Damwain Ddinistriol Senghennydd

Gan mlynedd yn ôl, ym mis Hydref 1913, fe ysgydwyd Cwm yr Aber gan ffrwydrad anferth yng nglofa’r Universal a laddodd 440 o bobl, y ddamwain ddiwydiannol waethaf yn hanes gwledydd Prydain.20130715Senghennydd

Eleni, i nodi can mlynedd ers y danchwa a’r drychineb enbyd mae Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst yn cyhoeddi’r gyfrol arbennig, Senghennydd.

Mae ambell enw lle sy’n creu tawelwch dim ond wrth ei ynganu – un o’r rheiny yw Senghennydd ger Caerffili. Pan gollwyd cyfanswm o 440 o fywydau yn dilyn effeithiau’r danchwa, fyddai’r cwm byth yr un fath, gyda phob yn ail dŷ yn rhai o’r terasau wedi colli anwyliaid.

Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, gydag echelydd y ddaear yn troi ar ynni glo stêm, roedd galw mawr am yr ‘Aur Du’ oedd i’w gael mewn miliynau o dunelli yng nghymoedd de-ddwyrain Cymru.

Yn sgil y Chwyldro Diwydiannol, roedd damweiniau yn anochel yn y trachwant hwnnw am bŵer a chynnyrch ac elw ond er gwaetha’r amodau peryglus, roedd y glowyr yn fodlon mentro’u bywydau, gyda chyflogau deniadol yn eu denu yno o bob cwr o’r wlad. Ac yn sicr roedd y perchnogion a’r swyddogion yn fwy na pharod i fentro – mentro eu harian a mentro plygu’r rheolau diogelwch. Roedd yr amodau’n beryclach nag unlle arall ym mhwll yr Universal, Senghennydd a’r risgiau a gymerid yn uwch, ac o ganlyniad bu’r colledion yno’n llawer iawn gwaeth.

Yn y gyfrol hon, sydd wedi’i golygu gan Myrddin ap Dafydd, cawn hanes y ddwy danchwa enbyd ym 1901 a 1913 drwy gyfrwng toriadau o’r wasg Gymraeg ar y pryd a hefyd rhai trysorau ac atgofion a gadwyd mewn cartrefi hyd a lled Cymru.

Dywed Myrddin: “Yr hyn a ysgogodd y gyfrol oedd cael fy nghyflwyno gan John Roberts, Abertridwr i neges ar gerdyn post a bostiwyd o Senghennydd drannoeth y drychineb. Cerdyn post adref i Drawsfynydd oedd o, yn sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn enwi cryn hanner dwsin o ddynion eraill o Drawsfynydd oedd yn y lofa.”

Yn wir, nid colled un cwm oedd meirwon y ddamwain hon. O Fôn, o chwareli Arfon a Meirion, o dyddynnod a mwynfeydd Ceredigion ac o gymoedd y gorllewin, roedd cannoedd wedi heidio i’r cwm diwydiannol i geisio cyflogaeth dda. Bu galar a chwerwedd ym mhob cwr o Gymru a chan mlynedd yn ddiweddarach, mae teuluoedd wedi cadw’r cof yn fyw am y glowyr drwy gyfrwng hen lythyrau, hen luniau, penillion, atgofion a mân drugareddau.

Ychwanega Myrddin: “Roedd hon yn ergyd i Gymru gyfan – ac mae lluniau, straeon, rhigymau a chofnodion o bob math wedi’u cadw a’u trysori mewn teuluoedd ac yn gweld golau dydd am y tro cyntaf yn y gyfrol hon.

“Roeddwn yn synnu bod cymaint o ddeunydd ar gael yn y Gymraeg ym mhapurau newydd a chyfnodolion y cyfnod – ond wrth gwrs, digwyddodd y danchwa ar ddiwedd oes aur y byd print Cymraeg. Roedd yn hynod o gyffrous dod ar draws adroddiadau gan lygad-dystion i’r digwyddiadau yn dilyn y drychineb.”

Fe dynhawyd y rheolau diogelwch yn sgil y ddamwain ond bu’r achos llys yn erbyn y perchnogion yn ffars ac yn ergyd arall i’r holl deuluoedd yn eu galar a’u colled. Fel y disgwylir, roedd erthyglau pwerus i’w cael mewn papurau newydd adain chwith fel Tarian y Gweithiwr, ond yr hyn sy’n fwy arwyddocaol yw bod rhai o bapurau newydd mwyaf ceidwadol Cymru hefyd yn codi cwestiynau caled ac yn gandryll gyda’r ddirwy bitw gafodd perchnogion y lofa fel cosb.

Felly wrth i ni gofio canrif ers y drychineb, lle mae tanchwa Senghennydd yn ffitio o fewn ein hanes ni fel Cymry?

Dywed Myrddin: “Mae Senghennydd yn rhan o’n hanes ni i gyd; mae’n rhan o stori Cymru. Fel gyda Chilmeri, Tryweryn a Brad y Llyfrau Gleision, rhaid inni wybod stori Senghennydd er mwyn sylweddoli cymaint rydan ni wedi’i oroesi er mwyn wynebu’r dyfodol yn hyderus. Yn ogystal â’r colledion, mae’n rhaid cofio am y nifer a gafodd eu hachub. Roedd dewrder y timau achub yn eithriadol – glowyr o byllau cyfagos yn rhoi oriau ac oriau ar ben eu shifftiau. Mi achubwyd 18 o lowyr o’r Universal ar ôl iddyn nhw fod o dan ddaear am 22 awr. Mae’r gwrhydri hwnnw yn rhywbeth y gallwn i gyd fod yn falch iawn ohono.”

Llyfrau Llafar Gwlad: 83. Senghennydd

Gwasg Carreg Gwalch, £7.50, ISBN 9781845274290

Ar gael o’ch siop lyfrau leol neu www.gwales.com