Y
Fari Lwyd |
Mari Lwyd Pentyrch Seremoni o fynd â phenglog ceffyl wedi ei addurno efo rhubanau a'i wisgo mewn cynfas wen yw'r "Fari" - ac mae 'na amrywiaethau ar y math hwn o weithgaredd tu allan i Forgannwg - i gyd yn gysylltiedig â chyfnod rhwng y Nadolig a'r Ystwyll. Y gred gyffredinol yw bod yr arferion yn mynd yn ôl i gyfnodau paganaidd - i gyd fynd ag "ai1-eni'r haul" sef y cyfnod pan fydd y dydd yn ymestyn. Hanner can mlynedd ar ôl i draddodiad "Y Fari Lwyd" ddod i ben ym Mhentyrch a'r Creigisu, mae'r pentrefwyr wedi atgyfodi’r arferiad. Mae gan y Fari ei gosgordd swyddogol - ac mae'r rhain yn amrywio o ardal i ardal. Ond mae yno bob amser un sy'n "tywys" y ceffyl, sef y Sarjiant. Yn naturiol mae un person o dan y clogyn gwyn ac mae hefyd nifer o bobl eraill yn cyd-gerdded efo'r Fari o dy i dy ac o dafarn i dafarn. Y drefn ydi fod raid i'r parti ganu pennill tu allan i ddrws y lle mae nhw am gael mynd i mewn iddo ac yna fe fydd rhywun yn ateb o'r tu mewn, eto ar ffurf pennill. Mae nhw'n herio ei gilydd bob yn sil, hyd yn oed ar dl i'r parti gael dod i mewn i'r ty - ac yn y gwreiddiol roedd y penillion yn cynnwys geiriau yn y Wenhwyseg, sef tafodiaith yr ardal ac ardal "Y Fari". Penglog "Y Fari" o Bentyrch sydd i'w gweld yn Sain Ffagan, rhodd gan Twm a Shoni Caerwal. Mae'r arferiad wedi bod ar ei gryfaf yn ardal Llangynwyd, ger Maesteg. Mae 'na seremonïau tebyg yn Sir Benfro, ond fod y pen ceffyl yn wahanol yno, chwe ardal yn Lloegr, rhai yn yr Iwerddon, Gwledydd Llychlyn, Awstria, Rwmania a Gwlad Pwyl a'r Almaen.
|
|
|||
Mari Lwyd 1997 |
Mari Lwyd 2005 |
i) Rhai o'r geiriau y mae Don Llywelyn, yn eu cofio o benillion Twm a Sioni, Caerwal, Pentyrch. Mae'r rhain o leiaf hanner cant oed - ac yn debygol o fod yn henach o lawer na hynny. Wel dyma ni'n dwad Mae gen i un Fari Does gen ti ddim Mari O beth yw dy switan O stopwch eich sgrechan Mae'th gegaid o eiria O stwffa'r hen ffilcas |
|
The Mari Lwyd Custom The party always included
a "Sergeant" to lead the horse and, more often than not, "Punch
and Judy" They roamed the village challenging the householders and
innkeepers in "question and answer" verses before entering the
house. Having sung, danced and teased the occupants, the party sat down
to food and drink before moving on. The tradition was very much alive
in the county of Glamorgan and was still practised in this area half a
century ago. In fact the horse's head on show at the Museum at St Fagans
came from Pentyrch. The words on this
page are the ones Don Llywelyn recalls from the days when "Twm &
Shoni", Caerwal, Pentyrch, led the Mari around the area. |
|
