Pen-blwydd Hapus 40 Pobol y Cwm

 

pobol y cwmMae’n anodd cofio bywyd yng Nghymru heb yr opera sebon eiconig, Pobol y Cwm, ac eleni mae’n 40 oed!  Nos Fercher, 16 Hydref, 1974 am 7.10 yr hwyr darlledwyd rhaglen gynta’r gyfres ac mae’n rhyfeddod ei bod yn dal i’n diddanu yn 2014.  I gyd-fynd â dathlu’r deugain, cyhoeddwyd llyfr arbennig gan Wasg Gomer, Pobol y Cwm Pen-blwydd Hapus 40, gan Lowri Haf Cooke, un o ffans mawr y gyfres.

 

Meddai Lowri

“ Pan o’n i’n i tua wyth oed, byddai fy chwiorydd iau a minnau’n mynd i’r gwely’n eitha cynnar, ond byddai Mam yn galw’n dawel arna i i ddod nôl lawr llawr i wylio Pobol y Cwm… Bu clecs a helyntion cythryblus trigolion Cwmderi yn gefndir i fy ieuenctid ac mae sgandalu’r Cwm wedi fy syfrdanu dros y degawdau, a dyna sy’n dal i fy nenu i wylio hyd heddiw.  Dathliad o’r gyfres fel y mae hi heddiw yw’r gyfrol, a’r cymeriadau presennol yn borth i lwybrau’r cof.”

 

Bu’r ffotograffydd Emyr Young, yn ogystal â Lowri, yn ymweld â chriw Pobol y Cwm yn y stiwdio ym Mhorth Teigr, Bae Caerdydd dros rai misoedd er mwyn hel y wybodaeth a’r lluniau niferus a ffrwyth y cyfan yw’r llyfr deniadol a difyr Pobol y Cwm Pen-blwydd Hapus 40. Cawn gwrdd â thrigolion presennol Cwmderi a’r actorion sy’n eu portreadu nhw, yn ogystal â chwrdd â rhai o gymeriadau mwyaf cyfarwydd a phoblogaidd y Cwm dros y degawdau.

 

Mae gan bawb eu hatgofion am helyntion a chymeriadau’r Cwm, yn cynnwys actorion presennol y gyfres.  Meddai Llinor ap Gwynedd (Gwyneth) “O’dd y criw ffrindie coleg i gyd yn gwylio hi yn y lolfa – o’n i’n dwlu ar gymeriad Llew.” Yn ôl Mark Flanagan (Jinx) “ O’n ni fel teulu’n gwylio’r gyfres o hyd, bob nos; roedd o’n rhan o’n routine ni.  O’n i’n licio Mark.” 

 

Pennaeth drama’r BBC ddeugain mlynedd nôl, John Hefin, a’r dramodydd Gwenlyn Parry gafodd y syniad gwych i fynd ati i lunio opera sebon Gymraeg.  Meddai Gareth Lewis (Meic Pierce) “Dw i’n meddwl bod y gyfres wedi uno’r genedl mewn llawer ffordd: yn ieithyddol yn un peth, nid yn unig y Cymry Cymraeg ond y di-Gymraeg, a’r rhai sy’n dysgu’r iaith.  Yn ôl Emyr Wyn (Dai) “ Mae’n feicrocosm o Gymru…Y’n ni i gyd yn dod â gwahanol bethe mewn i’r gyfres, ac ma popeth yn mynd i’r pair.  A dyna pam ma’r gyfres wedi bod mor boblogaidd.  Dyw pobl bellach, ar wahân i ambell adolygydd, ddim yn becso faint o gogs sy ‘na neu acenion o bobman yn ne Cymru.  Dyw e ddim yn bwysig.”  Mae Jeremi Cockram (Siôn) yn credu bod y gyfres yn chwarae rhan bwysig yn niwylliant Cymru.  Meddai “Alla i ddim meddwl am unrhyw beth arall, heblaw canu’r anthem cyn gêm ryngwladol yn Stadiwm y Mileniwm falle, sy’n ein huno ni fel cenedl – siaradwyr y ddwy iaith – ac sy’n neud i bobl deimlo’n fwy Cymreig. Yn ôl Jonathan Nefydd (Colin) “ Ma Pobol y Cwm yn sefydliad – ma fe’n rhan annatod o’n DNA ni fel Cymry.”

 

Nid lleisiau a lluniau’r actorion yn unig sydd yn y llyfr oherwydd cawn gip ar waith Babs Roberts ac Eirioes Elfyn yn yr adran goluro a’u sylwadau am y cymeriadau. Wrth son am Maria Pride (Debbie) meddai Babs “ Ma’r colur a’r dillad a’r bling yn cyfleu pa fath o hwylie sy arni.  Os gweli di lai ohono, ti’n gwbod bod hi’n eitha isel, ac os gweli di lot ohono, ma hi’n teimlo on top form. Yn yr adran wisgoedd mae pob dilledyn, pob darn o emwaith, pob het, esgid, cot, sgarff a maneg yn cael eu cadw.  Mae’r tîm yn trafod delwedd pob cymeriad newydd ac unrhyw newidiadau i’r cymeriadau eraill gyda’r cynhyrchydd cyn dechrau cynllunio gwisgoedd ar eu cyfer. Meddai Bethan Charles, yr uwch-arolygydd gwisgoedd “Mae’r actorion yn mynd yn hoff o’u gwisgoedd yn aml iawn, ac maen nhw’n ofergoelus, felly os oes rhywbeth yn digwydd i’r dilledyn, maen nhw’n gallu ypsetio. Mae lot fawr o wisgoedd gan rai ohonyn nhw…wedes i wrth Emily Tucker (Sioned) fod ei wardrob hi’n llenwi hanner hyd y storfa!”

 

“Mewn opera sebon mae angen ychydig o dywyllwch ac eitha lot o ysgafnder….ma’n rhaid bod yn ofalus iawn wrth droedio’r ffin rhwng y ddau beth” yn ôl Richard Lynch (Garry).  I gadw’r gyfres yn gyfoes a pherthnasol ymdrinnir â nifer o bynciau anodd bywyd, profiadau y gall gwylwyr uniaethu â nhw. Priodasau’n chwalu a phroblemau teuluol, marwolaeth yn y crud, alcoholiaeth, llofruddiaeth, rhywioldeb, salwch fel canser neu OCD – dyna rai yn unig i chi.  Nid yw’r gyfres yn ofn mentro ac meddai Terry Dyddgen Jones “Fel cynhyrchydd ar y pryd, ro’n i’n eithriadol o falch o gyflwyno stori canser y ceilliau Hywel, a’r modd y deliwyd â hynny.  Roedd hyn cyn i unrhyw un arall wneud y stori mewn opera sebon, ac ro’n i’n hapus â’r ffordd ymatebodd Andrew Teilo i ddatblygiad y stori, a Hywel fel tase fe’n cuddio rhywbeth oddi wrth Cassie a’r gynulleidfa.”

 

O ddyddiau Magi Post, Harri Parri a chartref Brynawelon i Reg a Megan a helyntion tafarn y Deri at drafferthion y Joneses a’r Monks a fferm Penrhewl – dyma daith deugain mlynedd ac mae’r daith yn parhau.  Cyn dyddiau S4C, sicrhaodd Pobol y Cwm ei le fel conglfaen gwylio’r Cymry gan ddenu miloedd o wylwyr bob nos.  Mae’n drysor cenedlaethol felly dathlwch y pen-blwydd gyda’r llyfr!