Fe enillodd tîm yr Urdd yn Abercynon y Twrnament Maritime sydd yn cael ei drefnu gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar Mai 31. Hwn oedd y tro cyntaf i'r tîm gystadlu yn y twrnament, felly maent wedi cyflawni camp anhygoel!
Ffurfiwyd y clwb yn Medi '96 dan hyfforddiant Cathryn Morgan. Mae Cathryn yn Chwaraewraig Rhyngwladol i Dîm Merched Cymru ac hefyd yn hyfforddwraig y Tîm Cenedlaethol dan 16. Mae ar fin dechrau swydd fel athrawes Chwaraeon yn Ysgol Y Cymer ym mis Medi. Fe gofrestrodd 39 o dimau yn y gystadleuaeth arbennig yma, sydd wedi ei gynnal yn flynyddol ers 1995 ac fe'i cynhaliwyd dros gyfnod o 4 wythnos. Roedd safon y pêl droed yn uchel iawn ac roedd Mark Aizelwood, sef Swyddog Datblygu Pêl Droed ardal Rhondda Cynon Taf yn hapus iawn gyda thalentau a sgiliau ein tîm ni. Mae'n awyddus iawn i rai o'n chwaraewyr i fynd ar treials pêl droed ar lefel sirol. Felly, mewn ychydig o flynyddoedd efallai bydd rhai o chwaraewyr yr Urdd yn chwarae i Manceinion Unedig neu Arsenal! Pwy a wyr?
TRIP I GANOLFAN SGLEFRIO IÂ CAERDYDD GYDA CRIW 'PAM FI DUW?'
Ar Mehefin 17 fe aeth dros 50 o blant o adrannau'r Urdd yn y cymoedd i'r ganolfan sglefrio yng Nghaerdydd. Fe aeth criw cast 'Pam Fi Duw?' i'r ganolfan hefyd sef Spikey (Christopher Glanville), Spans (Craig Spanswick) ac Elins (Andrew Llywelyn). Roedd e'n braf i weld y plant o wahanol adrannau'r ardal yn cymysgu a mwynhau eu hunain. Yn ogystal a hynny, roedd yn gret i weld Spikey, Spans ac Elins yn cefnogi ac yn hyrwyddo gweithgareddau'r Urdd. Fe fydd criw 'Pam Fi Duw?'yn mynd i fwy o weithgareddau'r Urdd y tymor nesaf ac fe fyddant yn ymweld ag amryw o adrannau sydd gennym yn yr ardal.
CWRS PÊL DROED YR URDD
Ar Mehefin 3, fe gynhaliodd yr Urdd cwrs pêl droed yng nghaeau Prifysgol Morgannwg, Trefforest. Roedd hyn yn gyfle gwych i ymarfer a dysgu sgiliau pêl droed. Roedd y rhai a fynychodd wedi dod ar draws ardal Rhondda Cynon Taf ac roedd yn braf gweld pawb yn cymdeithasu a mwynhau eu hunain. Fe ennillodd Christopher Prosser, Nicholas Bailey a Gethin Davies wobrau arbennig yn ystod y cwrs a dyma lun ohonynt gyda'r hyfforddwyr, Matt Williams ac Huw Morgan ar y dde. Mae'r Urdd wedi trefnu llu o gyrsiau pêl droed eleni yn yr ardal ac fe fydd yna fwy ohonynt y flwyddyn nesaf.