HELFA DRYSOR HEN FFILMIAU

 Mae yna apel arbennig i hen luniau ffilm cartref: y gwisgoedd diddorol, hetiau rhyfeddol, cymeriadau neilltuol a cheir clasurol sy’n croesi’r sgrin yn eich lolfa! Efallai bod y ffilmiau hyn yn dod mas ar gyfer achlysuron teuluol neu ddigwyddiadau cymunedol sbesial, er mwyn i bawb gael chwerthin a chofio. Ond yn awr mae yna gyfle i’w rhannu gyda’r genedl.

   Os oes hen ffilmiau cine difyr gyda chi, yn llechu mewn atig neu’n casglu llwch mewn garej, fe hoffai cwmni teledu Silent Movies o Gaerdydd glywed amdanynt. Mae’r cwmni yn cydweithio hefo Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, sydd yn rhan o Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, ar raglen deledu i BBC Cymru sy’n gobeithio dadorchuddio rhai o drysorau sinematig coll y genedl.

   Ers y 1920au mae pobl Cymru wedi bod yn croniclo hanes eu tylwyth a’u cymuned ar gamerau ffilm Super 8, Standard 8 a 16mm. Maent wedi recordio delweddau a digwyddiadau sy’n nodweddiadol o’n hanes fel Cymry: carnifal pentref, treialon cwn defaid, eisteddfod fro, cymanfa ganu, gwyliau hynod Cymreig ar lan y mor neu ar ben mynydd.

   Mae nifer o’r ffilmiau hyn eisoes wedi eu casglu a’u gwarchod ar gyfer y dyfodol yng nghasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. Mi fedrwch wylio rhai o’r ffilmiau mwyaf difyr o’ch ardal chi, drwy chwilio map ‘Britain on Film’ ar wefan y BFIPlayer: http://player.bfi.org.uk/britain-on-film/map/

   Nod y rhaglen newydd fydd ehangu ar gasgliad presennol yr Archif drwy ddarganfod ffilmiau cartref sydd o bosib heb weld golau dydd ers blynyddoedd. Mae bwriad y cyfarwyddwr Dafydd O’Connor yn un uchelgeisiol: “Rhyngddynt, mae gwneuthurwyr ffilmiau cartref wedi creu cronicl o fywyd y genedl sy’n llawer mwy lliwgar a phersonol na’r hyn y mae unrhyw griw rhaglen ddogfen wedi medru ei recordio. Yn y rhaglen hon ein nod fydd agor archif gudd ugeinfed ganrif y Cymry, gan ddarganfod beth mae’n ddatgelu am ein bywydau oll.’

   Os oes hen ffilm wedi ei chreu gan eich teulu neu gymuned yn eich meddiant fe hoffai’r tîm glywed amdani. Gallwch ebostio movies@silentmovies.media neu adael neges ar y rhif hwn 0370 218 3100.

Duw a wyr pa drysorau gweladwy sy’n dal i aros i gael eu darganfod o gwmpas Cymru!