Mae angen eich Cymraeg arnom!

Gall siaradwyr Cymraeg ym mhob man gyfrannu at adnodd iaith cenedlaethol drwy ddefnyddio ap newydd Mae’r gwaith i gasglu’r geiriau a’r ymadroddion y mae siaradwyr Cymraeg yn eu defnyddio o ddydd i ddydd ar fin cychwyn wrth i ap arbennig gael ei lansio. Bydd modd i siaradwyr Cymraeg o bob cefndir recordio eu sgyrsiau i fod yn rhan o brosiect Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.

Nod y prosiect yw datblygu’r casgliad cyntaf erioed ar raddfa fawr o eiriau Cymraeg sy’n cynrychioli’r holl amrywiaeth o iaith fel y mae pobl ar lawr gwlad yn ei defnyddio, gan gynnwys Cymraeg ffurfiol a thafodieithoedd rhanbarthol. Mae’r prosiect wedi’i arwain gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd ac mae’n dod ag amrywiaeth o gydweithwyr at ei gilydd, gan gynnwys prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor a Chaerhirfryn; Llywodraeth Cymru; Cynulliad Cenedlaethol Cymru; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; CBAC; Cymraeg i Oedolion; S4C; BBC; y Lolfa; SaySomethingin.com a Geiriadur y Gymraeg.

Mae rhyddhau’r ap yn garreg filltir sylweddol ym mhrosiect CorCenCC. Mae’r prosiect yn bwysig nid yn unig ar gyfer y Gymraeg, ond hefyd fel modd o recordio a churadu ieithoedd eraill ledled y byd sydd â diffyg adnoddau. Dr Dawn Knight, o’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Prifysgol Caerdydd, yw arweinydd y prosiect: “Mae prosiect CorCenCC yn chwyldroadol am ei fod yn cael ei yrru gan y gymuned, gan ddefnyddio technolegau symudol a digidol er mwyn galluogi’r cyhoedd i gydweithio arno,” meddai. “Ychydig iawn o enghreifftiau sydd o ddefnyddio data corpws sydd wedi’i dorfoli, ac mae hwn yn gyfeiriad newydd i gyd-fynd â dulliau mwy traddodiadol o gasglu data ieithyddol, felly yn hynny o beth mae’r ap ymhlith y cyntaf o’i fath!”

Ychwanegodd Steve Morris, o Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe: “Mae’r ap yn ei wneud yn hawdd i siaradwyr Cymraeg gymryd rhan yn y prosiect, ac yn galluogi pobl i gyfrannu pryd bynnag mae’n gyfleus iddyn nhw, sy’n ei wneud yn brofiad mwy personol o lawer. Drwy wneud siaradwyr eu hunain yn gyfrifol am gyfrannu at y corpws, gallant fod yn sicr mai’r recordiadau mor naturiol a chywir â phosibl o Gymraeg bob dydd fydd yn cael eu rhannu.” Mae CorCenCC wedi’i gefnogi gan lysgenhadon blaenllaw gan gynnwys y bardd Damian Walford Davies, y gerddores a chyflwynydd radio a theledu Cerys Matthews, y cyflwynydd, ymchwilydd a chynhyrchydd teledu Nia Parry, a’r dyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens.

Dywedodd Nia Parry: “Bydd CorCenCC yn llywio dyfodol addysgu a dysgu’r iaith Gymraeg. Bydd yn gyfle i werthfawrogi ein hiaith hynafol, farddonol, gyfoethog, arbennig ni. Byddwn yn dysgu am sut rydym yn strwythuro brawddegau, treigladau, geiriau sathredig, ieithwedd negeseuon testun ac ebost, sut rydym yn talfyrru, beth a ddywedwn a sut rydym yn ei ddweud. “Bydd y corpws yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac yn fy marn i mae’r gwaith hwn o bwysigrwydd hanesyddol eithriadol, nid yn unig yn ieithyddol ond fel cofnod o’n hanfod ni fel cenedl a’n lle yn y byd.” Ychwanegodd Nigel Owens: “Bydd y corpws yn cynnwys enghreifftiau o’r Gymraeg ym mhob parth: o’r cae rygbi a’r stiwdio deledu, i areithiau gwleidyddol a gwerslyfrau academaidd. Bydd gan ddysgwyr, geiriadurwyr, darlledwyr a phob un ohonom sy’n defnyddio’r iaith bob dydd gofnod o’r iaith fel y’i defnyddir o ddydd i ddydd. Bydd hyn yn ein helpu i weld sut mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio yn y Gymru sydd ohoni. ” Mae’r ap yn rhad ac am ddim a gallwch ei lawrlwytho o siop iTunes nawr [http://itunes.apple.com/gb/app/ap-torfoli-corcencc/id1199426082]. Bydd fersiwn Android o’r ap ar gael cyn bo hir.

Ariennir CorCenCC gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. DIWEDD Mae rhagor o wybodaeth am CorCenCC ar gael yn: http://sites.cardiff.ac.uk/corcencc/?lang=cy Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â Victoria Dando, Uwch Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Caerdydd, FfĂ´n: 02920 879074; Ebost, DandoV2@caerdydd.ac.uk Mae Prifysgol Caerdydd yn cael ei chydnabod yn asesiadau annibynnol y llywodraeth fel un o brifysgolion blaenllaw Prydain o ran addysgu ac ymchwil, ac mae’n aelod o Grŵp Russell, sef prifysgolion y Deyrnas Unedig sy’n rhoi’r pwyslais mwyaf ar waith ymchwil.

Roedd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 yn rhoi’r Brifysgol yn y 5ed safle trwy’r DU gyfan ar gyfer rhagoriaeth ymchwil. Ymhlith ei staff academaidd mae dau sydd wedi ennill Gwobr Nobel, gan gynnwys enillydd Gwobr Nobel mewn Meddygaeth 2007 a Changhellor y Brifysgol, yr Athro Syr Martin Evans. Sefydlwyd y Brifysgol gan Siarter Frenhinol ym 1883, a heddiw mae’n cyfuno cyfleusterau modern trawiadol ag agwedd ddeinamig at addysgu ac ymchwil.

Mae arbenigedd eang y Brifysgol yn cynnwys: Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol; Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd; a Choleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, ynghyd ag ymrwymiad hirdymor i ddysgu gydol oes. Mae Sefydliadau Ymchwil blaenllaw Caerdydd yn cynnig dulliau newydd radical o fynd i’r afael â phroblemau byd-eang pwysig. www.caerdydd.ac.uk