PARTI PONTY

Mae sawl un wedi holi am fy ymateb i Barti Ponty ar ôl darllen Tafod mis diwethaf - dywedais "dyna fe barti drosodd" a dyna i gyd. Wrth gwrs roeddwn i wrth fy modd, fel y miloedd o bobl eraill a fu yn y parc ar y diwrnod, ond roeddwn i wedi ysgrifennu'r erthygl cyn y diwrnod felly doeddwn i ddim am ganmol rhag ofn i ni gael diwrnod ofnadwy o wael.
   Hoffwn i ddiolch i bawb a wnaeth helpu trefnu'r diwrnod, Radio Cymru, S4C, Yr Urdd, Mudiad Meithrin, Cymdeithas yr Iaith, Y Cymro ac eraill. Hoffwn i ddiolch yn arbennig i'r athrawon a'r disgyblion ysgol oedd wedi gweithio mor galed er mwyn darparu'r sioe ar lwyfan Banc Barclays y Fenter. Roeddwn i'n hapus iawn gyda'r holl gyfraniadau ac yn falch o weld y dorf yn symud yn ddigon naturiol o adloniant Radio Cymru i berfformiad Martin Geraint (Pwy arall ?) ac yn ôl ar ôl i ni orffen.

Roedd rhaglen Ysgol Rhydfelen ar Radio Cymru yn dda iawn ac yn ddilyniant naturiol i'r chwe rhaglen fach rydym wedi darparu mewn cydweithrediad â'r ysgolion lleol yn ystod y tair blynedd diwethaf. Rwy'n falch o ddweud y bydd Gethin Thomas yn paratoi eitemau eraill - mwy na thebyg gydag Ysgol Y Cymer i ddechrau - yn ystod y flwyddyn nesaf. Roedd ein hatodiad yn Y Cymro yn llwyddiant mawr hefyd gyda phob ysgol uwchradd Gymraeg a phob papur bro yn Rhondda Cynon Taf yn ymuno â CYD er mwyn darparu rhywbeth gwerth chweil.

Dyna ni parti drosodd am eleni - ond y mae si y bydd Parti Ponty yn ôl gyda Radio Cymru ym 1999 - yn fwy, yn fawreddog ac yn werth ei weld.

Swyddog Gofal Plant yn llwyddo i ddelio gyda'r holl waith rwyf yn taflu ati hi - ac mae miloedd o sesiynau gofal Cymraeg yn cael eu cynnal o ganlyniad ac y mae cannoedd o siaradwyr Cymraeg yn cael cyfle i weithio yn y Gymraeg.

CYNHADLEDD GYRFAOEDD CYMRAEG
Mae hyn ar y ffordd ac fe fydd cynhadledd un dydd yn cael ei gynnal gyda'r holl ysgolion uwchradd Cymraeg, y cwmni gyrfaoedd, TEC Morgannwg Ganol, Partneriaeth Addysg Busnes, Banciau Barclays a Midland fel noddwyr ym Mhrifysgol Morgannwg ar 29/3/99. Mae'n rhaid cynllunio dipyn ymlaen llaw a gweithio yn galed er mwyn creu pethau newydd.

DADL Y FLWYDDYN
Na, nid fi fel mae'n digwydd ond Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Menter Taf-Elái - y Fenter Iaith - a gynhelir ar 9/10/98 yng Nghanolfan Gelf Y Miwni Pontypridd. Yr Arglwydd Dafydd Ellis Tomos yn esbonio bod brwydr yr iaith drosodd oherwydd dyfodiad y cynulliad ac Aled Davies Cadeirydd presennol Cymdeithas yr Iaith yn esbonio pam fod angen brwydro ymlaen. Gan nad oes disgwyl iddynt gytuno ar y mater y mae'r Arglwydd Gwilym Prys Davies yn cadeirio ac yn cadw trefn. 7pm nos Wener 9/10/98 yn y Miwni. Yn dilyn y ddadl mae cyfarfod blynyddol y Fenter - mae angen Cadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd a Swyddogion newydd -

Grðp Angharad Bizby
ar lwyfan y Fenter
ym Mharti Ponty


GWIRFODDOLI YN Y GYMRAEG
Rhywbeth arall bydd gwerth ei weld bydd Swyddog Datblygu Gwirfoddoli Cymraeg y Fenter a fydd yn dechrau gweithio o swyddfeydd Interlink cyn y Nadolig. Mae hysbyseb yn y papur hwn a ffurflenni cais ar gael o swyddfa'r Fenter. Diolch byth bod modd cyfeirio at ychwanegiad i'n staff am unwaith!

CLYBIAU'R FENTER
Dwi ddim am ddweud gormod am hyn ar hyn o bryd. Nid oes Swyddog Ieuenctid gennym, nid oes unrhyw gefnogaeth ariannol gennym i gynnal y clybiau. Does dim eisiau bod yn athrylith i sylweddoli nad oes modd darparu gwasanaeth tymor hir fel hyn ac felly y mae wedi arwain at sawl llythyr at noddwyr posib.

CLYBIAU GOFAL
Nawr dych chi'n siarad - mae modd i ni wneud gwyrthiau fan hyn ac yn wir - rydym yn gwneud gwyrthiau fan hyn. Swyddog Datblygu Chwarae Teg wnaeth dynnu fy sylw at y ffaith y byddai 10 cynllun gennym o fewn y flwyddyn nesaf pe bai popeth yn llwyddo. Rydym yn llwyddo - a bod yn onest mae Glenys Jones ein

8

Mwy o'r Fenter