Geiriadur Cymraeg Newydd

Geiriadur

Fyddwch chi byth yn brin o eiriau eto…!

Faint ohonon ni sy’n cael trafferth dod o hyd i’r union air iawn…? Wel, na phoener o hyn ymlaen, oherwydd y mae

Geiriadur Cymraeg Gomer gan y tad a’r mab, D. Geraint Lewis a Nudd Lewis, yn dod i’n hachub ni! Mae’r gyfrol yn cynnwys amrywiaeth o eiriau o rai newydd sbon fel ‘hunlun’ (selfie), ‘blogiwr’ (blogger), ‘liposugnedd’ (liposuction) a ‘cwsmereiddio’ (customize) i hen eiriau fel ‘trontol’ (am ddolen cwpan) a ‘cunnog’ (hen air am fwced pren i gario llaeth). Ein hoff air ni yma yn Gomer yw ‘teisen ffenestr’ am deisen Battenberg ac oeddech chi’n gwybod mai ‘siop ymdopi’ yw DIY shop? Y geiriadur hwn yw’r union beth sydd ei angen arnoch ar gyfer byw yng Nghymru’r 21ain ganrif.

   Dyma’r gyfrol fwyaf erioed i Wasg Gomer ei gwneud yn ei hanes hir (124 o flynyddoedd hyd yma), tipyn o gamp. Meddai Jonathan Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasg Gomer: “Rydym yn hynod falch o gyhoeddi’r geiriadur newydd cyfoes hwn sydd dros 1,300 o dudalennau. Cyflawnodd Geraint Lewis, a’i fab, Nudd, waith arwrol… Bydd hon yn gyfrol werthfawr i bawb sy’n defnyddio neu’n dysgu’r Gymraeg am flynyddoedd lawer ac yn garreg filltir anhepgor i’r iaith”.

   Bu’r geiriadur arbennig hwn yn y broses o gael ei greu am yn agos i 20 mlynedd pan y gofynnodd Mr John Lewis i Geraint Lewis weithio ar greu geriadur Cymraeg newydd. Ers hynny, mae’r broses o gasglu geiriau ynghyd wedi bod yn un hir a hynod ddiddorol. Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a CBAC wedi helpu i ariannu’r cynllun ac wedi bod yn rhan o’r broses gasglu a mireinio geiriau ac ystyron. Defnyddiwyd nifer helaeth o arbenigwyr pwnc a thimau o ddarllenwyr allanol a phrawfddarllewnyr i gael y geiriadur i fwcwl. A dyma ni!

   Y mae Geiriadur Cymraeg Gomer yn cynnwys dros 43,000 o ddiffiniadau a miloedd ar filoedd o eiriau. Fyddwch chi byth yn brin o eiriau eto!

   Bydd y gyfrol ar werth yn eich siop lyfrau leol am £35 neu oddi wrth wefan Gomer www.gomer.co.uk