Gwybodaeth

  • Rhestr Testunau Eisteddfod 2024

    Mae’r Rhestr Testunau ar gael nawr.

    Continue reading →


    28 Gorffennaf 2023
  • Hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg

    Fel siaradwr Cymraeg yng Nghymru, mae gennych chi hawliau i ddelio â sefydliadau cyhoeddus yn Gymraeg ac i dderbyn gwasanaethau Cymraeg ganddynt.
    Sail yr hawliau ydy safonau’r Gymraeg, sef rhestr o’r pethau mae’n rhaid i sefydliadau eu gwneud yn Gymraeg, er enghraifft:

    galwadau ffĂ´n
    llythyrau
    dogfennau a chyhoeddiadau
    gwefannau a chyfryngau cymdeithasol
    cyfarfodydd
    gwasanaethau derbynfa

     Mae dros 100 o sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu safonau’r Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld pwy ydyn nhw.
    Mae angen i’r sefydliadau hyn hefyd hybu defnydd o’r Gymraeg, rhoi cyfleoedd i’w staff ddefnyddio’r iaith, ystyried y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau polisi a bod yn atebol i Gomisiynydd y Gymraeg ac i’r cyhoedd.
    Continue reading →


    7 Rhagfyr 2020
  • Diwrnod Shwmae Su’mae 15 Hydref Ar Draws y Tonnau

    Bydd Diwrnod Shwmae Su’mae eleni’n ddiwrnod tra gwahanol i’r arfer.

    Thema’r diwrnod eleni yw Ar draws y Tonnau , lle anogwn bobl i ganfod lleoliadau a ffyrdd newydd o ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn a’u rhannu gyda Chymru a’r byd!
    Eleni, fel pob blwyddyn arall, hybu’r syniad o ddechrau pob sgwrs gyda shwmae, su’mae neu shwdi yw’r pwrpas!


    Nod y diwrnod yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – yn siaradwyr rhugl, yn ddysgwyr neu os ydych yn swil am eich Cymraeg. Ac felly os bydd gyda chi gyfle i wneud hyn yn ddiogel ar ddydd Iau Hydref y 15fed yna tagiwch ni i ddangos i ni ac i’r byd sut fyddwch chi’n dathlu’r diwrnod! Os oes digwyddiad wedi ei drefnu ar y dydd yna tagiwch ni a chofiwch annog pawb i ddweud Shwmae neu Su’mae!
    Bydd llysgenhadon gyda ni eleni eto’n rhannu eu profiadau ac yn ysbrydoli gyda’r ffocws eleni ar y Gymraeg yn byw ochr yn ochr ag ieithoedd eraill ein cymunedau gan ddangos bod y Gymraeg yn wirioneddol perthyn i bawb o bob cefndir a chenedl.
    Mae Shwmae Su’mae am hyrwyddo llwyfan digidol AM eleni er mwyn annog artistiaid, mudiadau, gwyliau a lleoliadau newydd i rannu ac annog creu cynnwys digidol ar gyfer y sianelau ac i rannu eu digwyddiadau ar hyd y flwyddyn. Rydym am i’r cyhoedd ddarganfod a mwynhau’r arlwy sydd ar gael yn barod ar y llwyfan arbennig hwn, yn ogystal â denu cynnwys a chynulleidfa newydd i ddigwyddiadau Cymraeg a Chymreig y llwyfan felly gallwn fwynhau clywed a defnyddio’r iaith ar draws y tonnau ble bynnag yr ydym!
    Beth allwn ni wneud yn 2020?
    Er y cyfyngiadau ar ein gallu i symud o gwmpas a chwrdd yn y cnawd, does dim yn ein rhwystro rhag defnyddio’r Gymraeg wrth siopa, wrth dderbyn a chynnig gwasanaeth, yn y cnawd neu ar-lein, wrth ddysgu ac wrth ymlacio!
    Felly dyma rhai o syniadau ar beth allwch chi wneud eleni! Rydyn ni’n gwybod bod gennych chi’r syniadau gorau hefyd felly cofiwch eu rhannu nhw i gyd yr wythnos nesaf! Efallai y byddwch chi’n ysbrydoli eraill!

    Continue reading →


    11 Hydref 2020
  • Arolwg i effaith Coronafeirws.

    Hoffai Llywodraeth Cymru gael ein cymorth i geisio deall sut mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar grwpiau cymunedol. 

    Rydym am ddarganfod sut mae’r cyfnod clo a’r cyfyngiadau a gyflwynwyd ers hynny wedi effeithio ar sut mae eich grŵp yn gweithredu, i ba raddau ydych chi wedi gallu addasu eich gweithgareddau, a beth yw eich bwriadau ar gyfer y grŵp yn y dyfodol.

    Byddem yn ddiolchgar pe gallech dreulio ychydig o amser yn cwblhau’r arolwg ar-lein hwn, a ddylai gymryd tua 10 -15 munud i’w gwblhau.   

