir Huw Llywelyn Davies: Y Dyn Tu Ôl i’r Meic ar Ŵyl San Steffan ar S4C.Huw Llywelyn Davies

Am fwy na 35 mlynedd, bu ei lais adnabyddus yn rhan annatod o ddarllediadau byw gemau rygbi yn y Gymraeg. Ar ôl sylwebu ar dros 300 o gemau ar y teledu a’r radio, fe benderfynodd roi’r gorau iddi yn gynharach eleni. Yn y rhaglen, bydd yn sôn am ei fagwraeth yn Nyffryn Aman ac am fywyd teuluol. “Cefais fagwraeth hynod o Gymraeg. Roedd fy nhad yn athro a mam yn weithgar iawn yn y capel. Roedd y ddau’n genedlaetholwyr brwd iawn, ac fe etholwyd mam yn aelod Plaid Cymru ar y cyngor – rhywbeth hynod mewn ardal mor ddiwydiannol yn y chwedegau,” meddai’r gŵr o Waun Cae Gurwen, er iddo gael ei eni ym Merthyr Tudful. “Roedd teulu Gareth Edwards yn byw dros y ffordd ac roedd y ddau deulu’n agos iawn. Rygbi a’r capel oedd ein byd ni. A chaffi Cresci’s wrth gwrs.” Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, trodd at fyd addysg ac roedd yn bennaeth ar Adran y Gymraeg yng Ngholeg Llanymddyfri o 1969 tan 1974 cyn ymuno â HTV ac yna’r BBC ym 1979. “Gwelais i’r hysbyseb swydd a phenderfynu mynd amdani. Rwy’n credu bod darlledu eisoes yn y gwaed,” meddai. Yno, fe gyflwynodd nifer o raglenni Radio Cymru cyn ffurfio partneriaeth sylwebu fythgofiadwy gyda’r diweddar Ray Gravell. “Roedd Ray yn gymeriad lliwgar a phositif iawn. Roedd ei frwdfrydedd yn heintus,” meddai Huw, sydd bellach yn byw ym Mhentyrch ger Caerdydd.

Fe ddaeth Huw yn un o ddarlledwyr amlycaf S4C, gan gyflwyno cyfresi fel Dechrau Canu Dechrau Canmol a darllediadau blynyddol yr Eisteddfod Genedlaethol. Ond cafodd sawl profedigaeth anodd dros y blynyddoedd, a bydd yn sôn yn agored am y profiadau dirdynnol hyn.

Bydd sawl wyneb cyfarwydd yn cyfrannu at y rhaglen ac yn hel atgofion am eu hamser yng nghwmni Huw, gan gynnwys y darlledwyr Elinor Jones a Gwilym Owen, capten tîm Cymru Sam Warburton a’r prifardd Ceri Wyn Jones. “Roedd hi’n brofiad rhyfedd iawn i ollwng y meic am y tro olaf,” meddai Huw. “Rhyfeddach fyth oedd mynychu gêm rygbi gyda fy ngwraig fel aelod o’r dorf am y tro cyntaf mewn deugain mlynedd!” Huw Llywelyn Davies: Y Dyn Tu ôl i’r Meic Gŵyl San Steffan 8.25, S4C

Hefyd, dydd Gwener 2 Ionawr 2.00, S4C Gwefan: s4c.co.uk Ar alw: s4c.co.uk/clic Cynhyrchiad BBC Cymru Wales

Côr Godre’r Garth yn croesawu’r deugain . . . ac arweinydd newydd

Bydd Côr Godre’r Garth, côr cymysg o ardal Pontypridd, yn dathlu 40 Mlwyddiant gyda chyngerdd fawreddog ar nos Sadwrn 6ed Rhagfyr, a hynny dan faton eu harweinydd newydd, Steffan Huw Watkins ynghyd â chyn-arweinwyr y Côr.

Steffan Huw Watkins

 Cynhelir y gyngerdd yn Eglwys St Catherine’s yn y dref am 7.30pm a bydd y Côr yn perfformio gwaith Vivaldi, Gloria ynghyd â datganiad o waith newydd, Glan Rhondda a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer y gyngerdd gan Eilir Owen-Griffiths a fu’n arwain y Côr am dros ddegawd tan iddo drosglwyddo’r awenau i Steffan eleni. Bydd Gareth Williams, aelod presennol ac is-arweinydd y Côr hefyd yn  ymuno gydag Wil Morus Jones, sylfaenydd ac arweinydd cyntaf Côr Godre’r Garth yn 1974 i arwain rhaglen o gerddoriaeth gyfarwydd o Gymru.

