Llety Arall Caernarfon

Llety Arall yn cynnig ystafelloedd chwaethus yng Nghaernarfon

 

Efallai eich bod wedi clywed sôn am fenter gymunedol Llety Arall yng Nghaernarfon, ac ymgyrch y gymuned i brynu adeilad a’i drawsnewid i fod yn llety i ymwelwyr.

 

Bellach, mae’r ystafelloedd ar agor ac mae Llety Arall Cyf yn barod i groesawu ymwelwyr o bedwar ban byd i dref Caernarfon.

 

Lleolir Llety Arall ar Stryd y Plas, nid nepell o’r Maes a Chastell Caernarfon, ac mae’r llety’n darparu amrywiaeth o ystafelloedd ar gyfer grwpiau, teuluoedd, oedolion, cyplau ac unigolion.

 

Mae’r ystafelloedd yn werth eu gweld ac wedi eu haddurno’n chwaethus gan ddefnyddio cyflenwyr a chrefftwyr lleol. Cewch olygfeydd godidog hefyd o’r castell o’r ystafelloedd blaen ac o Eryri a hen furiau’r castell o’r ystafelloedd cefn. Ar y llawr gwaelod mae ystafell â mynediad cadair olwyn, a chegin at ddefnydd preswylwyr.

 

Meddai Menna Machreth, sy’n wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, ac yn ysgifennydd ar gwmni Llety Arall:

“Hoffem eich gwahodd i ddod i aros yn Llety Arall a mwynhau popeth sydd gan Gaernarfon a’r ardal i’w gynnig. Cewch olwg unigryw ar ein hiaith, diwylliant a’n treftadaeth leol ac aros yng nghanol bwrlwm tref Caernarfon a gweld bod mwy i’r dref na’r castell! Ydych chi’n gwybod am grŵp o bobl fyddai â diddordeb i ymweld â Chaernarfon? Mae gennym becyn ar gyfer ysgolion a grwpiau dysgwyr, a byddem yn awyddus i groesawu unrhyw grŵp fyddai’n hoffi ymweld â’r dref a darganfod drostyn nhw’i hunain y diwylliant a’r dreftadaeth leol.”

 

Yn ôl nifer, Caernarfon yw prif ddinas ddiwylliannol Cymru. Mae ‘na rywbeth arbennig am y cyfuniad o bobl, y tirwedd, hanes a threftadaeth sy’n denu pobl nôl dro ar ôl tro. Ac fe gaiff holl amrywiaeth Caernarfon ei chlymu ynghyd gan rywbeth hollol unigryw – yr iaith Gymraeg. Nod Llety Arall yw denu pobl sydd eisiau profiad o’r Gymraeg; e.e., dysgwyr y Gymraeg sydd eisiau ymarfer eu Cymraeg, teuluoedd dwyieithog, teithiau grŵp fel ysgolion a grwpiau dysgwyr, neu bobl sydd â diddordeb yn yr iaith a’i diwylliant. Ac wrth gwrs, y rheini ohonom sydd eisiau dôs dda o Gymraeg yn ein clustiau! Criw o ddysgwyr y Gymraeg o Went oedd y grŵp cyntaf i aros yn Llety Arall ym Mehefin 2019 ac fe gafon nhw amser arbennig iawn a chael eu trochi yn y Gymraeg.

 

Nid oes amheuaeth bod aros yn Llety Arall yn gwneud mwy o ddaioni i’r ardal nac aros mewn gwestai cadwyn, yn ôl Menna Machreth: “Mae nifer o westai cadwyn yng Nghaernarfon, ond rydym yn annog pobl i gefnogi’r economi sylfaenol yma drwy aros yn Llety Arall – ac mae ein prisiau’n gystadleuol iawn. Ceisiwn fod yn amgylcheddol glên ym mhob peth a wnawn gan gynnwys ailddefnyddio deunydd, defnyddio cyflenwyr a chrefftwyr lleol ac rydym yn gobeithio cael paneli solar ar y to yn fuan iawn.”

 

Gall unigolyn sy’n barod i rannu ystafell gael gwely am £25 y noson, tra bod ystafelloedd dwbwl i ddau yn £75; pe bai grŵp eisiau aros rydym yn cynnig gostyngiad o 25%.

 

Eisiau gweld mwy? Ewch i wefan Llety Arall i weld yr ystafelloedd ac archebu: www.lletyarall.org neu am fwy o wybodaeth neu sgwrs gyrrwch ebost at post@lletyarall.org neu ffonio 01286 662907.