Buenos Aires
Esquel
Trevelin
Los Alerces
Y Paith
Asado
Gaiman
Trelew
Penryn Valdes
Porth Madryn

 

Dydd Sadwrn, Mawrth 26ain:
Crwydro Buenos Aires.
Hotel Lancaster

Dydd Sul, Mawrth 27ain:
Buenos Aires
AM: Taith o amgylch y Ddinas. Heddiw byddwn yn mynd i'r Plaza de Mayo, y Gyngres, ardal la Boca lle byddwch yn cerdded ar hyd stryd enwog "Caminito", ac yn gorffen ein taith ym marchnad rad San Telmo a gynhelir yn y Plaza Dorrego bob dydd Sul. Gobeithio y bydd cyfle hefyd i gael golwg gyflym ar ardal Recoleta a Pharc Palermo.
9 p.m. Cinio / Sioe Tango.


Dydd Llun, Mawrth 28ain:
Ymweld â Thy Opera Colon.
Ffrwyth oes aur Buenos Aires yw'r ty opera moethus hwn, sydd wedi croesawu Luciano Pavarotti, Julio Bocca, Maria Callas, Placido Domingo, Arturo Toscanini, ac Igor Stravinsky. Cymerodd bron 80 mlynedd i gwblhau'r prosiect, ond mae'r canlyniad yn ysblennydd. Mae'r adeilad mawreddog a gwblhawyd yn 1908 yn cyfuno amrywiaeth o arddulliau Ewropeaidd, o'r pennau colofnau Ionig a Chorinthaidd a'r darnau gwydr-lliw Ffrengig yn y brif fynedfa i'r grisiau marmor Eidalaidd a'r celfi, y canwyllyron a'r ffiolau Ffrengig yn y Neuadd Euraid. Yn y brif theatr - sydd â lle i 2,500 eistedd mewn seddi cerddorfa, rhesi, a phedwar gris - mae canhwyllyr enfawr yn crogi o'r nenfwd cromennog a baentiwyd gan Raul Soldi. Mae acwsteg y theatr yn fyd-enwog. Yn ogystal â chroesawu perfformwyr ar ymweliad, mae gan y Colon ei gerddorfa ffilharmonig, ei gôr a'i gwmni bale ei hun. Mae'r tymhorau opera a symffoni'n para o fis Ebrill hyd ddechrau Rhagfyr.

<<< Blaenorol - Nesaf >>>

<<< - >>>