Cylch Meithrin ar Daith

YSGOL CREIGIAU


Pel droed
Chwaraeodd tim pêl droed Ysgol Creigiau yn erbyn tîm pêl droed Ysgol Trefforest. Gêmau cyfartal oedd y tair. Yn y gêm olaf y sgor oedd 3-0 i Greigiau. Roedd Mr Evans yn blest. Ddydd Gwener y 19 o Dachwedd chwaraeodd tîm pêl droed Ysgol Creiglau mewn cystadleuaeth yng Ngerddi Soffia. Yn y gêm gyntaf chwaraeon ni Llanishen Fach A a chollon ni 2-1. Yn yr ail gêm chwaraeon ni Melin Gruffydd B a enillon ni 6-0. Yn y drydedd gêm y sgôr oedd 1-1. Chwaraeon ni'n dda.

Pêl Rwyd
Chwaraeodd tim pel rwyd Ysgol Creigiau yn erbyn Eglwys Newydd. Y sgor oedd 3-1 i Eglwys Newydd. Chwaraeodd tim pêl rwyd Creigiau yn erbyn Penygawsi. Enillodd Creigiau 5-1. Chwaraeon ni'n dda.

Dwy funud o dawelwch.
Roedd Adran Iau yr ysgol wedi mynd ar yr iard a bod yn dawel am ddwy funud. Roedden ni'n dawel i gofio am y bobol oedd wedi marw yn y ddau Ryfel Byd.

Operation Christmas Child
Llanwyd 175 o focsus eleni. Byddant yn mynd i blant yn Bosnia a Cosovo.

Traddodiadau Nadolig
Aeth Dosbarth Pump a Dosbarth Pedwar ar drip i Sain Ffagan i weld hen draddodiadau'r Nadolig. Roedd yn oerach yn y capel nag yr oedd hi y tu allan! Fe ddysgom lawer ac roedd y cyflaith blasus yn sicrhau.bod pawb yn dawel ar y ffordd yn ôl.

Dyma blant Cylch Meithrin Creigiau gyda'u rhieni a'i brodyr a chwiorydd yn mwynhau trip ar fws to agored o gwmpas Caerdydd. Gofynnodd Cwmni Teledu Antena os fydde diddordeb gan y Cylch gymeryd rhan mewn cyfres newydd o'r rhaglen deledu plant 'Tþ ni, Tþ chi'. Trafnidiaeth fydd pwnc trafod y gyfres newydd. Roedd y plant yn arbennig o dda tra'n cael eu ffilmio, ac yn lwcus fe gawsom dywydd bendigedig. Fe fydd y rhaglen yn cael ei ddarlledu yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Parti'r Efail yn cystadlu yng Ngðyl Cerdd Dant Corwen ym mis Tachwedd

7