    Dolen i’r arolwg  

    Bydd eich atebion yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddeall mwy am y sefyllfa bresennol o ran y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymunedol, ac i nodi’r hyn sydd ei angen er mwyn diogelu’r cyfleoedd hyn wrth i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol.

    O dan GDPR, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gasglwn gennych. Heb eich caniatâd penodol, ni fyddwch chi na’ch grŵp cymunedol yn cael eich adnabod mewn unrhyw gyhoeddiad sydd yn cyflwyno canfyddiadau’r arolwg.

    Os hoffech gael mwy o wybodaeth am sut y caiff eich ymatebion eu prosesu, cliciwch yma

    I gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg hwn neu i gael cymorth i gwblhau’r arolwg, cysylltwch â Llywodraeth Cymru ar 03000 256682 neu anfonwch neges e-bost at: DataIaithGymraeg@llyw.cymru

    Dyddiad cau yr arolwg yw dydd Gwener 2 Hydref 2020.

    Diolch yn fawr i chi ymlaen llaw am eich cymorth. 

     

    Continue reading →


    27 Medi 2020
  • Canlyniadau Eisteddfod y Rhondda 2020

    Llongyfarchiadau i Aelwyd y Rhondda am greu Eisteddfod Rhithiol arbennig. Daeth dros 80 o gynigion i’r 11 cystadleuaeth a ddyfarnwyd ar youtube    24  – 28 Awst 2020.

    Cystadleuaeth Unawd/ Deuawd/Ensemble Sioe Gerdd.

    Beirniad: Steffan Rhys Hughes

       1af Rachel Lee Stephens.

       2il Taylah James.

       3ydd Seren Hâf

    Llefaru Unigol 15oed neu iau. Beirniad: Gavin Ashcroft

       1af Geraint Llywelyn Barnes.

       2il Mari Fflur Thomas. 

       3ydd Hannah Edwards

    Her ‘Keepy-Uppies’. Beirniad: Macauley Cook.

       1af Llion Gwyn Jones.

       2il Gethin Duggan. 

       3ydd Morus Jones

    Cystadleuaeth Y Gadair.

    Beirniad Osian Owen.  Thema: Protest

       1af Prydydd Coch – Martin Huws.

       2il Dyryn – Morgan Owen

       3ydd Dyn yn y Mwgwd – Eryl Samuel

    Dawns Teulu. Beirniad: JĂŞn Angharad

       1af   Seren Hâf a Bryan Bowen

       2il   Cerys a Griff. 

       3ydd  Jasmine a Daisy

    Lip-Sync i Gân Gymraeg.

    Beirniaid: Shelley Rees-Owen a Rhydian Bowen Phillips

       1af  Ellis Lloyd Jones.

       2il  Kelly Hanney

       3ydd Seren Thomas

    Llefaru Unigol (16oed neu’n hĹ·n)

     Beirniad: Tudur Dylan Jones

       1af  Seren Hâf. 

       2il  Kelly Hanney.

       3ydd Rachel Lee Stephens

    Llefaru i ddysgwyr.

    Beirniad: Julie MacMillan

       1af   Ann Howells.

       2il   Tommy Church

       3ydd  Millie Barrett

    Unawd lleisiol (15oed neu’n iau)

    Beirniad: Wil Morus Jones

       1af  Elen Morlais Williams.

       2il  Efan Arthur Williams.

       3ydd Megan Wyn Morris

    Unawd / Deuawd Offerynnol

    Beirniad: Rhiannon pritchard a Richard Vaughan

      1af  Lleucu ac Enlli Parri

      2il  Bethan Ford

      =3ydd Lleucu Haf Thomas

      =3ydd Soffia Nicholas

    Celf.  Beirniad: Siôn Tomos Owen

      1af  Carrie Francis

      2il  Kelly Hanney

      3ydd  Peter Spriggs

     

    Continue reading →


    1 Medi 2020
  • Banc Cwtch i Fabanod

    Rhoddwyd sylw i elusen yn Ffynnon Taf ar Heno ym mis Mawrth. Cychwynnwyd Banc Cwtch i Fabanod yn 2016 i ddosbarthu dillad a defnyddiau babanod i deuluoedd bregus yn y gymuned. Sylfaenydd yr elusen yw Hilary Johnston a fu’n fam maeth am flynyddoedd ond yn ymddeol. Roedd hi am gyflwyno’r dillad a’r cyfarpar roedd hi wedi casglu dros 20 mlynedd i elusen yng Nghymru ond gwelodd nad oedd elusen yn cymryd dillad i’w dosbarthu.  Felly sefydlodd Banc Dillad Babanod Cwtch.

     Mae’r elusen wedi cynorthwyo dros 2000 o deuluoedd. Oherwydd yr amgylchiadau presennol nid yw’r elusen yn derbyn deunydd ar hyn o bryd ond gellir eu cefnogi drwy Facebook @cwtchbabybank.

    Rhagor o wybodaeth yn Tafod Elái mis Ebrill.

    Continue reading →


    7 Ebrill 2020