Cynorthwyo Myfyrwyr i Gwblhau Graddau Doethur Cyfrwng Cymraeg

Lana Evans

Mae wyth myfyriwr newydd gychwyn astudio gradd doethur trwy gyfrwng y Gymraeg mewn prifysgolion ar draws Cymru, a hynny o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae tair ysgoloriaeth wedi’u dyfarnu i Brifysgol Caerdydd eleni a bydd Rhidian Thomas, Ben Screen a Sara Orwig yn parhau i astudio yn y brifddinas ar ôl cwblhau graddau israddedig yno.

Bydd Rhidian Thomas o Landysul yn canolbwyntio ar effaith newid hinsawdd ar y berthynas rhwng pysgod brodorol Cymru a rhywogaethau ymledol yn Ysgol Biowyddorau’r Brifysgol.

 

Cyfieithu awtomatig a thechnoleg iaith fydd pwnc Ben Screen o Flaenau Gwent a’i obaith fydd cyfrannu at y diffyg corff o waith ymchwil ar gyfieithu awtomatig a’r iaith Gymraeg, a chwestiynu i ba raddau mae cyfieithu awtomatig yn haws ac yn fwy cyflym.

 

Cyfnewid côd mewn llenyddiaeth Gymraeg, a goblygiadau hynny o safbwynt astudio hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol, fydd testun Sara Orwig o Fangor. Bydd Sara yn astudio ei doethuriaeth o dan oruchwyliaeth Yr Athro Sioned Davies a’r Athro Diarmait Mac Giolla Chríost o Ysgol Y Gymraeg.

 

Un arall sydd wedi derbyn nawdd i ddilyn gradd doethur yn y Gymraeg yw Miriam Elin Jones o Lanpumsaint. Testun ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth fydd ‘Ymchwil i Gymru Fydd: Y Dyfodol, y Gofod ac Angenfilod mewn Rhyddiaith Gymraeg.’

 

 

 

 

Bydd Elin Harding Williams o Gaernarfon yn cynnal gwaith ymchwil i Anhwylder Sbectrwm Awtistig trwy’r Gymraeg yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor. Nod Elin yw codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr a chyfrannu at y wybodaeth sydd ar gael i’r rhai hynny sy’n byw gyda’r cyflwr o ddydd i ddydd.

 

Bwriad Lana Evans yw astudio’r cyfleoedd sydd ar gael i blant gymryd rhan mewn chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Er iddi dderbyn ei haddysg uwchradd trwy’r Gymraeg yn Ysgol Bro Morgannwg, cafodd Lana ei magu ar aelwyd Saesneg felly mae’n benderfynol o ehangu ar y cyfleoedd i blant fedru ymarfer eu Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Yn olaf, dyfarnwyd dwy ysgoloriaeth hefyd eleni i Brifysgol Abertawe, a hynny ym meysydd Hanes a Meddygaeth.

Cyfryngau Cymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf fydd pwnc Meilyr Rhys Powel o Dreforys. Bydd yn ceisio dadansoddi sut y gwnaeth y cyfryngau yng Nghymru gyflwyno’r Rhyfel Byd Cyntaf i’r cyhoedd ac i ba raddau y gwnaethant ddylanwadu ar feddwl y Cymry.

Y diciáu a’r modd mae’n lledaenu fydd yn mynd â sylw Rhys Crompton Jones o Lanelli. Mae Rhys yn edrych ymlaen at gyfrannu at waith ymchwil yn y maes ac yn gobeithio dilyn gyrfa academaidd ar ôl cyflwyno’i ddoethuriaeth.

Yn ôl Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

‘‘Hoffwn ddymuno’r gorau i ddeiliaid ysgoloriaeth ymchwil y Coleg Cymraeg gyda’u gwaith dros y tair blynedd nesaf. Gobeithio y byddant yn cael budd o’r hyfforddiant mewn sgiliau ymchwil a ddaw fel rhan o’r nawdd ac y gwnawn nhw fanteisio ar gyfleoedd i fagu profiad addysgu trwy gyfrannu at fodiwlau israddedig yn eu sefydliadau trwy gyfrwng y Gymraeg.’’