Cwlwm

Parti'r Efail

 
     

Eisteddfod Llanelli 2014
Parti Alaw Werin Buddugol Eisteddfod Sir Gâr 2014

Fideos

JW

 

 

 

 

 

Tafod Elái
Yn Ffrainc
Buddugoliaeth Cilarni
Meifod 2003

Lluniau o'r Gorffenol

1998 Mis 11 G C D Partir Efail
1999 Mis 11 G C D Parti Efail b
2000 Mis 08 Eist Efail L L002
2000 Mis 08 Eist Efail L L004
2000 Mis 08 Eist Efail L L005
2000 Mis 08 Tafod Eist Llanelli
2001 Mis 11 Gwyl Ddrama E FAIL
2001 Mis 11 Tafod Rhag 2001
2003 Mis 08 Parti Efail 2
2003 Mis 08 Parti Efail 3
2004 Mis 04 Cyngerdd Efail Isaf b
2004 Mis 04 Cyngerdd Efail Isaf
2004 Mis 04 Cyngerdd Partir Efail 1
2004 Mis 04 Dydd 18 Tralee Parti Efail
2004 Mis 08 Eisteddfod
2004 Mis 11 G C D Parti Efail
2004 Mis 11 Dydd 02 G C D Parti Efail
2005 Mis 11 G CD
2005 Mis 11 G C D P Efail
2006 Mis 08 Eist Cdant1
2006 Mis 08 Eist Cdant2
2007 Mis 06 Partir Efail Asado
2009 Mis 11 G C D P Efail 2
2009 Mis 11 G C D P Efail
2010 Mis 08 Eist P Efail
2012 Mis 04 Gwyl Ban Geltaidd
2014 Mis 08 Eist P Efail1
2014 Mis 08 Eist P Efail6
2014 Mis 08 Eist P Efail7

 

 

Gwyl cerdd Dant 2009
Gŵyl Cerdd Dant 2009


Buddugol yng Ngwyl Gerdd Dant Abergwaun 2005


Buddugoliaeth Parti'r Efail

Ennill ym mro Llanelli yn 2000!

Buddugwyr y gystadleuaeth i bartion Cerdd Dant ym Mhrifwyl Llanelli 2000 oedd Parti'r Efail - criw o feibion ardal y Tafod dan hyfforddiant Menna Thomas, sy'n ymarfer yn Efail Isaf.

Ydyn, mae nhw wedi ei gwneud hi! Ar ol dod yn drydydd ac yna'n ail mewn prifwyliau blaenorol, eleni daeth haeddiant i'w rhan pan ddyfarnwyd cwpan Coffa Llyfni Huws iddyn nhw am eu cyflwyniad o ddwy gerdd - "Yr Hebog" (Robert Powell) a "Pan glywaf gān y clychau" Dafydd Iwan.

Parti'r Gromlech, enillwyr blaenorol o fro'r Preseli, ddaeth yn ail a Meibion Llywarch o ardal y Bala yn drydydd. Mae'r parti'n bumlwydd oed eleni ac wedi cystadlu'n gyson yn y Brifwyl a'r Wyl Cerdd Dant. Nhw enillodd yn yr Wyl Gerdd Dant, Yr Wyddgrug, ddwy flynedd yn ol ac mae nhw'n bwriadu cystadlu eto eleni pan fydd yr Wyl ym Mangor ym mis Tachwedd. Menna Thomas, sydd bellach yn byw yn Efail Isaf, sy'n gosod iddyn nhw ac yn hyfforddi'r parti.

Mae'r fuddugoliaeth yn un gwobr ychwanegol at y myrdd mae hi wedi eu hennill, fel unawdydd ac fel hyfforddwraig corau a phartion - fel athrawes yn ysgol Rhydfelen, fel cyn-arweinydd Merched y Garth ac wrth gwrs hyfforddwraig Parti'r Efail. Yr aelodau yw: Cliff Hewitt, Geraint Wyn Jones, Gwyn Hughes Jones, Emlyn Penny Jones, Gareth Jones, Aled Thomas, Danny Grehan, Rhodri Harries, Gavin Ashcroft, Marc Lloyd Jones, Beuno Hughes, Wyn Thomas, Huw Wade, Gwilym Thomas, Mike Wade, Rowland George, Gerwyn Caffrey, Rhys Dafis, Ifan Roberts, Maen nhw wedi cael blwyddyn brysur, rhwng cystadlu a chynnal nosweithiau ar hyd a lled De Cymru - o Gasnewydd i Abergwaun. (Erbyn y flwyddyn nesaf maen nhw eisoes wedi derbyn dau gyhoeddiad adeg Gwyl Ddewi cyn ennill yn Llanelli, hyd yn oed!)

Pan fydd y cor yn ymarfer ac yn cynnal nosweithiau mae nhw'n ddiolchgar iawn am gymorth a chefnogaeth eu cyfeilyddion lleol - y ddwy delynores, Lowri Ffrancon a Bethan Roberts. Yn rhai o'u cyngherddau mae nhw hefyd yn cael help Patric Stephens wrth y piano. Cliff Hewitt, 35 Penywaun, Efail Isaf , (CF38 1AY) yw'r Trysorydd a Geraint Wyn Jones, Rhyd y Grug, 13 Y Padog, Pentre'r Eglwys, Pontypridd (CF38 1TL) yw'r ysgrifennydd. Os yw eich cymdeithas am drefnu orig yn eu rhaglen aeaf, bachwch y bois cyn i'w ffioedd dreblu!

Parti'r Efail yng Ngwyl Gerdd Dant 1999