Lleisiau’r beirdd yn Llefaru Eto

Carwn dynnu eich sylw at Gryno-Ddisg eitha gwahanol a fydd yn cael ei chyhoeddi y mis hwn. Ei henw yw “Lleisiau’r beirdd yn Llefaru Eto”, sef casgliad o feirdd Cymraeg yn darllen rhai o’u cerddi gorau. Mae’r beirdd i gyd ysywaeth wedi’n gadael, felly mae hon yn drysorfa unigryw o leisiau’r gorffennol (pell ac agos) yn llefaru wrthym heddiw. Mae’n dechrau gyda’r unig recordiad sy’n bodoli o Syr John Morris-Jones yn darllen darn o gywydd Goronwy Owen, a recordiwyd ar silindr. Mae’r gweddill, o Cynan i Gerallt Lloyd Owen, o’r bardd o Ryd-ddu i Iwan Llwyd, ac o Waldo i Dic Jones, yn darllen eu cerddi eu hunain. 40 o ddarnau i gyd.

Os ydych am archebu copi o’r CD newydd, gyrrwch siec am £12.98 i SAIN, LLANDWROG, CAERNARFON LL54 5TG, neu ffoniwch 01286.831111 gyda’r archeb, ac os nodwch enw eich papur bro, bydd Sain yn anfon cyfraniad o bunt i’r papur am bob copi a werthir. Bydd “Yn Llefaru Eto” hefyd ar gael yn y siopau Cymraeg.

Dr. Gwyn Thomas oedd yr ymgynghorydd ar y casgliad hwn, ac wrth inni sylweddoli mor brin yw ein harchif genedlaethol o leisiau’n beirdd, mae Sain wedi dechrau ar raglen o recordio beirdd cyfoes yn darllen eu gwaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Yn gywir,

Dafydd Iwan.