Dydd Llun, Ebrill 4ydd:
Dyffryn Camwy - Diwrnod llawn.
Tua'r gorllewir o ddinas Trelew yn rhan isaf Dyffryn Camwy mae tref fechan
y Gaiman (tua 6000 o drigolion). Y dref hon yw canolbwynt y Wladfa Gymreig
ym Mhatagonia. Sefydlwyd y Gaiman ddeng mlynedd yn unig wedi i'r gwladychwyr
cyntaf gyrraedd Porth Madryn/Puerto Madryn ar y Mimosa. Y Gaiman oedd
rhanbarth cyntaf hen Diriogaeth Chubut. Mae'n sicr yn lle sy'n llawn o
hanes. Fel y dywed y Cymry, "pan fydd Sais yn cyrraedd lle, y peth
cyntaf y mae'n ei godi yw siop; pan fydd Americanwr yn cyrraedd lle newydd,
mae'n codi ysgol. Ond pan fydd Cymro'n gwladychu, y peth cyntaf un a wna
yw codi capel." Mae hyn yn berffaith wir. Mae capeli'r Cymry, gyda'u
pensaerniaeth nodweddiadol i'w gweld ym mhob un o'r trefi a sefydlwyd
ganddynt yn nhalaith Chubut. Yn y capeli hyn y byddai holl brosiectau
a chynlluniau'r gymuned yn cael eu trafod gan yr holl aelodau. Mewn geiriau
eraill, roedd y capeli nid yn unig yn ganolfannau crefyddol ond hefyd
yn sefydliadau addysgol, a chyfreithiol hyd yn oed. Mae modd ymweld â'r
capeli hyn, gan ddilyn llwybr sy'n eu cysylltu i gyd ar ddwy ochr afon
Camwy. Heddiw byddwn yn cyrraedd Dolavon, gan fynd trwy'r farmas a dyffryn
ffrwythlon afon Camwy. Cinio yn Nolavon yn yr Old Flower Mill.
Cyngerdd yn Hen Gapel Bethel y Gaiman, tua 7.30.
|
|