< Dewisiadau

BRETHYN CARTREF Clwb y Dwrlyn

RHAGFYR 7 2001

‘Roedd cryn chwerthin i’w glywed o lolfa’r Kings Arms Pentyrch ar nos Wener cyntaf fis Rhagfyr diwethaf; a dim rhyfedd, oherwydd  ‘roedd hi’n noson Brethyn Cartref Clwb y Dwrlyn. Y cystadlu rhwng gŵyr a gwragedd Pentrych â thrigolion Creigiau yn frwd a’r beirniad, Geraint Hughes, yn cadw trefn ar y cyfan gyda’i sylwadau bachog.

 

Cynhaliwyd amrywiaeth o gystadlaethau: rhai ar y pryd ac eraill yn waith a baratowyd ymlaen llaw. Ymysg y cyntaf dichon taw’r mwyaf cofiadwy oedd gweld Emlyn Davies yn ei drôns (hir) a Brian Davies, er yr oerfel, yn arddangos ei goesau blewog.

 

Cafwyd ymateb niferus i’r tasgau a osodwyd fel gwaith cartref, yn ymestyn o’r tila (geiriau’r beirniad) i’r teilwng. Dyma rai o’r cynnigion aeth â sylw Geraint


Roedd marciau Creigiau a Phentyrch yn agos iawn tan y gystadleuaeth olaf – y corau mawr. Fodd bynnag roedd y beirniad yn y tŷ bach tra cynhaliwyd y gystadleuaeth ac am ryw reswm dyfarnodd, ar sail y gwrandawiad o’r ‘oruwch ystafell’, bod côr Creigiau yn haeddu 100 o farciau! Felly pentre’ Creigiau a orfu yn y diwedd gan adael y Tyrchwyr yn drist eu gwedd.

 

Er mwyn rhoi goleuni pellach i Ddwrlynwyr ar hynt a helynt testun yr e-bost, sef Cadwgan, cyflwynodd y beirniad ddetholiad (honedig!) o lawysgrifau Peniarth yn adrodd anturiaethau carwrol y gwron. Cam go fentrus oedd dwyn y fath ysgolheictod i blith trigolion y Garth a rhaid cyfaddef, nad oedd eu gafael ar Gymraeg Canol yn sicr iawn a dweud y lleiaf. Serch hynny llwyddodd Geraint i gyfleu naws gnawdol y stori yn ddeheuig iawn. Gyda llaw, mae’r llawysgrif yn awr yn nwylo swyddogion y Clwb wedi ei ffeilio dan y pennawd ‘oedolion yn unig’!

 

Diolch i bawb a fynychodd y Kings am noson hwyliog iawn o ‘gynnyrch’ cartref a diolch yn arbennig i Geraint am lywio’r gweithgareddau gyda’i hiwmor arferol.

 
Limerig

Mae si fach ar led yn y Creigiau,
Ni wn a oes sail i’r fath eiriau,
Bod taldra Gill Rees,
Yn myned yn is,
A chatfflap yn rhwyddach na drysau.

 

Mae si fach ar led yn y Creigiau,
Ni wn a oes sail i’r fath eiriau,
Bod Cwmni Cambrensis,
Yn ffilmio blw mwfis
I Brian gael dangos ei ddoniau.

 

e-bost yn defnyddio llythrennau
CADWGAN DDU HOG Y FWYALL

 

Cafodd Ann Dwynwen wisg goch â neclein ddiwaelod; un hael o glifej. “Yli, f’Emlyn!” wiglodd. Yntau arhosai’n llipa.

 

Cadwgan annwyl

Deffro! Wyt gryf.

Angen newydd ddyn – un hyfforddwr, olynydd Graham.

Ymbiliaf frawd, wyt ymladdwr arbennig.

Llywelyn

 

Brawddeg, pob gair yn cychwyn â’r llythyren Ll

 

Llarpiwyd llawer llwynog lluddedig llynedd, llwfrdra llywodraeth Llundain.

 

Llechweddau Llanllwni lle llechau lleidr, llechwraidd, llofruddiog; lleuad llawn, llamodd, llwyddo lladd llygoden llipa Llwellyn Llwyd, lluniaeth llesol llwynog llewyrchus.

 

Llithrodd llaw Llywelyn llariaidd- llamodd llygaid Llywela.

 

Dihareb neu epigram gyfoes

 

Yng ngenau merch mae cynilo gwawd

 

Nid brown yw popeth bler.

 

Nid wrth ei lun y mae adnabod Bin Laden

 

Cyfarchiad Nadolig i bobl enwog ar ffurf cwpled neu bennill

 

O bydded i ti Toni
Ar wyl ein baban gwiw,
I’t beidio cael dy synnu,
Mae nid y ti yw Duw.

 

At: Rod Richards.

Nadolig llawen fo i ti
Ond paid dod ‘nol i’m mhoeni i.

Oddi wrth Nic Bourne.