Lansio Apêl i wireddu gweledigaeth Merêd

Lansio Apêl Newydd i Godi £10k y Flwyddyn a Gwireddu Gweledigaeth Merêd

Dyn y ‘pethe’, dyn y gwerin, ac yn anad dim, dyn y Gymraeg oedd Dr Meredydd Evans – neu Merêd i ni ei gyd-Gymry. Bu’n ymgyrchu’n ddyfal gydol ei oes i sicrhau ffyniant a pharhad y Gymraeg, a nawr, wrth iddynt baratoi i nodi canmlwyddiant ei eni yn 2019, mae ei gyfeillion yn Ymddiriedolaeth William Salesbury wedi cyhoeddi apêl genedlaethol newydd sbon i wireddu ei weledigaeth. 

Bwriad yr Ymddiriedolaeth, ers i Merêd ei sefydlu yn 2012, yw ariannu ysgoloriaethau i gefnogi pobl ifanc i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda’r nod o gefnogi gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd yn cydweithio gyda phrifysgolion Cymru i ehangu ystod y cyrsiau sydd ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r criw nawr am weld gweledigaeth Merêd yn fyw eto, ac wedi datgan bod angen i’r Gronfa gasglu o leiaf £10,000 y flwyddyn dros y pum mlynedd nesaf i sicrhau ysgoloriaethau’r dyfodol. 

Ers sefydlu’r gronfa, mae chwech o Gymry ifanc wedi derbyn cymorth ariannol gan y Gronfa a hynny ar ffurf ysgoloriaethau gwerth £5,000 yr un, dros dair blynedd. Eleni, Heledd Lois Ainsworth, disgybl yn Ysgol Bro Teifi, ac Elen Wyn Jones, disgybl yn Ysgol Dyffryn Ogwen, oedd yr enillwyr.

Mae Heledd ar fin astudio’r Gyfraith a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn edrych ymlaen i ddefnyddio canran o’i hysgoloriaeth i “ymchwilio’r defnydd o ieithoedd lleiafrifol ym meysydd y gyfraith”. Bwriad Elen yw mynd i Brifysgol Bangor i astudio Cerddoriaeth ym mis Medi. Dywedodd mai “braint” oedd derbyn Ysgoloriaeth William Salesbury ac y byddai “o fudd mawr” iddi.

Wrth lansio’r apêl ar faes yr Eisteddfod yng Nghaerdydd, dyweddodd Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Dr Gwenllian Lansdown Davies: “Nid oedd llaesu dwylo yn perthyn i Merêd. Dyma ein cyfle ni nawr i gerdded yn ôl ei droed ac ymuno yn yr ymdrech i gefnogi addysg gyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg – o’r cylch meithrin i’r brifysgol.”

Os hoffech ymuno yn yr ymdrech, gallwch gyfrannu heddiw mewn sawl ffordd:

  • rhoi swm o arian trwy siec, cerdyn, daliad ar-lein neu orchymyn banc
  • gorchymyn ad-daliad o’ch treth lle bo’n bosib (Rhodd Gymorth)
  • trefnu gweithgareddau i godi arian
  • gadael rhodd yn eich ewyllys i’r Gronfa, fel y gwnaeth Merêd. 

 

Am fanylion pellach: 

Ebost:ysgrifennydd@cronfasalesbury.org

Gwefan:www.cronfasalesbury.org 

Cyfeiriad:d/o y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y Llwyfan, Caerfyrddin, SA31 3EP