 Yn ymuno â’r Côr ar y noson bydd yr unawdwyr Menna Cazel Davies, Olivia Gomez, Hannah Owen-Griffiths a Cherddorfa Sesiwn Cymru.

 Er mai ond ers cwta fisoedd y mae Steffan Huw Watkins yn arwain y Côr mae’n edrych ymlaen yn fawr at y noson.

 “Mae wedi bod yn braf cael ymuno yn ystod blwyddyn fawr i’r Côr a chael y cyfle i ddathlu pen-blwydd arbennig gyda nhw. Dwi wedi dysgu cymaint dros y misoedd diwethaf, ac yn mwynhau mynd i ymarferion a gweithio’n galed ar y darnau wrth baratoi at y cyngerdd,” meddai Steffan, sy’n wreiddiol o’r Fforest, Pontarddulais ond erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd.

“Mi fydd y gyngerdd yn un arbennig, nid yn unig fel fy nghyngerdd cyntaf i gyda’r Côr, ond gan y byddaf yn rhannu’r arweinyddiaeth gydag eraill sydd wedi chwarae rhannau mor bwysig yn ei hanes. Bydd Wil Morus Jones, sylfaenydd ac arweinydd cyntaf y Côr yn arwain gwaith a gafodd ei gomisiynu i’r côr o dan ei arweinyddiaeth ef; bydd Gareth Williams, sydd wedi arwain y Côr am gyfnodau dros y blynyddoedd diwethaf yn arwain cyfres o ddarnau gwerin; a bydd Eilir Owen-Griffiths yn arwain gwaith gwreiddiol y mae ef wedi ei gyfansoddi i’r Côr, sydd â chysylltiad â Phontypridd a’r ardal.

“Pa ffordd well o ddathlu deugain mlynedd o hanes corawl na chael cyfraniad wrth yr arweinyddion arbennig hyn? Os galla i gyfrannu hanner cymaint at lwyddiant y Côr ag y mae’r tri gŵr yma wedi ei wneud, mi fydda i’n hapus dros ben.”

Ychwanegodd Lyn West, Cadeirydd Côr Godre’r Garth: “Mae’r Côr yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ddathlu’r garreg filltir bwysig yma yn ei hanes drwy ganu yn y gyngerdd a hynny dan arweiniad Steffan sydd nid yn unig wedi gweithio yn hynod o galed i’n paratoi ni ar ei chyfer, ond wedi llwyddo i gyfuno hynny gyda lot o sbort hefyd. Bydd yn fraint hefyd cael cyfle unwaith eto i ganu gyda’n cyn-arweinwyr ac mae’n argoeli’n noson arbennig i bawb, felly dewch yn llu.”

Cynhelir Cyngerdd Dathlu 40 Mlwyddiant Côr Godre’r Garth, Sadwrn 6 Rhagfyr, Eglwys St Catherine, Pontypridd, 7.30pm.  Pris y tocynnau yw £12 (£10 i blant a phensiynwyr) – cysylltwch â 07837 007 076 neu corgodrergarth@gmail.com< mailto:corgodrergarth@gmail.com>

Am fwy o wybodaeth am Gôr Godre’r Garth ewch i www.corgodrergarth.com.

Ysgol Llanhari’n dathlu’r 40

201410PartiLlhDechreuodd y dathliadau gydag ymweliad Radio Cymru â’r Ysgol a pharti 40 yng Nghlwb Rygbi Pontyclun! Cafwyd bore llawn cyffro yn yr ysgol ddydd Gwener, Hydref 17eg gyda Radio Cymru’n darlledu Bore Cothi’n fyw o Gampfa’r ysgol. Cafwyd perfformiadau arbennig gan gôr iau’r ysgol, datganiad hyfryd gan Celyn Lewis o Flwyddyn 8 a chafoddd gwrandawyr Radio Cymru sgŵp – cael clywed y ddarllediad cyntaf o gân Rhifedd Ysgol Llanhari yn fyw ar y rhaglen.

   Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda disgyblion ac aelodau o staff yr ysgol yn ogystal â chyfle i hel atgofion a straeon doniol gyda cyn ddisgyblion a chyn aelodau o staff.

  Parti 40 Llanhari Bu’r parti 40 a drefnwyd gan Ffrindiau Llanhari’n llwyddiant ysgubol. Hyfryd oedd gweld cynifer o gyn ddisgyblion, staff a ffrindiau’r ysgol yn dod ynghyd am noson llawn hwyl. Diolch i bawb am gefnogi.

