PARTI PONTY 2016

Parti Ponty 2016Gŵyl Gymraeg i bawb

Yn dilyn llwyddiant Parti Ponty llynedd lle croesawyd dros 5000 o ymwelwyr, byddwch yn falch iawn i glywed fod yr ŵyl undydd enwog hon yn ôl eleni. Bydd yn digwydd ar ddydd Sadwrn yr 16eg o Orffennaf ym Mharc Ynysangharad rhwng 10yb a 7yp.

Mae’r ŵyl wedi ei threfnu gan yr elusen Gymraeg, Menter Iaith Rhondda Cynon Taf sydd â’u Swyddfa ym Mhontypridd. Bydd Parti Ponty yn rhoi llwyfan i gymysgedd o berfformwyr a grŵpiau sy’n gweithio’n Gymraeg. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gasglu gwybodaeth am lawer o wasanaethau a mudiadau Cymraeg sy’n gweithredu yn yr ardal. Mae’r Fenter wedi trefnu’r digwyddiad gydag ymrwymiad a chydweithrediad eu partneriaid, felly bydd pawb yno!

Mae Parti Ponty wedi tyfu ac yn datblygu wrth i’r Fenter ymateb i’ch adborth a hyn wrth gwrs yn holl bwysig gan mai eich Gŵyl Gymraeg chi yw hwn.

Dywed Einir Sion, Prif Weithredwraig Menter Iaith RhCT,

“Mae’n bleser cyhoeddi bod Parti Ponty yn ôl eto eleni. Profodd lwyddiant ysgubol yr ŵyl llynedd bod lle pwysig i Parti Ponty yng nghalendr blynyddol y Sir. Rydym wedi ymateb i adborth a gasglwyd llynedd wrth ei datblygu felly bydd mwy o weithgareddau i blant a phobl ifanc yn ogystal a mwy o stondinau ac oriau rhedeg hirach. Rŷ’n ni’n disgwyl ymlaen i’ch gweld chi yno yn profi gwir Gymreictod yr ardal yn y diwrnod llawn hwn”.

Parti Ponty SiwpyrtedEleni bydd yn ddiwrnod teuluol a chymunedol bendigedig gyda llawer o stondinau, cerddoriaeth a gweithdai. Mae Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf a Loteri Treftadaeth yn cefnogi’r Ŵyl, hyrwyddwyr ifanc yn trefnu’r ‘Lolfa’, Addysg Oedolion a Chymraeg I Oedolion yn trefnu ‘Y Bont’ yn ogystal â llu o weithdai a gweithgareddau.

Yn ogystal â’r tipis cyfarwydd:

‘Y Cwtsh’, tipi plant ifanc a theuluoedd

‘Y Lolfa’, tipi ieuenctid gyda bandiau a DJ’s ardderchog

‘Y Bont’, pabell yn addas i oedolion a dysgwyr gyda sgyrsiau difyr a pherfformiadau amrywiol. Bydd mwy o stondinau arbennig, llefydd i ymlacio ac ardaloedd newydd sbon!

Os ydych chi’n wyddonwr ifanc brwdfrydig ac yn mwynhau’r Wyddonle yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn byddwch wrth eich bodd yn ein hardal gwyddoniaeth ardderchog a’r gweithgareddau hyfryd i gyd wedi ei selio ar thema treftadaeth diwydiannol yr ardal.

I bawb sy’n greadigol bydd yr ardal creu lle gewch chi gyfle i ddylunio, peintio, lliwio a gludo o fore tan hwyr. Thema’r gweithgareddau celf a chrefft bydd ‘art deco’ i gydfynd gyda’r chyfnod adeiladwyd y Lido ym Mhontypridd. Bydd cyfle i arddangos y gwaith arbennig ar ddiwedd y dydd pan fydd parêd lliwgar i’r plant.

Bydd corau ysgolion lleol yn perfformio trwy’r dydd yng nghanol y dref ac yn yr ŵyl ar y llwyfan perfformio newydd yn y bandstand.

I’r ymwelwyr mwya’ bywiog bydd sleid bownsio!

Os ydych chi dal yn egniol ar ôl hyn i gyd ac awydd i ddawnsio trwy’r nos bydd noson o adloniant yng Nghlwb y Bont a’r Muni Newydd tan yn hwyr.

Mae’r cyffro yn adeiladu yn y Fenter ac ar hyd y Sir gyda ysgolion wrthi yn barod yn cymryd rhan mewn gweithdai cerddoriaeth a phawb yn mwynhau gweithdai cymunedol sydd i gyd yn arwain i fyny at y diwrnod mawr.