Huw Llywelyn Davies: Yn ei eiriau ei hun

Bydd portread o’r sylwebydd rygbi Huw Llywelyn Davies yn agor y drws ar ei fywyd yn y blwch sylwebu a thu allan. Darlledir Huw Llywelyn Davies: Y Dyn Tu 脭l i’r Meic ar 糯yl San Steffan ar S4C.Huw Llywelyn Davies

Am fwy na 35 mlynedd, bu ei lais adnabyddus yn rhan annatod o ddarllediadau byw gemau rygbi yn y Gymraeg. Ar 么l sylwebu ar dros 300 o gemau ar y teledu a’r radio, fe benderfynodd roi’r gorau iddi yn gynharach eleni. Yn y rhaglen, bydd yn s么n am ei fagwraeth yn Nyffryn Aman ac am fywyd teuluol. “Cefais fagwraeth hynod o Gymraeg. Roedd fy nhad yn athro a mam yn weithgar iawn yn y capel. Roedd y ddau’n genedlaetholwyr brwd iawn, ac fe etholwyd mam yn aelod Plaid Cymru ar y cyngor – rhywbeth hynod mewn ardal mor ddiwydiannol yn y chwedegau,” meddai’r g诺r o Waun Cae Gurwen, er iddo gael ei eni ym Merthyr Tudful. “Roedd teulu Gareth Edwards yn byw dros y ffordd ac roedd y ddau deulu’n agos iawn. Rygbi a’r capel oedd ein byd ni. A chaffi Cresci’s wrth gwrs.” Ar 么l graddio o Brifysgol Caerdydd, trodd at fyd addysg ac roedd yn bennaeth ar Adran y Gymraeg yng Ngholeg Llanymddyfri o 1969 tan 1974 cyn ymuno 芒 HTV ac yna’r BBC ym 1979. “Gwelais i’r hysbyseb swydd a phenderfynu mynd amdani. Rwy’n credu bod darlledu eisoes yn y gwaed,” meddai. Yno, fe gyflwynodd nifer o raglenni Radio Cymru cyn ffurfio partneriaeth sylwebu fythgofiadwy gyda’r diweddar Ray Gravell. “Roedd Ray yn gymeriad lliwgar a phositif iawn. Roedd ei frwdfrydedd yn heintus,” meddai Huw, sydd bellach yn byw ym Mhentyrch ger Caerdydd.

Fe ddaeth Huw yn un o ddarlledwyr amlycaf S4C, gan gyflwyno cyfresi fel Dechrau Canu Dechrau Canmol a darllediadau blynyddol yr Eisteddfod Genedlaethol. Ond cafodd sawl profedigaeth anodd dros y blynyddoedd, a bydd yn s么n yn agored am y profiadau dirdynnol hyn.

Bydd sawl wyneb cyfarwydd yn cyfrannu at y rhaglen ac yn hel atgofion am eu hamser yng nghwmni Huw, gan gynnwys y darlledwyr Elinor Jones a Gwilym Owen, capten t卯m Cymru Sam Warburton a’r prifardd Ceri Wyn Jones. “Roedd hi’n brofiad rhyfedd iawn i ollwng y meic am y tro olaf,” meddai Huw. “Rhyfeddach fyth oedd mynychu g锚m rygbi gyda fy ngwraig fel aelod o’r dorf am y tro cyntaf mewn deugain mlynedd!” Huw Llywelyn Davies: Y Dyn Tu 么l i’r Meic G诺yl San Steffan 8.25, S4C

Hefyd, dydd Gwener 2 Ionawr 2.00, S4C Gwefan: s4c.co.uk Ar alw: s4c.co.uk/clic Cynhyrchiad BBC Cymru Wales