Clwb y Dwrlyn Pentyrch Y Fari Lwyd Gan fod 'na hanes am drigolion ardal Pentyrch yn dilyn "Y Fari Lwyd" hyd ymron i hanner can mlynedd yn ôl, nid yw'n syndod fod Clwb y Dwrlyn wedi adfer yr hen arferiad a mynd a’r Fari rownd y pentref ers rhai blynyddoedd. Seremoni o fynd a phenglog ceffyl wedi ei addurno gyda rhubannau a'i wisgo mewn cynfas wen yw'r "'Fari" - ac mae 'na amrywiaethau ar y math hwn o weithgaredd mewn sawl ardal yn Ne Cymru a thu hwnt - i gyd yn gysylltiedig a chyfnod rhwng y Nadolig a'r Ystwyll. Y gred gyffredinol yw fod yr arferion yn mynd yn ôl i gyfnodau paganaidd - i gyd-fynd ag "ail-eni'r haul" a'r adeg pan fydd y dydd yn ymestyn. Mae gan y Fari ei gosgordd swyddogol - ac mae'r rhain yn amrywio o ardal i ardal. Ond mae yno bob amser un sy'n "tywys" y ceffyl, sef y Sarjiant. Yn naturiol mae un person o dan y clogyn gwyn ac mae hefyd nifer o bobl eraill yn hebrwng Y Fari o dy i dy ac o dafarn i dafarn. Weithiau fe gewch chi'r Meriman gyda'i ffdil; y Cadi a'r Bili sef dyn wedi ei wisgo fel merch; Cariwr y Fedwen; a'r Pwnsh a'r Jiwdi. Y drefn oedd fod disgwyl i'r parti ganu pennill tu allan i ddrws y dafarn neu'r ty yn gofyn am gael mynediad. Yna fe fyddai rhyw-un yn ateb o'r tu mewn, eto ar ffurf pennill. Y gamp oedd herio ei gilydd bob yn ail, hyd yn oed ar ôl i'r parti gael dod i mewn i'r ty. Roedd penillion gwreiddiol yr ardal hon yn cynnwys llawer o'r dafodiaifh leol. - Y Wenhwyseg. Mae’r arferiad wedi bod ar ei gryfaf yn ardal Llangynwyd, ger Maesteg. Ceid seremoniau tebyg yn Sir Benfro (ond fod y pen ceffyl yn wahanol yno), chwe ardal yn Lloegr, rhai yn yr Iwerddon, Gwledydd Llychlyn, Awstria, Rwmania, Gwlad Pwyl a'r Almaen. Penglog "Y Fari' o Bentyrch sydd i'w gweld yn Sain Ffagan - rhodd
gan Twm a Shoni Caerwal. Ond mae gan ein hanesydd lleol, Don LIywelyn,
stori neu ddwy i’w hadrodd ynglyn a'r penglog hwnnw sydd yn yr amgueddfa
a’i Lofty, Ton Mawr, neu ai un o ddau farch Cefn Colstyn, Charlie
neu Prins sydd yno? A phwy tybed a'i cododd e o'i fedd ar noson dywyll! |
Clwb y Dwrlyn Pentyrch The Mari Lwyd Tradition (a few background notes) The tradition was very much alive in the county of Glamorgan and was still practised in this village just over half a century ago. In fact the horse's head on show at the Museum at St Fagans came from Pentyrch. That is partly why Clwb y Dwrlyn reviaed the custom of following "Y Fari Lwyd" around the area at this time of year. The party aiways included a “Sergeant" to lead the horse and more often than not, ''Punch and Judy". Often the "Merryman" would be there to play his fiddle and the "Cadi & Billy" would be a man dressed as a woman. They roamed the village challenging the householders and innkeppers in "question and answer" verses before entering the house. These "sparring" sessions could run to three dozen verses - today we'll spare yau all that and sing only a few, a mixture of the traditional and a few millennium "specials".Having sung, danced and teased the occupants, the party usually sat down to food and drink before moving on. Similar customs involving a "horse's head" have been recorded in Ireland, Austria, Romania, Iceland, Germany, Scandinavia and at least six areas of England. They inctude Thanet (Kent), Minehead (Somerset), Wiltshire, Cheshire and Cornwall. Clwb Y Dwrlyn escort "Y Fari Lwyd" closer to the "Hen
