COFIO MERÊD: DYN AR DÂN

COFION CANRIF O DDYN, EI HUD A’I LED

 Fe gollodd y genedl gawr o ddyn a oedd ar dân dros Gymru a’r Gymraeg pan fu farw Meredydd ‘Merêd’ Evans ar yr 21ain o Chwefror 2015.

Nawr, yn Merêd: Dyn ar Dân fe drafodir y cyfraniad aruthrol a wnaeth Merêd i ddiwylliant a gwleidyddiaeth Cymru yn ogystal â’r dyn ei hun – y dyn annwyl, agos atoch, nad oedd dim yn bwysicach iddo na’i filltir sgwâr.

MeredMae amrywiaeth y cyfranwyr i’r gyfrol hon yn dyst i boblogrwydd Merêd ymhlith pobl o bob oed. Ceir ysgrifau gan nifer helaeth o awduron yn cynnwys Angharad Tomos, Gai Toms, Lyn Ebenezer a Cynog Dafis – pob un yn talu teyrnged i Merêd, i’w athrylith a’i ddycnwch, i’w weledigaeth a’i anwyldeb.

Ceir ysgrif hefyd gan y diweddar, yr Athro Gwyn Thomas, fu farw ar yr 13 o Ebrill eleni.

Ceir hefyd ynddi gerddi teyrnged, a cherdd olaf Merêd ei hun, ynghyd â llu o luniau o bob cyfnod o’i fywyd.

‘Un o deyrngedau mwyaf y gyfrol hon yw’r un ‘anysgrifenedig’, sef bod awduron o bob degawd o oedran o’u hugeiniau i’w nawdegau wedi cyfrannu. Mae pob un, yn ei faes ei hun, ac yn ei arddull ei hun am gydnabod eu diolchgarwch i Merêd,’ meddai Rocet Arwel Jones.

Yn y gyfrol cydnabyddir ei gyfraniad fel darlledwr, athronydd, perfformiwr, ymchwilydd, addysgwyr; i sefydlu’r papurau bro, y S4C, a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ymhlith llu o bethau eraill. Gwnaeth gyfraniadau mawr ac arhosol i Gymru yn ystod bron i ganrif o fodolaeth.

‘Roedd yn ymgyrchydd ym mhopeth roedd o’n wneud – o ennill ei fara menyn fel darlithydd a chynhyrchydd teledu i ymgyrchoedd addysg, darlledu a deddf iaith,’ ychwanegodd Rocet Arwel.

Golygwyd y gyfrol gan Eluned Evans, merch Merêd, gyda chymorth Rocet Arwel Jones.

‘Roedd yn ddyn y llwyfannau mawr cenedlaethol a rhyngwladol, ond eto doedd dim byd yn bwysicach iddo na’i filltir sgwâr. Aeth a Thanygrisiau gydag o i Fangor, America a Chaerdydd ac yn y diwedd i Gwmystwyth, lle y bwriodd wreiddiau dyfnion,’ meddai Rocet Arwel Jones.

Ganwyd Rocet Arwel Jones yn Rhos-y-bol, Ynys Môn a’i addysgu yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Rhos-y-bol, Ysgol Uwchradd Amlwch a Phrifysgol Cymru Aberystwyth.  Mae eisoes wedi cyhoeddi dau lyfr taith doniol am ei brofiadau yn Africa a Kenya, cyfrol o gyfweliadau gydag Emyr Humphreys a chyfrol o hanes llafar ar droad y mileniwm.  Mae’n llais cyfarwydd ar Radio Cymru ac ar S4C ac wedi cyhoeddi cerddi ac ysgrifau yn Taliesin, Tu Chwith, Barn, Golwg, Y Traethodydd ac ar y we. Mae’n briod â Sharon ac yn dad i dri o fechgyn.

Bydd cyngerdd goffa Merêd yn dathlu’r traddodiad gwerin Cymraeg yn cael ei gynnal ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar ddydd Sul Mai y 1af ble cyflwynir copi i Eluned Evans.

Mae Merêd: Dyn ar Dân (£9.99, Y Lolfa) ar gael nawr.