01443 226386
Ysgol Feithrin Tonyrefail, ennillwyr y Rasus Meithrin ym Mharti Ponty
Y DYFODOL
Dyna ni - parti drosodd am y tro ond mae gwaith y Fenter yn mynd yn ei flaen. Noson Diffiniad
Cymdeithas yr Iaith yn gorffen am hanner nos ac ymarfer drama cwmni'r rascals yn dechrau am
hanner dydd y diwrnod wedyn. Ac ar y dydd Llun? Diwrnod cyntaf ein cwrs hyfforddi staff
cynlluniau gofal plant sy'n cael ei gynnal yng Ngholeg Technegol Pontypridd. Ar y dydd Mawrth ?
Sesiwn arall ar gwrs Busnes y Fenter sy'n cael ei gynnal yn adeilad Partneriaeth Menter Taf-Elai ar
ystâd Trefforest. Ac o fewn pythefnos ? Cynlluniau gofal plant yn agor yn Rhydfelen, Rhydywaun,
Y Cymer a Llanhari. Er y cyffro parhaol mae rhai pethau yn tawelu wrth i glybiau wythnosol y
Fenter ddechrau cau i lawr dros yr Haf.
Er y cyffro hefyd nid yw popeth yn iawn gyda'r Fenter nac ychwaith gyda lle'r Gymraeg yn yr ardal.
Rwyf wedi gorfod cwyno sawl gwaith wrth i adrannau Cyngor Rhondda Cynon Taf anwybyddu eu
cynllun iaith eu hunain. Mae cyrff a sefydliadau eraill yr un mor araf i fabwysiadu defnydd o'r
Gymraeg felly y mae'n bwysig iawn ein bod yn cwyno a gofyn am wasanaeth trwy'r Gymraeg bob
tro. Os nad ydym yn gwneud hyn fydd neb arall ac fe fydd cyfle arall yn mynd i'r gwellt.
Cynhelir cyfarfod cyffredinol y Fenter ar ddechrau'r Hydref ac mae cyfle i bobl newydd ymuno â'r
gwahanol bwyllgorau. Allwch chi wneud yn well ? Ydych chi wedi eich siomi gan ddiffyg
gweithgarwch y Fenter mewn rhyw faes neu gilydd ? Ydych chi'n meddwl y gallai'r Fenter wneud yn
well ? Ydych chi'n meddwl y dylai fod mwy o bethau ar gael yn y Gymraeg ? Ydych chi'n gweld fod
gennych chi gyfraniad o unrhyw fath i wneud at ddyfodol yr iaith yn yr ardal? Ydych chi am gefnogi
eich plant wrth eu hannog i siarad Cymraeg ? Ydych chi wedi dysgu Cymraeg ac am gael cyfle
cyson i ddefnyddio'r iaith ? Rhowch ganiad imi - mae croeso i bawb helpu gyda'r Fenter ac os ydych
chi am gymryd rôl flaengar rwy'n siwr bod modd trefnu hynny hefyd.
GREASE YN GYMRAEG !
Nos Sadwrn 11/7/98 mae perfformiad i'r cyhoedd o sioe newydd Y Rascals sydd yn hynod o amserol
gan fod y ffilm allan unwaith eto. Mae'r ysgolion yn cael ymweld â Neuadd Dowlais ar ddydd Iau 9
& dydd Gwener 10 Gorffennaf i weld y sioe. Deallaf y bydd ysgolion Cymraeg a Saesneg fel ei
gilydd yn manteisio ar waith y cwmni eleni.
CYNLLUNIAU GOFAL -
CHWARAE'R GWYLIAU
Bydd y cynlluniau ar agor fel arfer yn Rhydfelen, Rhydywaun, Llanhari ac Y Cymer o'r 23/7/98 tan
28/8/98 gan gynnig gofal, chwarae a theithiau diwrnod. Braf ydy cael dweud hynny wir i chi.
Brwydr barhaol sydd i ddod o hyd i'r miloedd o bunnau sydd eu hangen er mwyn darparu gofal plant
a chyflogi dros 80 o bobl bob blwyddyn. Braf ydy nodi taw'r Fenter Iaith ydy'r prif ddarparwyr gofal
- mewn unrhyw iaith - yn y cymoedd. Mae'r Gymraeg yn bell ar y blaen yn hyn o beth.
CYNLLUNIAU GOFAL
- AR ÔL YSGOL
Mae'n fwriad o hyd i geisio agor cynlluniau newydd yn Abercynon, Heol y Celyn a Chastellau yn
ystod yr Hydref gan gychwyn hefyd ar waith paratoi yng NGarth Olwg ac Y Dolau. Cawn ni weld.
DIFFYG
CYHOEDDIADAU'R FENTER
Ni fu cylchlythyr cyson gennym yn ddiweddar ac ni fydd Prosbectws'98 yn hyrwyddo holl
weithgareddau Cymraeg sir Rhondda Cynon Taf. Yn syml iawn nid oes arian ar gael i wneud hyn
ac er i ni holi am noddwyr a chefnogwyr priodol nid oes help ar gael ar hyn o bryd. Felly nid oes
cyhoeddiadau.
DIFFYG
GWEITHWYR IEUENCTID
Ni fu swyddog ieuenctid gennym ers rhai misoedd ac felly mae ambell un o'n clybiau wythnosol wedi
gweld diffyg trefn ymarferol a diffyg llwyr o gefnogaeth gweinyddol. Ni fu swyddog gweinyddol
gennym ers saith mis. Mae'r diffyg arian yn torri yn ddwfn ac yn peryglu gwaith y Fenter. Siom ydy
nodi diffyg partneriaid parod eu harian i hyrwyddo'r Gymraeg er bod sawl cwmni preifat wedi
gwneud eu gorau glas drosom yn gyson - mae angen cyllid newydd arnom yn gyflym os nad ydym i
golli'r hyn sydd wedi ennill.
Steffan Webb
Swyddog Datblygu Menter Iaith
Nol i'r dechrau