Galan" (January 13th), the "Old New Year's day" stil1 celebrated
in West Wates because of the eleven days "lost" when our calendar
was changed in 1752. |
Cân y Fari Lwyd (Menter
Caerdydd) a gennir gan y rhai sydd yn ceisio cael mynediad i'r dafarn Wel dyma ni'n dyw-ad , 2. Os na chawn ni gannad, 3. Ni dorson ein crimpa 4. Os aethoch r(h)y gynnar 5. Os o(e)s yna ddynion 6. Y dishan fras felys 7. O tapwch y baril |
Atebion i gân y Fari Lwyd Rhowch glywad, wyr doethion, 2. Rhowch glywad, wyr difrad, 3. D'yw wiw i chwi'u swto 4. Mi gwnnais o'r gwely 5. I ffwrdd a chwi'r lladron 6. Mi ganaf am flwyddyn |
Y Fari Lwyd yn y Mochyn Du, Caerdydd |
14 Ionawr 2005 |
Y Fari Lwyd yng Nghei Newydd Paratôdd mam fi at y Fari Lwyd gan ddweud mai gorymdaith a welwn, ac mai Wil Evans y crydd fyddai'r arweinydd. Eglurodd ymhellach na fyddwn yn ei adnabod oherwydd y byddai yn gwisgo lliain gwyn amdano ac ysgerbwd pen ceffyl dros ei ben. Soniodd fel y byddai'r pen wedi cael ei addurno a rubanau a rhosynnau o bapur coch a melyn. Edrychwn ymlaen yn awyddus at ei gweld, a phan oedd ar fin cyrraedd ein ty ni, aeth mam a mi at ffenestr y parlwr, er mwyn i mi gael golwg iawn arni. Rhoddodd mam follt ar y drws rhag ofn i'r cwmni direidus ein gweld a cheisio dod i mewn atom. Dywedodd mam wrthyf am fod yn dawel, ac i beidio a chadw unrhyw swn, neu byddai'n fy rhoi yn fy ngwely yn y llofft gefn. Gwyddwn na fyddwn yn medru gweld dim o'r lle hwnnw. Cyn hir, clywsom ei swn y tu allan i Bristol House, siop Bili Twm. Canodd o flaen y siop, gan obeithio cael cwrw, arian a theisennod gan Bili Twm. Yna, aeth heibio i'n ty ni, dan ganu'n undonog iawn - `Mari Lwyd lawen yn dyfod i'ch trigfan, Tu cefn i'r arweinydd a wisgai'r pen ceffyl, cerddai llawer o ddynion mewn oed, a phob un yn gwisgo mwgwd hyll, a matiau neu grwyn anifeiliaid ar eu cefnau. Y tu ôl i'r dynion cerddai llu o fechgyn o bob oed, pob un o'r golwg y tu ôl i'w fwgwd, a chynffon wiwer neu fat o groen ar eu pennau a'u cefnau. Wrth droi i lawr drwy Tin-pan-alley at ddrws cefn Manchester House, dechreu'sant ganu'n uchel `Wel dyma ni'n dwad, gyfeillion diniwad, 'D oedd fawr o fiwsig yn y dôn. Roedd yn fwy o siant nag o alaw mewn gwirionedd, ac i ganol y canu deuai lleisiau amryw o'r llanciau'n chwerthin. Clywais mam yn canu'r geiriau flynyddoedd wedi hyn. Clywais hi, hefyd, yn canu ateb cyfarwydd i'r Fari. Dyma fe, `Rhowch glywed, wyr doethion, Wedi cael croeso i dy, cai aelodau'r Fari deisennod i'w bwyta a chwrw i'w yfed, a hefyd win eirin neu riwbob. Cyn mynd, rhoddai gwr y ty arian mewn cwdyn lledr a gariai'r arweinydd. Yna ai'r Fari Lwyd ymlaen i'r lle nesaf. Atgofion Ceinewydd. Myra Evans |