ELW O GYHOEDDI LLYFR

Yn Awst 2014 cyhoeddodd Swyddfa Cymorth Cristnogol Caerfyrddin, y gyfrol, Ehangu Gorwelion, gan Wynn Vittle. Mae’r llyfr yn olrhain hanes Cymorth Cristnogol yng Nghymru gydag argraffiadau personol yr awdur, a fu’n Ysgrifennydd Cymru i’r Mudiad am ddeunaw mlynedd, ynghyd â’i brofiadau o’i ymweliadau â deg o wledydd ar ran Cymorth Cristnogol.

Trefnwyd y byddai unrhyw elw o’r gwerthiant yn cael ei gyflwyno i brosiectau a gefnogir gan Gymorth Cristnogol.

Bu’r ymateb i’r gyfrol yn hynod dderbyniol. Bellach, medrwn gyhoeddi bod gwerthiant y llyfr wedi sicrhau £4,000 tuag at Raglen Iechyd Mamolaeth a gefnogir gan Gymorth Cristnogol yng ngwlad Ghana, Gorllewin Affrica.

Gan fod apêl enwadol Undeb Bedyddwyr Cymru yn 2016 tuag at y rhaglen hon yn Ghana, penderfynwyd bod yr elw o werthiant y llyfr i’w gyflwyno drwy apêl y Bedyddwyr.

Bu darllen y gyfrol yn fodd i ehangu meddyliau’r darllenydd gyda gwybodaeth am ddechreuadau Cymorth Cristnogol yng Nghymru a thu hwnt. Bydd elw’r gwerthiant hefyd yn fodd i ehangu bywydau cannoedd o deuluoedd difreintiedig Ghana, lle mae 380 o bob 100,000 yn marw adeg genedigaeth.  

I geisio gwella’r sefyllfa druenus hon bydd cyflwyno elw’r gyfrol i’r Apêl yn fodd i achub bywydau mamau a babanod heddiw a chenedlaethau yfory yn Ghana.

Mae ychydig o gopïau o’r llyfr ar ol am £9.95. Os dymunwch gopi, cysylltwch â Swyddfa Cymorth Cristnogol, 75 Heol Dŵr, Caerfyrddin SA31 1PZ (ffon: 01267-237257; e-bost: caerfyrddin@cymorth-cristnogol.org

Dymuna’r cyhoeddwr, Tom Defis a’r awdur, Wynn Vittle, ddiolch yn fawr i werthwyr a phrynwyr y llyfr am eu cefnogaeth, gan fydd eu cydweithrediad yn fodd i roi “yr hawl i fyw” i genedlaethau’r dyfodol yn Ghana.

Llun: Y Parchgn Tom T Defis (gyda’r gyfrol) Wynn Vittle yn cyflwyno’r siec i Judith Morris, Ysgrifennydd Undeb Y Bedyddwyr

 

 

Swyddfa Cymorth Cristnogol, 75 Heol Dŵr, Caerfyrddin SA31 1PZ Ffôn   01267 237257           

tdefis@cymorth-cristnogol.org       www.cymorthcristnogol.org.uk                                  

 

Mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda phobl dlotaf y byd mewn dros 50 gwlad, waeth beth fo’u hil na’u crefydd. Awn i’r afael achanlyniadau tlodi ac anghyfiawnder. Rydym yn rhan o ACT International, y rhwydwaith cymorth eciwmenaidd.

Rhif elusen gofrestredig y DG 1105851. Mae Cymorth Cristnogol yn gwmni cyfyngedig trwy warrant ac wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru, yn 35 Lower Marsh, Llundain. SE1 7RL, DG, rhif 5171525.