Buenos Aires
Esquel
Trevelin
Los Alerces
Y Paith
Asado
Gaiman
Trelew
Penryn Valdes
Porth Madryn

 

Dydd Mawrth, Mawrth 29ain: Esquel
Trefelin, Cwm Hyfryd, Nant y Fall a Melin Flawd

Dydd Iau, Mawrth 3lain:
PM: TREVELIN Mae Cymru fach yn bell iawn, ond welech chi ddim pentref Cymreiciach na Threvelin yn yr hen wlad! Y gwahaniaeth mawr yw bod Trevelin yng nghanol dyffryn llydan, ffrwythlon a chopaon gwyn yr Andes yn y cefndir. Ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth ymfudwyr o Gymru i'r rhan hon o Batagonia i ymgartrefu. Daethant a'u ffyrdd Cymreig o fyw i Dalaith Chubut, talaith heddychlon sy'n dal yn denau ei phoblogaeth. Heddiw gall ymwelwyr weld ffermydd defaid llewyrchus a gwartheg mewn caeau heulog, cysgodol a choed poplys o'u hamgylch. Mae coed helyg i'w gweld hefyd o amgylch nentydd troellog llawn brithyll. Yn y pentref prydferth hwn byddwn yn mwynhau paned mewn ty te nodweddiadol.
Cyngerdd yn Nhrevelin. Swper ysgafn wedyn gyda’r Cymry.