 

Catrin Heledd yn Cofio  >>   BBC

 

Torri gwasanaeth Cerddoriaeth i blant

UCAC yn gwrthwynebu torri Gwasanaeth Cerddoriaeth Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf
 
Mae Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi ddoe eu hymgynghoriad i dorri gwasanaeth Cerddoriaeth i blant ysgolion y sir yn gyfan gwbl. Fe ddaw’r penderfyniad hwn yn sgil cyhoeddiad y cyngor fod angen arbed oddeutu £31.2miliwn yng nghyllideb y cyngor y flwyddyn nesaf (2015/16).

 Mae’r gwasanaeth hwn yn gyfrifol am ddarparu gwersi cerddoriaeth peripatetig (offerynnol a lleisiol) ynghyd a darparu gwersi ar gyfer cwricwlwm yr ysgol i oddeutu 5300 o blant ardraws y sir.  Hefyd mae’r gwasanaeth yn darparu dros 20 o grwpiau allgyrsiol wythnosol sy’n sicrhau fod cerddorion ifanc yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cerddorfeydd, bandiau, ensembles a chorau a hynny i gyd am ddim.  Mae’r rhain yn cynnwys Cerddorfa Ieuenctid y Pedair Sir, Band Pres, Cerddorfa Linynnol a Band Chwyth.
 
Dywedodd Cynrychiolydd ar ran UCAC:
 
 
 
                “Mae’r penderfyniad hwn gan Gyngor Sir Rhondda Cynon Taf i dorri gwasanaeth gerddoriaeth y sir yn gyfan gwbl yn codi pryder sylweddol am ddyfodol cerddorion ifanc y sir a’i sgil effeithiau i Gymru gyfan.  Nid yn unig bydd plant y sir yn colli’r cyfle i dderbyn gwersi o’r fath yma ond hefyd mae’r gwasanaeth cyson y mae’r Gwasanaeth Cerddoriaeth wedi ei gynnig dros y blynyddoedd wedi bod o’r safon uchaf.”
 
 
 
Yn ogystal mi fydd y gwasanaethau canlynol yn cael eu torri:
 • Arholiadau Associated Board of the Royal Schools of Music a Trinity London sy’n cael eu cynnal 3 gwaith y flwyddyn gyda chyfeilyddion di-dâl
 • Gwyliau Cerddorol Blynyddol: Gŵyl Gerddoriaeth Nadolig i ysgolion cynradd yng Nghadeirlan Llandaf (gydag oddeutu 750 o blant yn cymryd rhan)  Gŵyl Gerddoriaeth yr Ysgolion mewn theatrau lleol (gydag oddeutu 1000 o blant yn cymryd rhan)
 • Cyfleoedd i gerddorion ifanc i berfformio ar lwyfannau ar draws y sir ac ymhellach yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru, Coleg Cerdd a Drama Cymru Caerdydd, Cadeirlan  Llandaf,  Gŵyl Bres Bury Port, yr Ŵyl Genedlaethol Gerddoriaeth a’r  Ŵyl Genedlaethol i Gerddoriaeth yr Ifanc (National Festival of Music for Youth) yng Nghwmbrân a Chaerdydd
 • Prosiectau a gweithdai mewn ysgolion ar draws y sir mewn cydweithrediad gydag adrannau eraill o fewn y cyngor, ee. SONIG a Gwasanaethau Diwylliannol, ynghyd â  sefydliadau eraill fel BBCNOW, Tŷ Cerdd ac Opera Cenedlaethol Cymru

Cystadleuaeth newydd i hyrwyddo’r Gymraeg ymysg pobl ifanc

 

Cystadleuaeth Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cystadleuaeth newydd i hyrwyddo’r Gymraeg ymysg pobl ifanc.

TESTUN Y GYSTADLEUAETH

Cystadleuaeth NEWYDD  #PethauBychain

Wyt ti rhwng 14 a 25?

Eisiau ennill Iphone 6?

Be’ am roi tro ar gystadleuaeth

#PethauBychain

 

Dyma be’ sydd angen i ti wneud:

Tynna lun neu gwna fideo o’r

#PethauBychain ’rwyt ti’n gwneud

yn y Gymraeg e.e, fideo ohonot

ti a dy ffrindiau yn mwynhau

defnyddio’r Gymraeg mewn siop,

mewn gig, gêm rygbi/ pêl droed

neu’n cymdeithasu…

 

Rho dy lun / fideo ar Facebook neu Twitter a chofia gynnwys #PethauBychain yn dy neges.

 

Dyddiad cau: 30 Tachwedd 2014

Twitter: @iaithfyw

Facebook/Cymraeg