Buenos Aires
Esquel
Trevelin
Los Alerces
Y Paith
Asado
Gaiman
Trelew
Penryn Valdes
Porth Madryn

Dydd Sul, Ebrill 3ydd:
Punta Tombo.
Taith diwrnod i weld nythfa pengwiniaid Punta Tombo; cinio picnic. Awn tua'r de ar hyd arfordir cefnfor Iwerydd i nythfa pengwiniaid enfawr Punta Tombo. Rhwng misoedd Medi ac Ebrill bydd hanner miliwn o bengwiniaid Magelanaidd yn magu ac yn deor eu cywion yma. Mae'n werth gweld yr oedolion yn siglo cerdded yn ôl o'r môr i'w nythod, a'r croeso swnllyd a gant gan eu cymheiriaid. Byddwn yn gwylio a thynnu lluniau'r adar diymhongar hyn wrth i biod môr llwyd-ddu, pibyddion Baird a hwyaid diasgell Camwy fwydo neu orffwys ar y restingas gerllaw. Yr adeg hon o'r flwyddyn bydd llawer o bengwiniaid yn dod at ei gilydd ar y traeth i orffen bwrw eu plu am y flwyddyn.

Gwasanaeth Diolchgarwch yng Nghapel Tabernacl Trelew am 6pm.
Cyngerdd yn Nhrelew hefyd yn Amgueddfa’r Deinosoriaid am 8pm.