Cyngerdd Sinfonia Cymru

CERDDORION IFANC CYMRU’N ACHUB Y BLAEN AR Y LLWYFAN AC ODDI AR Y LLWYFAN MEWN PREMIERE BYD-EANG

Ar y 4ydd o Orffennaf 2013 mi fydd cerddorfa siambr fwyaf blaengar Cymru, Sinfonia Cymru, sydd a’i swyddfa ym Mhentyrch, yn perfformio premiere byd-eang o ddarn newydd gan Mark David Boden, sy’n raddedig o’r Coleg Cerdd a Drama ac sydd yn ôl Theatr Gerddorol Cymru yn “un o ddoniau newydd disgleiriaf Cymru”.
20130614SinfoniaCymrub
Mae ‘Chaconne for Strings’ yn rhan o daith haf arloesol Sinfonia Cymru, ‘Classic Conversation’’, sy’n rhaglen o ddarnau bywiog, cyffrous ac amrywiol ar gyfer y gerddorfa a luniwyd gan y cerddorion eu hunain, mewn cydweithrediad â’r arweinydd Gareth Jones.  Mae’r syniad yma’n adlewyrchu meddylfryd y gerddorfa o rymuso cerddorion ifanc ac o ddemocrateiddio diwylliant cerddoriaeth glasurol.

Yn ôl Sophie Lewis, rheolwr Sinfonia Cymru, “Rydym ni’n torri tir newydd drwy alluogi ein cerddorion ifanc i ddewis beth maen nhw am ei chwarae.  Mae’n gam diwylliannol pwysig, ond hefyd mae’n rhan o’n hymroddiad i ddatblygu galluoedd cerddorion ifanc ac i sicrhau fod Cymru ymhlith y llefydd gorau yn y byd i ddechrau gyrfa glasurol.

“Mae cerddorion Sinfonia Cymru’n teimlo dyletswydd angerddol i amlygu doniau eu cyd-gerddorion sydd, fel nhw, ar ddechrau’r llwybr.  Mae Mark, sydd wedi astudio yn y Coleg Cerdd a Drama ac sydd wedi ennill gwobr William Mathias Cyfansoddwyr Cymru, yn un o’r rheini’n bendant”, ychwanegodd Sophie.

Er ei fod yn ddyn ifanc, mae Mark yn hen gyfarwydd â’r Sinfonia ers ei ddyddiau cyntaf yn y Coleg Cerdd a Drama.  “Rydw i wedi mwynhau cyngherddau Sinfonia Cymru ers y cychwyn, ac yn edmygu’r ffordd maen nhw’n dehongli darnau amrywiol mewn ffordd mor drawiadol o gyffrous ac egnïol.  Y rhinweddau yma ddaru fy ysbrydoli i gyfansoddi’r darn yma ar eu cyfer, ac rwy’n ddiolchgar iawn am yr anrhydedd maen nhw wedi ei roi i mi”.

Daw taith ‘Classic Conversation’ yn fuan ar ôl lansio ‘Sinfonia Cymru: Curate’; cynllun sy’n cydnabod galluoedd technegol cerddorion ond hefyd eu doniau creadigol amrywiol ac uchel.  Yn ôl Sophie, “mae Curate yn ffordd newydd o ystyried y cerddor, a fydd yn dylanwadu ar y gerddorfa yn y dyfodol”.

Mae’r daith pedair cyngerdd yn dechrau yn y Coleg Cerdd a Drama am 7.30pm ar nos Iau, y 4ydd o Orffennaf 2013, ac yna yng Nghasnewydd, Caernarfon a’r Wyddgrug rhwng y 5ed a’r 7fed o Orfennaf.  Mi fydd y rhaglen yn cynnwys gweithiau gan Stravinsky, Beethoven, a pherfformiad llawn prin o Y Fam Ŵydd gan Ravel.