Llond hosan o Straeon Nadolig

Gall swyn ac ysbryd y Nadolig gyffroi a hudo plant ac wrth i’r trimins a chardiau lenwi silffoedd fisoedd o flaen yr ŵyl, mae yna ddisgwylgarwch mawr iawn. Yn ôl un arolwg diweddar a wnaed gan gadwyn o siopau archfarchnad, dywedwyd i’r rhiant cyffredin wario £312 ar gyfartaledd ar anrhegion Nadolig i bob plentyn. Meddai’r wefan www.parentdish.co.uk, “Os ydy plant bach yn cael cymaint mor ifanc, beth fyddan nhw’n ei ddisgwyl yn 18 oed?  Ferrari?” Un anrheg sy’n dal ei dir ac yn werth bob ceiniog yw llyfr, adloniant parod unrhyw amser ac unrhyw le a does dim angen batris, trydan na bandeang.  Am £12.99, gall plant a’u rhieni ymgolli’n llwyr yn naws y Nadolig mewn cyfrol newydd hardd, Hosan Nadolig, a gyhoeddir gan Wasg Gomer.

Hosan Y NadoligDyma drysor o lyfr gyda phob un o’r pymtheg stori’n gysylltiedig â’r Nadolig.  Mae yma straeon am Siôn Corn ac am fugeiliaid, am angylion ac anrhegion, am bwdinau a choed Nadolig, am robin goch ac Iesu Grist.  Dyma gasgliad difyr dros ben, gyda nifer o’r ffefrynnau wedi eu casglu ynghyd.  O blith y straeon mae Noswyl Nadolig Rhys gan Elfyn Pritchard, Anrheg Nadolig y Wiwier gan T. Llew Jones, addasiad hyfryd gan Cynthia Saunders Davies o Nadolig Arbennig Papa Panov, stori Dawel Nos gan J. Selwyn Lloyd, Pwdin Nadolig Mistar Medra gan Mair Wynn Hughes a Jôc Iestyn gan yr awdures amryddawn Siân Lewis.  Fel bocs o losin hyfryd adeg y Nadolig, mae yma rywbeth at ddant pawb. 

Cyhoeddwyd y gyfrol am y tro cyntaf yn 1994 a bu galw cyson amdani wedi iddi fynd allan o brint rai blynyddoedd yn ôl.  Braf yw medru rhoi gwisg newydd a deniadol am glasur o gyfrol Nadoligaidd.

Manylion Cyhoeddi

Hosan Nadolig

9781848518674

Gol. Glenys Howells

Lluniau Brett Breckon

£12.99

Ar gael yn eich siop lyfrau leol neu ar www.gwales.com