Mae pentrefwyr yn gobeithio y bydd arian o Gronfa'r Mileniwm yn eu helpu i godi neuadd Bentre' newydd yn Ffynnon Taf.
"Ryn ni wedi mynd heibio'r postyn cynta" meddai Josie Thomas, trysorydd pwyllgor y neuadd. "Ryn ni i gyd yn croesi'n bysedd."
Dwy flynedd yn ôl, fe sylwodd aelod o'r pwyllgor ar erthygl yn yr Echo yn gwahodd ceisiadau am nawdd ar gyfer mentrau cymunedol. Gyda chymorth Interlink, y mudiad gwirfoddol, mae'r pwyllgor yn paratoi cais manwl.
"Mae'r cais yn ateb gofynion y Gronfa," meddai'r pensaer, Alwyn Harding Jones, sy' wedi paratoi'r cynllun ar gyfer y neuadd newydd. "Os yw'n llwyddiannus, fe fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywyd y pentre'. Un nod yw gwneud y neuadd yn haws ei chyrraedd o'r heol fawr a'i gwneud hi'n fwy cymunedol."
Nid y Cyngor Bwrdeisdref sy'n berchen ar y neuadd. Pan gafodd ei hagor yn 1955, glowyr Pwll Nantgarw a theuluoedd y cylch oedd yn ei noddi a phawb yn talu ceiniog yr wythnos.
Pan gaeodd Pwll Nantgarw, fe drosglwyddodd y Gyfrinfa'r holl gyfrifoldeb i bwyllgor neuadd y pentre'.
LLE I AMAU?
Deellir nad yw Cyngor Bro Ffynnon Taf wedi delio'n foddhaol eto â dau bwynt pwysig a godwyd yn eu cyfarfod yn Ebrill.
"Fe godwyd pwynt ynglþn â pheidio â datgan budd ariannol," meddai'r cofnodion. "Cytunwyd fod y Clerc yn gofyn i Gymdeithas y Cynghorau Lleol am gyngor."
Yn yr un cyfarfod "fe godwyd pwynt ynglþn â'r etholiadau Cyngor Bro a gynhaliwyd yn ddiweddar - afreoleidd-dra honedig." Fe gytunwyd fod y Clerc yn cysylltu â swyddog etholiadau Cyngor Rhondda Cynon Ta£
TRA BO DAU
Llongyfarchiadau i'r par o Nantgarw sy' wedi priodi hira' efallai yng ngwledydd Prydain. Mae Alice a George Hutchinson, a briododd yn Eglwys Eglwys Ilan yn 1923, newydd ddathlu eu pen blwydd priodas. Ers pumdeg mlynedd mae Alice, 96 oed, a George, 92 oed, wedi byw yn Heol-y-Coed. Mae ganddyn nhw dri phlentyn, wyth wyr ac unarddeg gor-wyr. "Ryn ni wedi carco ein gilydd erioed," meddai Alice. "Mae parau heddi' yn rhoi lan yn rhy glou." "Smo ni'n cwympo mas llawer," meddai George. "Ond os yn ni, ryn ni'n penderfynu pwy sy'n iawn a phwy sy' ddim."
CYHUDDIADAU CYFFURIAU
Mae Simon Evans, 30 oed, o Heol Caerdydd, Ffynnon Taf, wedi ei gyhuddo o feddu ar a chyflenwi heroin ac o feddu ar gannabis. Fe ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Pontypridd yn ddiweddar a chaniatawyd mechniaeth iddo.
CYHUDDIAD O DDWYN
Fe fydd Andrew Best, 41 oed, o Riwddar, Ffynnon Taf, yn ymddangos yn Llys y Goron, Caerdydd, ar ôl i Lys Ynadon Caerdydd ganiatau mechniaeth ddiamod iddo. Mae e wedi ei gyhuddo o ddwyn, ffugio a thwyllo ac mae'r cyhuddiadau'n ymwneud ag elusen Grass Roots sy'n cynnig cyngor, hyfforddiant ac addysg i bobol ifanc.
