www.tafelai.net

1 

Hydref 1999

Rhif  141

Pris 25c

Tafod Elái

Archebwch eich copi

£2.50 am y flwyddyn


Dosbarthwyr lleol ym mhob rhan o'r fro

Tîm Rygbi Ysgol Gynradd Llantrisant

gyda Chwpan Rygbi'r Byd

tafod elái

GALW AM Y GYMRAEG YN CREU SWYDDI NEWYDD


Mae BT am ehangu'r adran sy'n delio gyda chwsmeriaid Cymraeg yn dilyn cynnydd mawr yn y galw gan bobl sydd am drafod eu busnes â'r cwmni yn Gymraeg.

   Ers dechrau'r flwyddyn mae galwadau i Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg BT ym Mae Colwyn wedi dyblu o tua 400 i oddeutu 800 galwad yr wythnos.

   Yn awr mae'r cwmni am gyflogi chwech o staff ychwanegol, gan gynyddu'r nifer o bobl yn gweithio yno i 21. Maent yn delio gydag ymholiadau gan gwsmeriaid am filiau, gwerthiant offer a gwasanaethau, materion gwasanaeth a thrwsio.

   Agorwyd y ganolfan yn 1992 gyda chwech o staff yn unig, ond bu cymaint o alw fel y bu'n rhaid symud i ganolfan fwy a agorwyd yn swyddogol ddwy flynedd yn ôl gan yr Arglwydd Elis-Thomas o Nant Conwy, Cadeirydd y Bwrdd Iaith ar y pryd.

   Dywedodd cyfarwyddwr Cymru BT, John Davies: "Yn ôl ein ffigurau mae'n amlwg bod pobl yn fwy parod i ddefnyddio'r Gymraeg nawr nag oeddent pan agorwyd y ganolfan saith mlynedd yn

ôl.

   "Wrth gwrs, rydym yn falch iawn o hynny a hefyd yn hapus bod ein canolfan ym Mae Colwyn yn darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i gwsmeriaid yn Gymraeg."

Rhif ffôn y ganolfan yw -

0800 800288.

Yn y mis diwethaf bu nifer o ddatblygiadau cyffrous. Agorwyd Menter Bro Ogwr yn swyddogol a dymunwn yn dda i Rhodri Francis sy'n Swyddog Datblygu yno. Mae Menter Iaith Caerdydd wedi penodi Gareth Kiff yn Swyddog Datblygu yn y ddinas ac yn barod mae wedi gwneud ei farc drwy ddod â

chyhoeddusrwydd i ymdrechion dysgwyr Cymraeg.

   Ac yn dilyn cyfarfod yn Ystrad Mynach ar ddiwedd mis Medi mae trigolion Sir Caerffili wedi penderfynu ffurfio Menter yno.

   Cefnogaeth sydd angen ar y Mentrau hyn i sicrhau datblygiad llewyrchus i'r iaith yn y fro.

MENTRAU IAITH NEWYDD

Nesaf >

Nesaf >

Cartref