Dydd Llun, Mawrth 28ain
Buenos Aires-Esquel
Gyrru o'r gwesty i'r maes awyr mewnol a Hedfan i Esquel. Cludiant i'r
Hotel Tehuelche.
Pan gyrhaeddwch Esquel bydd Mr Andres Roberts, tywysydd trwyddedig ar
gyfer Talaith Chubut yn cwrdd â chi. Bydd yn aros gyda'r Grwp nes
byddwch yn gadael Trelew. Esquel yw canolfan dwristiaeth bwysicaf cadwyn
fynyddoedd Chubut ac mae'n edrych dros ddyffryn mynyddig hardd. Mae'r
ddinas ar lan afon Esquel ac o'i chwmpas y mae Mynydd Zeta (y llythyren
Z), Mynydd 21, La Cruz (y Groes) a Mynydd Nahuel Pan. Mae llethrau'r mynyddoedd
hyn yn creu amffitheatr mawreddog a gwahanol goedwigoedd a llystyfiant
y dyffryn i'w gweld yn amlwg.
Mae yma olygfeydd hardd o goed hynafol, afonydd crisialog a channoedd
o ddrychau dwr a choedydd trwchus yn eu hamddiffyn. Cludiant i'r Hotel
Tehuelche.
Cyngerdd yng Nghanolfan Gymraeg Esquel ac yna swper gyda’r Cymry.
Dydd Iau, Mawrth 3lain:
OLD PATAGONIAN EXPRESS a NAHUEL PAN.
Taith fythgofiadwy trwy amser, ar dren bach yr "Old Patagonian Express".
Ymweld â Thiriogaeth Mapuche a Marchnad Grefftau gorsaf drenau Nahuel
Pan. Mae La Trochita yn arbennig ac unigryw i drigolion pob un o'r trefi
a'r pentrefi bychain y mae'r tren yn mynd trwyddynt, rai ohonynt yn ddim
mwy na smotyn ar y map: Ojo de Agua, Futo Ruin, Mamuel Choique, Cerro
Mesa, Chacay Huarraca, Fitalancao, Leleque, Lepn, Nahuel Pan. Byddwch
chi ar daith fyrrach o 36 km ar gyfer twristiaid, a gallwch ddod oddi
ar y trên yn yr orsaf fach gyntaf, Nahuel Pan. Mae rhai o drigolion
y pentref bach hwn yn ddisgynyddion uniongyrchol i'r Indiaid Mapuche,
ac yn treulio eu hamser yn magu gwartheg, ond o bryd i'w gilydd yn trefnu
i werthu eu crefftau. Bob blwyddyn, ym mis Mawrth, mae defod grefyddol
Mapuche yn cael ei chynnal yn Camaruco, wrth droed y Cerro Nahuel Pan.
Injan stêm sy'n tynnu'r trên bach hwn, a rhyw fetr yn unig
yw lled y trac. Er mai taith fer yw hi, mae'n brofiad unigryw, wrth i'r
tren bach droelli rhwng dyffrynnoedd a llwyfandiroedd y rhan hudolus hon
o Batagonia.
|
|