JON AR Y BLAEN
Y cefnwr, Jon Grundy, sy' wedi ennill Gwobr Chwaraewr y Flwyddyn yng Nghlwb Rygbi Ffynnon Taf, Marc Evans, o'r ail reng, yw'r chwaraewr sy' wedi gwella fwya' a Paul Salathiel yw Chwaraewr Gorau'r Ail Dîm. Fe gafodd Lawrence Bonetto, Roger Lugg, a Lynn Williams eu canmol am eu gwasanaeth i'r Clwb.
Hwn yw'r pedwerydd tro i'r cyn-Lew Prydeinig, Ian Stephens, gael ei ddewis yn hyfforddwr ac Andy Matthews unwaith eto yw'r chwaraewr/hyfforddwr. "Ryn ni'n lwcus fod ein hyfforddwyr ni mor brofiadol," meddai'r rheolwr, Rhys Phillips.
Mae'r Clwb wedi symud i'r Bumed Adran eleni.
DRYLLIAU'N DALA TROSEDDWYR
Mae Heddlu'r De wedi bod yn brysur yn pwyntio drylliau at yrwyr cyflym. Wrth inni fynd i'r wasg, y rhifau diweddara' oedd rhai mis Mai: • 289 o yrwyr cyflym yn cael eu dala ar Heol Caerffili, Nantgarw (o'u cymharu a 102 a gafodd eu dala ar yr A470 ger Abercynon yn Ebrill) • 120 yn cael eu dala ar Fryn Brynteg, y Beddau • 76 yn cael eu dala yn Heol y Gilfach, Gilfach Goch. "Fe gafodd 1,155 o yrwyr cyflym eu riportio yn Rhondda Cynon Taf ym mis Mai," meddai llefarydd ar ran Heddlu'r De.
MARW BRYNLEY JENKINS
Yn sydyn ar Orffennaf 27 fe fu farw Brynley David Jenkins o Waelod-y-Garth, gwr Beryl, tad Terry, Brynley, Leighton ac Ian, a thad-cu cariadus. Roedd yr angladd ar Orffennaf 31 yng nghapel preifat Tþ Hebrwng Cwrt y Castell Trefforest, a'r traddodiant yn Amlosgfa Glyntaf, Pontypridd. Cydymdeimlwn a'r teulu.
CYNNYRCH GARDD
Fe enillodd Prosiect Gardd Ysgol Gwaelod-y-Garth wobr yng Nghystadleuaeth Uwch-Gynhadledd Ieuenctid a Gwobrwyon Dinesig Arglwydd Faer Caerdydd. Fe gafodd Fflur Angharad, Sian Davies, Sandrus Wilson, Jonathan Wiliams a Daniel Budd eu gwahodd i seremoni wobrwyo yn Neuadd y Sir, Caerdydd.
"Disgleiriodd eu hwynebau pan glywon nhw eu bod wedi ennill llechen a siec gwerth £300," meddai Gerwyn Williams, y prifathro.
DECHRAU PENNOD NEWYDD
Pob lwc i'r canlynol sy'n dechrau yn Ysgol Gyfun Radur y mis hwn: Nicole Dowsell, Rhiannon Harris, Matthew Horn, Gareth Oosthuizen, Craig Smith, Jonathan Williams, Nadine Egal, Jessica Prichard a Kayleigh Williams.
A phob lwc i'r rhai sy'n dechrau yn Ysgol Gyfun Rhydfelen: Sian Bevan, Mari Haf Davies-Rollinson, Stacey Griffiths, Cari Rowlands, Catherine Tucker, Kelli Winter, Bleddyn Carter, Jamie Field, Martin Irwin, David Jefferies, Lloyd Jones, Iwan Lewis, Sam Perry, Phillip Rees, Huw Thomas a Rhys Williams.
