Dydd Mercher, Ebrill 6ed
Peninsula Valdes Taith diwrnod i Peninsula Valdes, Safle Treftadaeth y
Byd. ymweld â phentref bach Puerto Piramides am daith ar gwch wedi
ei chynllunio i weld morlewod. Gobeithio hefyd y gwelwn ddolffiniaid ac
adar môr. Ar y ffordd mae'n bosibl y cawn weld anifeiliaid gwyllt
fel guanacoid, rheaod, maraod neu ysgyfarnogod. ynghyd ag adar o wahanol
fathau. Os cyrhaeddwn arfordir y Dwyrain byddwn yn gweld eliffantod môr
yn ymlacio ar y traethau cerrig. Byddwch yn effro - efallai y gwelwch
orcaod hefyd (peidiwch â phoeni – orcas yw'r rhain, nid orks).
|
|