Cyfrol anhepgor am y Cymry ym Mhatagonia

Cyfrol anhepgor am y Cymry ym Mhatagonia—yn rhad ac am ddim!

Yn 1865 hwyliodd ychydig dros 150 o Gymry o Lerpwl gyda’r bwriad o sefydlu Cymru newydd radical a Chymraeg ym Mhatagonia. Yr oedd yn ddechrau ar antur a fyddai’n ddylanwadol yn hanes Cymru ac Ariannin ac yn ysbrydoliaeth i lawer. Yn wir, oni bai am y Wladfa Gymreig yn Chubut, y mae’n bosibl y byddai ffiniau rhai o wledydd De America yn wahanol iawn heddiw.

LOGO-150-PATAGONIAEr na ddatblygodd y Wladfa yn union ar hyd y llinellau yr oedd yr arloeswyr cynnar wedi gobeithio, y mae’r diwylliant Cymreig yn dal yn elfen bwysig yn hunaniaeth Chubut. Y mae’r Gymraeg yn parhau yn iaith fyw yno. Gall fod cynifer â 5,000 o bobl Patagonia yn siarad Cymraeg heddiw; ond yr hyn sy’n fwy rhyfeddol byth yw bod y blynyddoedd diwethaf wedi gweld adfywiad syfrdanol yn y diddordeb yno mewn pethau Cymreig, gyda llawer yn mynychu dosbarthiadau dysgu Cymraeg a rhai ysgolion bellach yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â’r Sbaeneg. Ar ben hynny, y mae ysbryd arloesol, aberth a delfrydau’r Gwladfawyr cynnar yn parhau i ysbrydoli heddiw, nid yn unig yng Nghymru ac Ariannin ond ymhell y tu hwnt i’w ffiniau.

Fel rhan o ddathliadau 150 mlwyddiant sefydlu’r Wladfa Gymreig yn Chubut, y mae Cymdeithas Cymru-Ariannin wedi cyhoeddi Cydymaith i’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia gan Eirionedd A. Baskerville. Y mae ar ffurf geiriadur bywgraffyddol ac yn cynnwys erthyglau am dros ddeugain o arloeswyr cynnar y Wladfa a’u disgynyddion. Cyhoeddiad electronig ydyw ac y mae ar gael i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim ar wefan Cymdeithas Cymru-Ariannin:

 

http://www.cymru-ariannin.com/uploads/cydymaith_ir_wladfa_gymreig_ym_mhatagonia.pdf

 

Y bwriad yw ychwanegu cofnodion pellach o bryd i’w gilydd ar unigolion, sefydliadau a phynciau amrywiol yn ymwneud â’r Wladfa. Am fod y Cydymaith yn gyhoeddiad electronig, bydd modd hefyd ddiwygio’r cofnodion presennol yn ôl y galw. Dylid anfon awgrymiadau am ychwanegiadau a chywiriadau at yr awdur i’r cyfeiriad ebost hwn: nonbaskerville@btinternet.com

 

Mae Eirionedd A. Baskerville yn gyn-aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn Ysgrifennydd Cymdeithas Hanes Ceredigion. Y mae’n arbenigo ar hanes teuluoedd ac yn un o’n prif arbenigwyr ar hanes teuluoedd y Wladfa.

Mae’r Cydymaith hwn yn fwynglawdd o wybodaeth am bob agwedd ar y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia ac yn gyfeirlyfr anhepgor i bawb sy’n ymddiddori yn y bennod nodedig hon yn hanes Cymru ac Ariannin.