DIGWYDDIADAU
CAPEL BETHLEHEM, Gwaelod-y-Garth, 10.30. Medi 6: y Gweinidog, Cymun; Medi 13: Parchedig Allan Pickard; Medi 20: y Gweinidog; Medi 27: Dr Hywel Grifiiths. CYLCH TI A FI, Ffynnon Taf: bob prynhawn Mawrth yn ystod y tymor, Neuadd Pentre' Ffynnon Taf, 1.30-3pm. Manylion oddi wrth Heather Rollinson-Davies, 01222 811582 neu Helen Hoyle, 01222 813522. CYMDEITHAS ARDDWROL Ffynnon Taf a'r Cylch: dydd Mawrth cynta'r mis, Clwb Cyn-Aelodau'r Lluoedd Arfog, Glan-y-Llyn. Manylion oddi wrth Mrs Toghill, 01222 810241. DAWNSIO DILYNOL MODERN: bob nos Sadwrn, Neuadd y Pentre', Ffynnon Taf, 7.45-10.15pm. Manylion: 01222 561991. Bob nos Fercher, Neuadd y Pentre' Gwaelod-y-Garth, 7.30pm. WEIGHT WATCHERS: bob Nos Fercher, Neuadd Pentre' Ffynnon Taf, 6.30pm. Manylion: 01633 810090. YSGOL GWAELOD-Y-GARTH: Tymor yr Hydref yn dechrau i'r plant ar Fedi 3. Medi 2 yn ddiwrnod hyfforddiant mewn swydd i'r staff.
A ninnau ar drothwy tymor newydd efallai mai priodol yw atgoffa'n gilydd o'r hwyl a gawsom fel cangen yn ystod y tymor diwetha, ac y mae'r llun a welwch yn brawf ardderchog o'r hwyl hwnnw.
Dyma ni'r criw heini a ddilynodd ein harweinydd a' n Llywydd, Gill Rees, i ben y Caerau uwchlaw Rhiwsaeson ar noson hyfryd ym mis Mai eleni. Roedd yn gyfle gwych i fwynhau prydferthwch ein bro cyn cymryd seibiant ar ben y Gaer i gynnal ein Cyfarfod Blynyddol!
Bu Tymor 1997-8 yn un llwyddiannus dros ben a mawr yw ein diolch i'r Swyddogion a'r Pwyllgor am eu gwaith caled ar hyd y tymor. Diolch hefyd i'r holl aelodau am eu cefnogaeth a'u ffyddlondeb i'r cyfarfodydd. Cawsom gyfle i groesawu aelodau newydd yn ystod y flwyddyn a braf iawn hefyd oedd cael croesawu merched Efail Isaf yn ôl atom. Rydym yn hyderus y cawn hwyl yng nghwmni' n gilydd unwaith eto yn ystod Tymor 1998-9. Mae'r rhaglen yn argoeli'n un dda a diddorol, ac y mae ynddi rywbeth at ddant pawb, gobeithio. Byddwn yn agor y tymor ar nos Fercher, 9fed o Fedi gyda noson gymdeithasol, sef noson o Gaws a Gwin ac Adloniant. Yna, o hynny i'r Nadolig gobeithiwn gael sgwrs ar ‘Tafodiaith Bro'r Eisteddfod' gan John Bevan, paratoi ar gyfer y Nadolig yng nghwmni Alma Carter, a mynychu cyngerdd neu oratorio a berfformir yn lleol yn ystod mis Rhagfyr.
Ym mis Ionawr byddwn yn dathlu'r Hen Galan yn ôl ein harfer, ac o hynny hyd at fis Mai, cawn nosweithiau yng nghwmni tri o gyfeillion eraill: daw Wynne Lloyd atom i olrhain gyrfa Bryn Terfel, cawn gip olwg ar ddyletswyddau Meistres Gwisgoedd yr Orsedd gan Sian Aman, a chawn wrando ar Hannah Roberts yn adrodd ambell stori am ei hoff fotymau!
Ym mis Mai, bydd Ted Edwards o'r Eglwys Newydd yn ein harwain ar daith gerdded ym Mharc Gwledig Fferm y Fforest, gan ddilyn darn o Gamlas sir Forgannwg i sylwi ar fyd natur o'n cwmpas a chael cyfle i glywed y gwcw, gobeithio. Ym mis Mehefin, bwriadwn fentro i Eisteddfod Merched y Wawr sydd i'w chynnal ym Mhontrhydfendigaid!
Bydd croeso cynnes yn eich aros ym mhob un o'r cyfarfodydd a gynhelir ar yr ail nos Fercher o bob mis. Dewch yn llu, ac os ydych newydd symud i fyw i'r ardal, dyma gyfle i chi ymuno â ni ac i ymgartrefu yn ein plith. Gellwch gael manylion pellach oddi wrth yr Ysgrifennydd, Viona Jones, rhif ffôn 01222 891445.