Cyfle i Siarad
gan Heini Gruffudd
Os ydych chi am ddysgu Cymraeg neu am ymarfer mwy ar yr iaith, dyma'r llyfr perffaith i ddod i
wybod lle a sut i gwrdd â dysgwyr a Chymry Cymraeg eraill.
Mewn sawl ardal, gan nad yw'r Gymraeg yn brif iaith y gymdeithas, mae'n rhy hawdd troi i'r
Saesneg a cholli cysylltiad â Chymry a dysgwyr eraill. Mae'r gyfrol hon yn eich annog a'ch arwain
i lefydd lle mae Cymry Cymraeg yn cymdeithasu a siarad yr iaith yn naturiol. Mae'n rhoi cyflwyniad
i glybiau, tafarnau a chymdeithasau Cymraeg lle bydd Cymry eraill yn frwd i'ch helpu i ddysgu.
Cewch gyflwyniad i wahanol gymdeithasau Cymraeg mewn gwahanol ardaloedd, megis
Abertawe, Caerdydd, a Sir Benfro. Ar ôl darllen y gyfrol hon bydd dim esgus gennych dros beidio
mwynhau eich hun wrth ddysgu'r iaith. Mae Heini Gruffudd, gyda'i flynyddoedd o brofiad yn
hyfforddi dysgwyr, yn amlwg yn adnabod y llefydd gorau i gael hwyl yng Nghymru, ac o ddilyn ei
gyfarwyddiadau o ran yr iaith a chymdeithasu, rydych yn siwr o gael amser da. Bydd y gyfrol hon
yn hynod ddefnyddiol i ddysgwyr o bob oed gydag amrywiaeth eang o gymdeithasau i'r hen a'r ifanc,
ac mae'n llawn syniadau am weithgareddau a fydd yn rhoi sialens a her i unrhywun. Yng nghefn y
llyfr mae cyfeiriad at gorau Cymraeg a chyfeiriadau Papurau Bro Cymraeg - rhai yn unig o'r
cysylltiadau y gellwch eu gwneud lle bynnag yr ydych yn byw.
Cyfres Hwylio Mlaen - 10
Y Lolfa £3.95
SGWRS I'R DYSGWYR
YN ÔL YN Y CAFFI
Melanie: Bore da Meinwen. Mae'n ddrwg geni nad ydw i wedi bod i mewn i dy weld, ond ryden
ni wedi bod i ffwrdd am wythnos dros Galan Mai yn Nhí Ddewi.
Meinwen: Dyna braf. Te a chacen gri fel arfer?
Melanie: Ie, os gweli di'n dda. Roedden ni yn aros mewn carafan. Carafan i 4 oedd hi ond roedd
hi yn lan ac yn gyfforddus. Gwnaethom ni lawer o ffrindiau a roedd y tywydd yn braf
ac yn heulog bob dydd.
Meinwen: Aethoch chi i weld yr Eglwys Gadeiriol?
Melanie: Do. Mae'n anodd credu sut y gwnaethon nhw ei hadeiladu ganrifoedd yn ôl heb help
peirianwaith fodern. Mae'n rhaid eu bod wedi cymryd blynyddoedd i'w gorffen.
Meinwen: Wi'n meddwl weithiau pan fod Eglwys mor hardd a phwysig wedi cael ei hadeiadu
mewn rhan mor anghysbell o Gymru. Beth arall weloch chi?
Melanie: Fe dreulion ni y rhan fwyaf o'r amser ar y traeth. Gwnaeth Ben ffrindiau newydd, ac fe
gawson nhw amser da yn adeiladu cestyll tywod, yn nofio yn y môr ac yn bwyta hufen
iâ. Mwynheuais i fy hun yn siopa ac yn ymlacio yn yr haul - dyna sut ges i'r lliw yma.
Meinwen: Mae gen ti liw da. Beth oedd y gër yn ei wneud yn y cyfamser?
Melanie: Treuliodd y rhan fwyaf o'r amser yn y dafarn, neu'n cysgu! Mae'n dweud ei fod angen
ymlacio gan ei fod yn gweithio mor galed. Wyt ti'n cael cyfle i fynd i ffwrdd weithiau?
Meinwen: Ydw. Wi fel arfer yn cael pythefnos ar ddechrau Medi, a bob yn ail flwyddyn wi'n cael
wythnos i fynd i'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae hi ym Mhencoed eleni.
Melanie: Pwy sy'n gofalu am y caffi i ti?
Meinwen: Roedd Mam yn arfer gwneud ond mae hi'n dweud ei bod yn mynd yn rhy hen nawr,
felly mae'n siwr y bydd rhaid i fi gau am wythnos eleni.
Melanie: Beth am i fi ofalu amdano fe i ti, byddai'n hwyl.
Meinwen: Byddai'n rhaid i fi feddwl am y peth. Wyt ti wedi gwneud arlwyo o'r blaen?
Melanie: Wel, naddo a dweud y gwir, ond gallaf baratoi'r pethau sylfaenol - popeth sydd ar dy
fwydlen di.
Meinwen: Fyddi di ddim yn mynd i'r Eisteddfod?
Melanie: Gallaf fynd ar y dydd Sul. Fyddwn i ddim yn mynd bob dydd beth bynnag.
Meinwen: Dim ond gwasanaeth boreol a Chymanfa Ganu neu gyngerdd sy'n digwydd yna ar y Sul
- does dim stondinau ar agor.
Melanie: O! Beth yw oriau'r caffi?
Meinwen: Wi'n agor am wyth ac yn cau am chwech. Mae'n brysur yma dros ginio.
Melanie: Wi'n siwr y gallaf ddod i ben. Beth all fynd o'i le?
Meinwen: Wel. Fe wna i ystyried y peth!
CLWB SIARAD
Croeso i bawb
Nos Lun 15fed o Fehefin yn y Farmer's Arms, 8 o'r gloch.
Dydd Iau, 25ain o Fehefin. Bore Coffi yn Neuadd y Plwyf, Pentre'r Eglwys (ger y Llyfrgell) 10.30
- 11.45a.m.
Nos Lun 29ain o Fehefin. Cwis yng Ngartholwg am 8 o'r gloch. Sgwrs yn y Farmer's Arms wedyn.
Nol i'r dechrau