Eisteddfod Caerdydd 2020

Mae’r trefniadau at Eisteddfod Caerdydd yn mynd yn eu blaen yn dda, ond mae dal sbel i fynd nes cyrraedd 17 Ionawr 2020!

Cystadlaethau llenyddiaeth

Mae gyda ni 8 cystadleuaeth lenyddol i chi eleni, a’n beirniad yw Emyr Davies. Y dyddiad cau yw 6 Rhagfyr – felly does dim llawer o amser o gwbl gyda chi!

Y cystadlaethau sy’n agored i bawb yw:

  • Limrig yn cynnwys y llinell “es adre ar ddiwedd y noson” (gwobr ÂŁ10)
  • Englyn ar y testun “cwmwl” (gwobr ÂŁ10)
  • Cerdd heb fod dros 50 llinell ar y testun “strydoedd” (gwobr ÂŁ50)

Y cystadlaethau i blant a phobl ifanc yw:

  • Cerdd, ymson, stori ddychmygol neu rhan o ddyddiadur ar y testun “unrhyw anifail”. Dwy gystadleuaeth, un i ddisgyblion bl 2-4 ac un i ddisgyblion bl 5-6 (gwobr ÂŁ10)
  • Cerdd, ymson, stori ddychmygol neu rhan o ddyddiadur ar y testun “y cyfryngau cymdeithasol”. Dwy gystadleuaeth, un i ddisgyblion bl 7-9 ac un i ddisgyblion bl 10-13 (gwobr ÂŁ10)
  • Tlws yr ifanc. Dyfernir tlws yr ifanc am un darn o waith llenyddol. Gall fod yn gerdd, stori, ysgrif neu bortread ar y thema “mam-gu neu tad-cu”. Cystadleuaeth i unigolion 25 oed ac iau. (gwobr ÂŁ50 a thlws)

Mae’r manylion cystadlu’n llawn ar www.eisteddfodcaerdydd.cymru

Cystadlaethau llwyfan

Mae hefyd modd i chi gofrestru nawr ar gyfer y cystadlaethau llwyfan. Mae’n rhaid i chi gofrestru er mwyn cystadlu ar y diwrnod, felly ewch i www.eisteddfodcaerdydd.cymru i lenwi’r ffurflen i gofrestru! Y dyddiad cau ar gyfer cystadlaethau llwyfan yw dydd Gwener 10 Ionawr 2020.

Nawdd

Yn olaf, ry’n ni’n dal i chwilio am nawdd i gynnal yr eisteddfod. Ry’n ni wedi dechrau o ddim byd, ac wedi llwyddo cael nawdd gan nifer o sefydliadau a chymdeithasau Caerdydd yn barod. Ond fel gyda phob digwyddiad fel hyn, mae’n rhaid cael cyllid er mwyn sicrhau llwyddiant.

Felly os hoffech noddi’r eisteddfod yn gyffredinol, ry’n ni wedi creu tudalen Go Fund Me lle gallwch wneud cyfraniad yn hawdd gofundme.com/eisteddfod-caerdydd. Fodd bynnag, mae sawl cystadleuaeth yn dal i fod heb eu noddi’n benodol, felly os hoffech chi noddi cystadleuaeth benodol yn hytrach na rhoi nawdd cyffredinol, e-bostiwch cyswllt@eisteddfodcaerdydd.cymru.

A chofiwch roi 17 Ionawr 2020 yn eich dyddiaduron – Eisteddfod Caerdydd yn Ysgol Plasmawr.