Gwynfor Dafydd yn ennill y Gadair

Gwynfor Dafydd, o Donyrefail, sydd wedi ennill cadair Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016.GwynforY Gadair

Mae’r gadair yn cael ei chyflwyno i’r Prifardd am gyfansoddi cerdd gaeth neu rydd, heb fod dros 100 llinell ar y testun Cam.

Mae Gwynfor yn ddisgybl yn Ysgol Llanhari, a chyn hynny yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail.  Mae’n gobeithio mynd i Goleg yr Iesu yng Nghaergrawnt y flwyddyn nesaf i astudio Sbaeneg ac Almaeneg ab initio.

Beirniaid y gystadleuaeth oedd Hywel Griffiths a Gwenallt Llwyd Ifan.   Wrth draddodi dywedodd Hywel, “Cymoedd ôl-ddiwydiannol De Cymru yw ei bwnc ac mae’n debyg yr ysbrydolwyd ei waith gan raglen negyddol gan y BBC ynglŷn â’r tlodi yno.  Mae wedi llwyddo i gyfathrebu ei angerdd a’i ddicter yn gelfydd ynddi, mewn arddull ddyfeisgar a dychmygus ac mae’n gwbl deilwng o’r gadair eleni.”

Mae Gwynfor wedi bod yn cystadlu ar lwyfan yr Urdd mewn cystadlaethau unigol a gydag Adran Bro Taf – yn clocsio, dawnsio gwerin a llefaru.

Mae amryw wedi ei ysbrydoli a’i gefnogi dros y blynyddoedd.  Dywedodd, “Hoffwn gydnabod fy nyled i Mererid Hopwood a gyflwynodd y gynghanedd i mi, i Cyril Jones am fy nysgu sut i feistroli’r grefft, i dîm Talwrn Tir Iarll am y profiadau barddol ac yn bennaf i Catrin Rowlands, fy athrawes Gymraeg, am ei chefnogaeth a’i chyngor anffaeledig ers i mi gyrraedd Ysgol Llanhari ym mlwyddyn saith.”