Ar ôl i mi son yn y rhifyn diwetha or Tafod fod Mrs Elizabeth Copeland ychydig yn well, yn anffodus byr iawn y bu'r gwella. Ar fore cynnar Llun 8fed o Fehefin bu farw yn dawel yn ei chwsg yn naw deg un oed rai wythnosau yn fyr o'i phenblwydd pryd y byddai yn 92 oed. Bu'r gwasanaeth angladdol yn Amlosgfa Coity yn dilyn gwasanaeth teuluol yng Nghapel Gorffwys Rosemount Tonyrefail ar Ddydd Gwener 12fed o Fehefin.
Roedd ei chymar Mr Jo Copeland wedi ei blaenu ers rhai blynyddoedd, yntau yn ër adnabyddus a pharchus yn y gymdogaeth, yn gynghorwr dosbarth ac yn gadeirydd pwyllgor cyllid ar Gyngor Dosbarth Llantrisant a Llanilltud Faerdre a chyfnod byr ar Gyngor Dosbarth Taf Elái cyn ymddeol.
Ganwyd iddynt un ferch yn unig, Ann sydd yn briod â Conway Lang. Mae ganddynt hwy ddwy ferch a bachgen a rhyngddynt bump o orwyron i Mrs Copeland, roedd rhain i gyd yn agos at galon Mrs Elizabeth Copeland.
Roedd wedi treulio dipyn o amser yn yr ysbyty ond wedi dychwelyd i Gartre Pantyseren yn Nhonyrefail ac roedd wedi mwynhau yno yn fawr iawn yn yr amser byr y bu yno, ac yn meddwl y byd or staff, a gair caredig a chlod uchel iddynt.Cydymdeimlad dwys â'r teulu gwag fydd ar ei hôl, ac i ni yng Nghapel Y Ton hefyd yn golled enfawr colli aelod ffyddlon iawn pan oedd yn gallu dod i'r oedfaon.Roedd yn edrych ymlaen i dderbyn y Tafod Elái bob mis, diolch am y cof amdani. Mae un arall o'n ffyddloniaid sef Mrs Iris Richards un o aelodau Ainon cyn i'r achos ddod i ben, hithau wedi cael ei dwyn ar frys i'r ysbyty yn Mhentre'r Eglwys, ond erbyn hyn mae wedi cael ei throsglwyddo i Ysbyty Llwynypia ac mae lawer iawn yn well. Diolch i Mrs Cassy Entwhistle a Miss Marian Llewelyn am gadw mewn cysylltiad â mi. Gobeithio y bydd hi'n dal i wella. Mae ei ffrindiau yn cofio amdani.
MrRichard Williams.
Mae dda clywed fod Mr Richard Williams yn dal i wella a'i fod wedi dod allan or ysbyty ac yn cartrefu gyda'i ferch ieuengaf, Sian Murphy ym Mhentre Meurig yn Mro Morgannwg. Mae yn dod lan i dreulio orig gyda'r corau ryw unwaith yr wythnos,ond ddim digon cryf eto i gymryd at yr awennau.

Meithrin Thomastown.
Ar 30ain o Fehefin bydd plant a rhieni'r Meithrin a Ti A Fi yn mynd ar wibdaith flynyddol i Longleat. Bydd yn gyfle i'r plant i weld â llygaid eu hunain yn dilyn y thema a lluniau maen't wedi bod yn wneud yn ystod y flwyddyn, a'r wybodaeth maent wedi'i gasglu. Bydd 17 o blant bach yn mynd i Ysgol Gymraeg Tonyrefail ag un i ysgol Cwmlai ym Mis Medi. Diolch i Mrs Jan Richards a'i chynorthwywyr am eu gwaith a'u brwdfrydedd. Bydd Ceri, merch Mrs Richards yn mynd i Uganda yn ystod gwyliau'r haf gyda grwp o Ysgol Gyfun Llanhari. Pob hwyl iddi.
Ar y 23ain o Fis Gorffennaf cynhelir y Parti Mawr. Bydd llawer o weithgareddau yn cael eu cynnal yn gystylliedig â'r parti fel Helfa Drysor Noddedig a chastell. Diolch iddynt eto am eu gwaith i hybu'r iaith.
America.
Mae Mrs Beryl Davies a'i ffrind Mrs Sylvia Howells wedi treulio pythefnos yn California ac wedi cael amser da yng nghwmni ffrindiau roeddent wedi cwrdd rai blynyddoedd yn ôl. Maen't wedi teithio dipyn ar y dalaith honno ac wedi ymweld â llefydd eraill tu hwnt i'r ffiniau. Edrychwn ymlaen i weld y sleidiau.